主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Fflam Gweld y Fflam Olympaidd
Estynnwch y fflam -
unwch y byd

Mae Lynda Ganatsiou newydd ddod yn ôl o gronfa ddwr Thermi lle bu seremoni cyflwyno'r fflam Olympaidd!


Ganwyd y campau Olympaidd yn Olympia yn 776 CC a'u cynnal bob pedair mlynedd wedyn nes i'r Ymerawdwr Rhufeinig, Theodosius, eu diddymu yn 393 OC gan farnu bod y campau yn baganaidd.

Adfywiwyd hwy yn 1896-yn Athen gan farwn Ffrengig,, Pierre de Coubertin, a Groegwr o'r enw Dimitrios Vikelas.

Eleni felly, mae'r campau Olympaidd yn dychwelyd i'w gwlad draddodiadol am yr eildro yn yr oes fodern.

Allor Hera
Cyneuwyd y fflam, a fydd yn llosgi yn y campau Olympaidd, rhwng adfeilion cysegredig Olympia ar Fawrth 25 gyda seremoni wrth allor Hera, duwies a addolwyd yn Olympia yn ystod y campau gwreiddiol 2,780 o flynyddoedd yn ôl.

Ail-gyneuwyd y fflam er mwyn cofleidio yr holl fyd yn ei goleuni.

Ar Orffennaf 9 dychwelodd y fflam i Wlad Groeg ar gyfer y cyfnewid terfynol sy'n parhau am 36 o ddiwrnodau gydag ymweliadau â 54 o siroedd y wlad gan gael ei gweld mewn 174 o leoedd, 32 o ynysoedd, a 24 o leoliadau.

Llawn teimlad
Ni feddyliais erioed y byddwn yn dyst i'r fath olygfa a gallwch ddychmygu'r cyffro o glywed y byddai'r fflam mor agos at drothwy fy nrws gan ymweld â thref fechan Thermi.

Nid yn unig cefais gipolwg arni wrth iddi fynd heibio ond heb fod nepell o'r prif sgwâr mae cronfa ddŵr sy'n lle agored perffaith ar gyfer seremoni ei derbyn.

Ac yn wir yr oedd yn seremoni deimladwy iawn gan mai dyma symbol mwyaf adnabyddus y campau Olympaidd.

Roeddwn yn wirioneddol wedi fy syfrdanu! Yn ddileferydd am y tro cyntaf yn fy myw!

Wynebau llawen yn Thermi Wedi ei chynnau bu'r fflam ar daith wythnos drwy orynys Peloponnesos yn ne Groeg ac ynysoedd yr Argosaronikos cyn dychwelyd a llosgi tu allan i stadiwm marmor Panathinaiko lle bu'r campau modern cyntaf.

Oddi yma fe'i cludwyd ar draws y byd gan ymweld â 34 o ddinasoedd mewn 27 o wledydd.

Dyma'r tro cyntaf erioed i'r tors ymweld â'r pum cyfandir gyda chyfnbodau yn Awstralia, Asia, Yr Affrig, De America, Gogledd America ac yna Ewrop.

Yn arwyddocaol enwyd y jet a gludai'r fflam yn, Zeus, a chariwyd y fflam mewn llusern arbennig gyda thîm o gynorthwywr yn sicrhau na fyddai golau cysegredig y duw, Apollo, yn diffodd ar ddamwain.

Mewn dagrau
Ymhlith y rhai fu'n cludo'r fflam mae sêr Hollywood fel Sylvestre Stallone a Tom Cruise.

O fyd y bêl cafodd Ronaldo, Pele a Zico ddal tors a grewyd o gromiwm a phren olewydd. Llethwyd Pele gymaint ag emosiwn ni allai ddal y dagrau'n ôl.

Hwn oedd cyfle trigolion Thermi i gymryd rhan mewn digwyddiad digyffelyb a byw y profiad o ddathlu'r ysbryd o undod, cyfeillgarwch a hedd y mae gan wlad Groeg yr anrhydedd o'i gynrychioli eleni.

Dim rhyfedd fod gwên ar wyneb pawb ac am eiliad fach, pob un wedi anghofio ei drafferthion ac yn hapus i fod yno yn rhan o'r llawenydd a thrysori'r olygfa fythgofiadwy ac ymfalchïo yn eu calonnau eu bod yn Roegiaid.

Curai pawb eu dwylo yn frwd a chwifio baneri gwyn a glesni'r nen gwlad Groeg wrth i'r fflam fynd heibio.

Roedd rhyw wefr o gyffro yn eu lleisiau wrth iddynt gymeradwyo yn eiddgar, a rhyw ymwybod hudol yn uno pawb â'i gilydd.



Lynda a MariaYn bendant roedd yno naws na phrofais erioed o'r blaen gyda phob unigolyn, o'r hynaf i'r ieuengaf, yn gwybod yn union beth oedd gwir arwyddocâd y fflam.

Tynnu llun
Cefais y fraint o gael tynnu fy llun gyda Maria Sotiridou 16 oed a oedd yn un o'r rhai fu'n dal y fflam.

Daw'r holl ymdrech i ben ar Awst 13 pan fydd y pair yn y Stadiwm Olympaidd yn Athen yn cael ei gynnaui ddynodi agoriad swyddogol Campau 2004.

Y diwrnod hwn bydd 10,500 o fabolgampwyr o 200 o wledydd yn dod at ei gilydd i fod a rhan yn nathliad chwaraeon mwyaf y ddynoliaeth.

 ninnau yn byw mewn dyddiau mor drallodus nid oes ond gobeithio y bydd y campau Olympaidd yn llwyddo nid yn unig i uno'r byd mewn chwaraeon ond i'w uno mewn heddwch hefyd.





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy