主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwisgoedd traddodiadol gwlad Groeg Gwisg Genedlaethol Groeg
Balchder cenedlaethol
Lynda Ganatsiou o wlad Groeg yn trafod gwisg genedlathol y wlad.
Hydref 2002

Yr ydym ni newydd fod yn dathlu ein Dydd Cenedlaethol yma yng Ngwlad Groeg.

Dyma ddiwrnod gorymdaith fwya'r flwyddyn - gorymdaith i goffau'r ieuanc am ddewrder a'r rhai a fu farw dros eu gwlad.

Ar 28 Hydref 1940 bu i wlad Groeg wrthsefyll Mussolini, a dweud "OXI" (OCHI) neu "NA", a rhwystro'r Eidalwyr rhag cael mynediad i wlad Groeg.

Gwrthod amod olaf gan yr Eidalwyr a wnaethant. Bu hyn yn achos felly i'r wlad hon ymuno yn yr Ail Ryfel Byd.

Gorymdaith anferth

Mae'n orymdaith anferth o dros awr a hanner gyda thanciau, rocedi a dynion y Lluoedd Arfog.

Hefyd mae plant ysgol a phobol yn eu gwisgoedd Cenedlaethol o bob rhan o ardal Macedonia: - yr ardal yr ydym ni yn perthyn iddi.

Eleni, dewisodd George, fy ngwr, a minnau beidio â mynd i'r dref fawr ond cefnogi tref fechan Thermi (maestref o Thessaloniki).

Byddai'n werth sôn ychydig am y wisg genedlaethol.

Wedi i Groeg ddod yn rhydd yn chwarter cyntaf y 19eg ganrif, dechreuodd dynion y wlad wisgo'r Ffwsranela.

Oherwydd ei phoblogrwydd anghyffredin, daeth y wisg yma yn un o'r gwisgoedd traddodiadol mwyaf adnabyddus yn y byd.

Fel cilt yr Alban, mae'r Ffwstanela yn arwydd o hunaniaeth Roegaidd.

Pob rhanbarth yn wahanol

Fel pob gwlad, mae gwlad Groeg wedi ei rhannu yn wahanol ranbarthau: Thrace, Macedonia, Epirus, Thessaly, Canolbarth Groeg, Pelaponnese, Crete, ynysoedd yr Aegean ac ynysoedd Ionia. O ranbarth i ranbarth mae'r wisg yn amrywio.

Ond nid yw'r gwisgoedd sydd i'w gweld ar y diwrnod Cenedlaethol yn hynach na dechrau'r 18fed ganrif.

Mae gwisgoedd Groegaidd yn trawiadol gan darddu o'r traddodiad hynafol Bysantaidd.

Gellir cysylltu'r rhan fwyaf ohonyn nhw â ddigwyddiadau hanesyddol a chymdeithasol. Hefyd, fe all pob gwisg ddarlunio safle personol, cymdeithasol, economaidd, priodasol ac oed person.

Gellir edmygu pob math o waith cywrain poblogaidd mewn un wisg unigol. Gan amlaf mae'r gwisgoedd wedi eu rhannu yn dri chategori:

Y rhai sy'n cael eu gwisgo yn ardaloedd mynyddig.
Y rhai sy'n cael eu gwisgo ar y gwastadeddau.
Y rhai sy'n cael eu gwisgo yn yr ynysoedd.

Yna gellir eu rhannu i ddau is-dosbarth:

a) Y wisg wledig.
b) Y wisg drefol.


Gwisg y merched
Mae'r gwisgoedd hyn yn amryliw ac yn ddisglair dros ben gyda rhai yn anghyffredin o drwm ac wedi eu haddurno ag edau aur.

Diddorol ydy gwisg y menywod a gellir eu rhannu yn dau categori. Mae gan y categori cyntaf gysylltiad clir â'r dylanwadau Bysantaidd tra bo gan yr ail nodweddion gorllewinol cvryf hefyd.

Ym mhob tref fe ddewch o hyd i dri neu bedwar amrywiad eto, o'r un wisg!

Y wisg fwyaf poblogaidd gan y menywod yn y rhan fwyaf o drefi oedd yr Amalia, a ddewiswyd gan y Frenhines Amalia ei hun - brenhines gyntaf y wlad ond a oedd a gwreiddiau ym Mafaria.

Gwyrdd oedd lliw sgert yr Amalia yn wreiddiol ond wedyn fe'i newidiwyd i las. Gwisgir siaced ag iddi lewys hir dros y sgert, a chordyn hir i'r het.

Yn draddodiadol mae hwn yn cael ei wneud o blethen o wallt y ferch ei hun. Yn ôl traddodiad, yr hiraf oedd y cordyn yna'r mwyaf oedd ffafr y ferch arbennig yma yn llys Amalia!

Gwisgoedd Sofia ac Olga, fodd bynnag, oedd yn cael eu gwisgo yn y llysoedd brenhinol.

Mae'r wisg fenywaidd fel arfer yn cynnwys y canlynol:

Y Pwcamiso: blows sydd i'w gweld bron ym mhob math o wisgoedd rhanbarthol; yna'r ffrog sylfaenol.

Yr Anteri neu Saias: dilledyn sydd yng nghanol y wisg fel rheol, y ffrog neu fath o gôt o sidanwe. Os digwydd i'r ffrog fod heb lewys, fe'i gelwir yn Tzacos neu Tsiponi.

Y Sigwni neu Giwrdi
: dilledyn allanol neu fath o gôt o ddefnydd gwlanog wedi ei wau â llaw.

Y Zwnari : y gwregys

Y Poddia : sef y ffedog. Roedd dau fath yn cael ei wisgo gan y menywod, un syml at waith ty, ac un arall wedi ei frodio ar gyfer digwyddiadau llawen.
.
Y Caltses neu Tswrargia: sef hosanau wedi eu gwau. Yn dibynnu ar yr ardal, fe allan nhw fod yn lliwgar.

Y Papwtsia
: Eto yn dibynnu ar yr ardal gallant fod yn llopanau, â'r pen uchod wedi eu brodio, clocs pren, botasen lledr, neu esgidiau wedi eu gwau.

Y Ceffaloddesimo neu Capelo: gwisg pen boed yn sgarff neu het, yn arferol wedi ei addurno â blodau, yn enwedig yng ngwisg y briodferch. Bydd y rhan fwyaf o'r rhain yn symbolau o ffrwythlondeb.



Gwisg draddodiadol y dynionGwisg y dynion:

Gwisgwyd y Ffwstanela gan llysgenhadon a rhyfelwyr Groeg yn chwyldro 1812, a heddiw mae'n gwasanaethu fel gwisg swyddogol yr Efzones, sef Gwarchodlu Arlywyddol Groeg.

Gellir gweld y rhain yn gwarchod Bedd y Milwr Anadnabyddus yn y brifddinas, Athens.

Yn wreiddiol gwisg y penaethiaid Groegaidd oedd y Ffwstanela. Fodd bynnag fe gafodd ei newid mewn dim o amser i'w wisgo ar wyliau ac achlysuron llawen.

Mae gwisg y dynion yn cynnwys y canlynol:

Y Pwcamiso: y crys cotwm wen a chanddi lewys llydan iawn sy'n hongian yn llaes.

Y Pandeloni neu Ffwstanela: trowsus neu gilt, neu Fraca (llodrau llydan) ar yr ynysoedd.

Ffwstanela ydy'r dilledyn sydd fwyaf adnabyddus o'r wisg Roegaidd ar hyd a lled y byd. Sgert o gotwm gwyn gyda rhyw 400 o blygiadau neu drionglau sy'n cael eu galw yn langolia, sy'n symbol o'r blynyddoedd y bu gwlad Groeg o dan lywodraeth Ottoman. Yna ceir y bwdwri neu'r trowsus oddi tano, sydd hefyd yn wyn.

Y Ieleco : gwasgod wlan o gynllun lleol ac wedi ei haddurno â brodwaith yn llawn o fanylion a phaneli yn hongian wrth ei chwt.

Y Zwnari: gwregys o ledr hardd.
.
Y Caltses: sanau hirion, gwyn, wedi eu gwau.

Y Tsarwchia: esgidiau a'u blaenau'n troi i fyny gyda phonpom ar y top, neu wahanol fathau o esgidiau.

Y Ffez: neu gwisgir cap du fel arfer, neu hyd yn oed sgarff du, Sarici .





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy