Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Greta Vaughan (Fflur Medi Owen) a Karl Weissman (Owen Arwyn)Cysgod y Cryman
Cysgod y gwreiddiol yn rhy gryf?
  • Adolygiad Eifion Lloyd Jones o Cysgod y Cryman - addasiad llwyfan Sion Eirian o nofel Islwyn Ffowc Elis. Cynhyrchiad Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru. Theatr Gwynedd, Bangor, Chwefror 2, 2007.

    Roedd hi'n naturiol fod Sion Eirian yn pryderu sut ymateb fyddai i'w addasiad o nofel y ganrif.

    Hwyrach y gallai sgrin fawr y sinema geisio gwneud cyfiawnder â chynfas eang y nofel, ond prin fod y sgrin fach wedi gwneud hynny gyda'r telediad o Lleifior.
    Felly, pa obaith oedd gan un lleoliad neu un llwyfan?

    Pethau wedi newid
    Gan fod dros hanner canrif ers i Islwyn Ffowc Elis gyflwyno'i glasur, mae'n anorfod fod y themâu wedi'u dyddio a'u harwyddocâd wedi lleihau ers cyfnod y Rhyfel Oer ym Mhumdegau'r ganrif ddiwethaf.

    Mae Mur Berlin a'r Llen Haearn wedi dymchwel, a chomiwnyddiaeth yn atgof yn hytrach na'r bygythiad a fu i lawer, bryd hynny.

    Harri Vaughan - Carwyn Jones Sut, felly, oedd cynnal prif hanfod unrhyw ddrama, sef gwrthdaro?

    A lwyddwyd i gyfleu tensiwn y berthynas rhwng gwahanol gymeriadau?

    A gafodd y gynulleidfa ei hargyhoeddi a'i bodloni?

    Cymysglyd oedd yr ymateb yr oeddwn i'n ei glywed a'i synhwyro i'r cwestiynau hyn.

    Cyfres o olygfeydd
    Er mwyn cyfleu rhychwant eang digwyddiadau'r nofel mewn gwahanol leoliadau a chyfnodau, roedd hi'n anorfod fod angen cyfres o olygfeydd byrion i gario'r naratif.

    Canlyniad hyn oedd creu argraff bytiog oedd ddim yn cynnig cyfle i ddatblygu gwrthdaro na thensiwn digonol i gael gafael ar drwch y gynulleidfa.

    Roeddwn i'n amheus o werth yr ychydig areithiau uniongyrchol a oedd hefyd yn arafu'r digwydd.

    A thybed a fu'n rhaid defnyddio gormod o eiriau ambell dro i drosglwyddo'r holl syniadau sy'n llifo'n naturiol rhwng cloriau nofel?

    Talpiau helaeth o Saesneg
    Mae'n ymddangos fod yn rhaid cael talpiau helaeth o Saesneg ym mhob cynhyrchiad o bob cyfnod ar lwyfan a theledu erbyn hyn, ac er bod elfen o hynny yn y nofel wreiddiol, roedd y canran ohono'n fwy mewn dwyawr o gynhyrchiad.

    Meri-go-rownd?
    Anhawster arall wrth gyfleu cynifer o leoliadau mewn cyfnodau byr oedd yr angen i newid safle mor aml.

    Roedd y set ei hun yn fawr, urddasol ac effeithiol, ond roedd y canol yn troi mor aml nes atgoffa rhywun o feri-go-rownd yn y ffair.

    Er hynny, roedd y newid tua'r diwedd o'r ymgyrch wleidyddol i gyhoeddi'r canlyniad yn esmwyth iawn.

    Braidd yn wan oedd y goleuo ar adegau ac er y gellid derbyn fod hynny'n ymdrech i greu effaith, roedd y newid golau yn araf unwaith neu ddwy.

    Elfen effeithiol oedd y lluniau ar y gefnlen i gyfleu'r lleoliadau, er y bu un cam gwag gyda hynny, hefyd.

    Cerddoriaeth gynnil
    Un o gryfderau'r cynhyrchiad oedd cynildeb cerddoriaeth Gareth Glyn a chanu cynghanedd lleisiol yr actorion o anthemau Cymru a'r Faner Goch cyn yr egwyl, ac o Garol y Blwch ar ôl hynny.

    Ond dwy olygfa fer oedd yn tueddu i lusgo oedd un "Bless this House" tua'r dechrau, a'r cyfuniad o ddawnsio a gosod posteri tua'r canol.

    Acenion
    Yn gyffredinol, llwyddwyd i gynnal acenion Powys yn ddigon deche ond roedd hi'n chwith clywed "dwy deulu" a "machludo" mewn addasiad o waith Islwyn Ffowc Elis - ond eithriadau oedd rhain mewn llefaru safonol ac eglur.

    Perfformiadau
    Roedd ansawdd y perfformiadau'n bur gyson drwyddi draw, heb gyfle i neb greu argraff fawr, er y byddwn i'n tueddu i ganmol yr actorion hÅ·n am eu presenoldeb cadarn:
    Llion Williams Dyfan Roberts ac Owen Garmon fel y ddau hen batriarch, Christine Pritchard am or-actio effeithiol o'r ddwy wraig, a Llion Williams am gameo gwyrgam o'r gwas annifyr.

    Rhagoriaeth perfformiadau'r actorion ifanc oedd golygfeydd tyner y gwahanol gariadon, er na lwyddodd Carwyn Jones i gyfleu cadernid na charisma Harri Vaughan ein dychymyg.

    A braidd yn chwithig oedd fod Bethan Wyn Hughes ac Iola Hughes yn gariadon gartref ac yn ddwy hoeden amlyca'r coleg!

    Y genhedlaeth hÅ·n
    Mae'n debyg mai at y genhedlaeth hŷn y bydd y cynhyrchiad yma'n apelio fwyaf - y rhai ohonon ni sydd â chymaint o feddwl o'r nofel wreiddiol a'r nofelydd i fwynhau hel atgofion efo'r perfformiad.

    Nodwedd o apêl yr hen ffasiwn oedd chwerthin amlwg y gynulleidfa am gam-gyfieithu treuliedig gwraig y Trawscoed.

    Ond go brin fod yma theatr o wrthdaro na thensiwn gafaelgar.

    Mae'n debyg, yn wir, fod y nofel wreiddiol ar gynfas rhy eang i un llwyfan dwyawr.

    Cryfder y gwreiddiol ac nid gwendid yr addasiad na'r perfformiad sy'n gyfrifol am hynny.

    Dyddiadau'r daith o amgylch Cymru ac yn Llundain:
  • Theatr Gwynedd, Bangor - Iau, Gwener a Sadwrn (perfformiad y prynhawn a fin nos), Chwefror 1-3, 2007.

  • Theatr y Lyric, Caerfyrddin - Mawrth, Chwefror 6, 2007. Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe - Iau a Gwener, Chwefror 15-16, 2007.

  • Theatr Brycheiniog, Aberhonddu - Mawrth a Mercher, Chwefror 20-21, 2007 Theatr Sherman, Caerdydd - Gwener a Sadwrn, Chwefror 23-24, 2007.

  • Canolfan Gelfyddydau - Mawrth a Mercher, Chwefror 27-28, 2007.

  • Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug - Llun, Mawrth 5, 2007.

  • Theatr Mwldan, Aberteifi - Iau, Gwener, Sadwrn, Mawrth 8-10, 2007.

    Mae'r perfformiadau i gyd, ar wahân i'r un y prynhawn yn Theatr Gwynedd yn dechrau am 7.30 o'r gloch.

    Yn Llundain
    Bydd y perfformiad yn Llundain ar Ebrill 5, 2007 yn Theatr Bloomsbury sydd heb fod yn bell o Orsaf Euston.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Colli cyfle - barn Paul Griffiths

  • Sion Eirian yn trafod yr addasu

  • Helynt Theatr Hafren


  • cyfannwch

    Dafydd Andreas, Gwynedd
    Cynhyrchiad gwych, perfformiadau da iawn yn enwedig gan yr actorion ifanc yn y cast. Martin John yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Theatr Gen, llongyfyrchiadau; Carwyn Llyr - da chdi! Dal ati - wedi mwynhau yn fawr.

    Caron Llyr Williams Prifysgol Aberystwyth
    Drama bwerus iawn, gyda perfformiad gwych gan Llion Williams yn portreadu Wil James.

    Nia, Rhostryfan
    Mi wnes i fwynhau'r cynhyrchiad yn fawr iawn. Fodd bynnag, rwy'n cytuno ag Eifion Lloyd Jones ynghylch ambell i beth, fel safon yr iaith mewn ambell i le prin. Ar y cyfan, cefais fy siomi o'r ochr orau; roedd y cast yn wych, y set yn rhagorol, ac mi wnes i a'm cyfoedion ei mwynhau'n fawr iawn. Dwi'n anghytuno mai dim ond i'r genhedlaeth hyn y byddai'r ddrama hon yn apelio - rydan ni yn ein hugeiniau a'n tridegau cynnar. Da iawn pawb wir. Mae'n anodd plesio pawb.



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý