主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Helyntion byd
Lynda Ganatsiou sy'n byw yng Ngwlad Groeg yn sgrifennu am ei dawn ryfeddol i gael ei hun mewn cawl!

Yr adeg hon o'r flwyddyn pan fo pawb yn sôn am dyrcwn a phwdinau a chalennig, sôn am gawl fydda i!

Ble bynnag rwy'n mynd, rwy'n siwr o achosi rhyw fath o gyffro gan fy mod yn un o'r bobl hynny sydd â'r ddawn o gael fy hun mewn cawl yn gyson!

Mae'r digwyddiad cyntaf yma yn mynd â mi yn ôl i'r adeg pan oeddwn yn byw yn Sweden a lleidr yn torri i'm fflat a dwyn, ymhlith pethau o werth sentimental, fy nhrwydded deithio.

. Ychydig wythnosau wedyn pan welais ddarn bychan yn y papur dyddiol yn crybwyll Linda Jones bu bron imi a chael haint!

Y pennawd oedd; Y Tywysog Bertil yn boblogaidd iawn yn Lloegr.

Crwydro'r gerddi
Safai preswylfa breifat y Tywysog Bertil ar ynys fechan Djurgarden ac er mai ond ychydig o bobl a wyddai ei fod yno bu'r Linda Jones yma yn crwydro'r gerddi am dros awr.

Torriad papur newyddDoedd hi ddim wedi deall, meddai hi, arwydd mewn Swedeg yn gwahardd y cyhoedd ac yn meddwl mai rhybudd am gwn oedd o!

"Mae'r Tywysog Bertil yn boblogaidd iawn yn Lloegr," medde hi. "Ceir digon o ddefnydd darllen ym mhapurau newydd y Sul am y tywysog a'i gymar, Lilian Craig." Wyddwn dim am yr digwyddiad nes darllen y stori yn y papur newydd ond ni allwn beidio â meddwl mai menyw yn defnyddio fy nhrwydded deithio i oedd hon ac yn sydyn iawn dechreuodd rhywbeth ysgafn droi'n beth difrifol a minnau'n holi fy hun tybed pa bethau anghyfreithlon eraill fu hi'n ei wneud gyda nhrwydded.
Rhedai iasau i fyny ac i lawr fy asgwrn cefn!

Helynt cyn Dolig
Dros y Nadolig a'r Calan fel hyn rwy'n mynychu pob math o gyngherddau a basârs ond ychydig ddyddiau cyn y Nadolig bu'n rhaid imi ymweld â swyddfeydd y cyngor yn Thermi ar ôl derbyn galwad ffôn i lofnodi darn o bapur.

Nid darn o bapur cyffredin mohono ychwaith ond gwys.

Mawredd mawr! Beth oeddwn wedi'i wneud? Ni allwn ddeall: Gwys? Am beth? Siwr o fod rhywbeth yn ymwneud â'r car.

Ni allwn beidio â phoeni a phryderu er nad oeddwn wedi gwneud dim anghyfreithlon cyn belled ag a gwyddwn.

Ac os cododd llais awdurdodol yr ysgrifenyddes fraw arnaf codwyd mwy fyth o ofn arnaf o'i gweld yn y cnawd.

Diolch byth bod ei chyfarthiad yn waeth na'i chnoad ac yr oedd yn ddigon moesgar yn rhoi'r papur imi a'm gwahodd i holi ynglyn ag unrhyw beth na allwn ei ddeall.

Llythrennau'n dawnsio
Tra'n edrych drosto'n gyflym y sylweddolais imi anghofio mynd â'm sbectol gyda mi, a chyda'r llythrennau'n dawnsio i'w gilydd roedd y cyfan yn Roeg i mi!!!!!!

Estynnais y papur at Andreas fy mab yn y gobaith y gallai ef daflu rhywfaint o oleuni ar y mater ond yr oedd mor ddryslyd a minnau heb fedru gwneud na phen na chynffon o'r holl beth ac yr oedd o yn gwisgo sbectol!

Ond cododd fy nghalon pan ddywedodd ef , ar ôl sylwi ar ddau enw ar waelod y papur;

"O - un o'r tystion ydy mam."

Cael fy nghyhuddo
Yna fe dynnodd yr ysgrifenyddes y gwynt o'm hwyliau pan ychwanegodd:
"O na! Hi ydy'r un sy'n cael ei chyhuddo!"

Arswyd y byd! Roedd yr enwau yma yn dystion yn fy erbyn a hwythau'n bobl gwbl anadnabyddus imi.

Yn wyn fel y galchen erbyn hyn, ymdrechais i gael rhyw synnwyr o'r hurtrwydd gan brotestio nad oeddwn wedi gwneud dim o'i le .

Ond dal ati wnaeth yr ysgrifenyddes heb falio dim beth oeddwn wedi neu heb ei wneud.

Eglurodd hefyd i'r achos gael ei drafod yn barod yn y llys.

Ac yn ôl pob golwg roeddwn wedi colli'r achos ond, a minnau'n anhapus â hyn mae'n ymddangos imi apelio am ail dreial a dweud oedd y papur hwn y byddai'r ail dreial hwnnw ar Ionawr 29, 2004.

Dychmygwch eich hun yn cael y fath bapur am rywbeth na ddigwyddodd o gwbl.

Yn y tywyllwch
Wedi cyrraedd adref awgrymodd Andreas ffonio ei dad i weld a allai ef ddatrys y dirgelwch ond doedd ganddo yntau ddim eglurhad ychwaith ond pan ddarllenodd Andreas yr wys dros y ffôn yr unig beth a allai George y'i wneud oedd chwerthin!Ond roeddwn i gymaint yn y tywyllwch ag erioed ac anodd iawn oedd llyncu fy nghinio wedi gorfod llyncu'r holl gyhuddiadau annheg yn fy erbyn ac Andreas yn fy mhryfocio y byddai'r heddlu'n dod cyn hir i'm restio.

Pan ddychwelodd George gwthiodd Andreas yr wŷs yn syth i'w ddwylo ond doedd dim llawer o gefnogaeth deuluol a'r ddau yn chwerthin yn braf yn enwedig o weld fy wyneb truenus i!

Yr oedd ddeuddydd yn ddiweddarach, fodd bynnag, syn imi gael sicrwydd gan gyfreithiwr mai camgymeriad oedd y cyfan a gallwn anadlu'n esmwyth unwaith eto.

Yr adeg hon o'r flwyddyn a phawb yn dymuno'r gorau gobeithio y bydd Siôn Corn yn garedig tuag atynt.

Eleni, cyrhaeddodd wlad Groeg yn gynnar a minnau wedi cael fy anrheg o ryddid ganddo! Yr anrheg orau y gallwn fod wedi dymuno ei chael!






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy