主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Julia a Becky Cymry Olympaidd
Lynda Ganatsiou o Wlad Groeg yn sgrifennu am Gymry a fu'n helpu gyda'r Gemau Olympaidd

Cafodd ffrindiau imi, Stephanie, ei mab, Alex, a ffrind o'r enw Julia, haf gwahanol iawn i'r cyffredin eleni gan iddynt gael yr anrhydedd o weini yn y Gêmau Olympaidd!

O'r Rhyl y daw Stephanie yn wreiddiol ond yn awr yn byw ym mhentref Panorama, sydd i fyny'r rhiw o Thermi lle rwyf i'n byw.

Ceffylau yw ei byd a chanddi diddordeb arbennig yn y gystadleuaeth Dressage.

Er nad oes diddordeb o gwbl mewn ceffylau gan ei mab hŷn mae Alex, yr ieuengaf o'r ddau, wedi etifeddu hoffter ei fam o geffylau ac yn cystadlu nid yn unig yn y gystadleuaeth yma ond yn neidio clwydi hefyd.

Prawf gyntaf
O Abertawe y daw Julia yn wreiddiol ond erbyn hyn yn byw yr ochr arall i ddinas Thessaloniki sy'n ei gwneud yn anghyfleus inni gwrdd â'n gilydd yn aml - yn enwedig â hithau yn fenyw brysur a deinamig iawn a chanddi ei bys mewn sawl brywes.

Nid rhyfedd o beth oedd imi glywed felly fod Julia ac Alex wedi gwneud cais i wasanaethu yn y gêmau.

Alex a StephanieRhaid oedd i Stephanie ac Alex fynd i'r brifddinas, Athen, er mwyn cymryd prawf arbennig ac roeddynt yn wên o glust i glust wrth ddychwelyd wedi cael eu dewis i fod yn Swyddogion Technegol Cenedlaethol (NTOs) yng Nghanolfan Marchogaeth y gêmau Olympaidd ym Marcopoulos.

A hithau eisoes yn feirniad cenedlaethol yn y gystadleuaeth Dressage, ni fu'n rhaid i Stephanie wneud cais i weini.

Yn ymwybodol o'i brwdfrydedd a'r alwad am feirniaid profiadol a gwybodus i arolygu'r cystadlaethau, gofynnwyd iddi gan Gynghrair Groeg â fyddai'n barod i weini ac nid oedodd eiliad!

Gwylio'r stablau
Nid oedd hi a'i mab yn dod i gysylltiad uniongyrchol â'r cyhoedd - gwylio'r ardaloedd ymarfer a'r stablau oedd eu gwaith a hynny'n gyfrifoldeb mawr gan fod yn rhaid iddynt weld na fyddai dim byd anghyfreithlon yn digwydd, a bod popeth yn gweithio'n rheolaidd.

Dywedodd y ddau mai'r peth pwysicaf oedd budd y ceffylau. Yr oedden nhw'n gweithio shifftiau o chwe awr y dydd a dywedodd Stephanie taw diogelwch â moesgarwch oedd gwaith y goruchwyliwr.

Ar ddiwrnodau'r Dressage bu Stephanie naill ai'n ysgrifennydd i'r beirniad neu'n gwneud ei dyletswydd yn y brif arena.

Ar ddydd y ras Traws Gwlad roedd y ddau ohonynt yn gyfrifol am ffens arbennig - Alex am rif tri a'i fam, Stephanie, yn feirniad ar ffens 26.

Dim ond ar ddydd y Traws Gwlad pan ganiatawyd pobl o amgylch yr hynt y byddai cyfle iddynt siarad â'r bobl ac ateb cwestiynau.

Yn ystod eu hamser hamdden byddent yn mynd i'r brifddinas - gan amlaf yn eu gwisgoedd arbennig.

Synnwyd hwynt gan yr ymateb gyda phobl cwbl ddieithr yn dod atynt i'w llongyfarch am eu gwaith.

Yr uchafbwynt i Alex oedd cwrdd â marchogion gorau'r byd a chael gweld ceffylau gorau'r byd.

Bu'n ddigon ffodus i gael tynnu'i llun gydag ambell enillydd fel Cian O'Connor a enillodd fedal aur.

Cafodd gyfle i'w gweld yn ymarfer a dilyn eu paratoadau ar gyfer y cystadlaethau.

Wedi cwrdd â'r rhan fwyaf o'r Swyddogion Technegol o dramor y llynedd pan gawsant eu profion, maent wedi cadw mewn cysylltiad â rhain drwy'r We, heb sôn am anfon lluniau at ei gilydd.

Dywedodd Alex wrthyf yn frwdfrydig iddi gael gwahoddiadau i leoedd fel: Seland Newydd, Awstralia a Ffrainc ac i'r gemau fod yn help i ehangu cyfeillgarwch gyda phobl o bedwar ban y byd.

Un teulu mawr
Fel gwirfoddolwraig y bu Julia yn gweithio ac yn rhan o drefniant na allai'r gemau fod wedi llwyddo hebddynt.



Y 'teulu'OlympaiddRoedd Julia yn hapus dros ben iddi gael cynnig gweini yn y ganolfan nofio gan mai hwnnw yw ei hoff sbort ac yr oedd yn gyfle i gymysgu â gwirfoddolwyr o wledydd fel De Affrica, Ariannin, Portiwgal, Sbaen, yr Almaen, Malta a Phrydain.

Deilliodd hyn ar gyfeillgarwch newydd rhyngddynt ac mae hithau, fel Stephanie ac Alex, yn dal mewn cysylltiad â'r rhan fwyaf ohonyn nhw.

O'r cychwyn, meddan nhw, roeddent fel un teulu mawr.

Dywedodd Julia i'r gwaith yn y ganolfan nofio fod y cyfnod a roddodd fwyaf o bleser iddi, a'r mwyaf dylanwadol, yn ei bywyd.

Ychwanegodd iddi fod yn ddiddorol tu hwnt gweld sut y gweithiai pethau y tu ôl i'r gwychder allanol. Pe byddai'n mynd i Beijing byddai'n gallu cymharu'r ddau brofiad.

Yn ogystal â'i gwaith gyda VIPs cafodd gyfle i gyfarfod y rhan fwyaf o deuluoedd brenhinol Ewrop a Siapan!

Cyfarfu Stephanie gwrdd â'r Dywysoges Anne a bu Julia yn siarad â hi.
Dywedodd y ddwy ei bod yn naturiol ei gwedd a'i hymddygiad.

Gan fod Julia yn hebrwng y cyflwynwyr medalau i anrhydeddu'r enillwyr, gwelodd Michael Phelps ac Ian Thorpe yn agos iawn - y diwethaf ddim yn rhy hapus gan iddo golli i'r llall, meddai!

Cafodd dynnu ei llun gyda Becky Jasontek o dîm nofio cyfamseru'r Unol Daleithiau.

Cyn cychwyn roedd yn gofidio mai hi fyddai'r gwirfoddolwraig hynaf yno ond roedd yn amlwg na fu cyfyngu ar oed gan fod un dyn a gyfarfu yn 75 oed.

Diddorol oedd clywed mai menywod oedd y rhan fwyaf o'r gwirfoddolwyr - dim ond 20% oedd yn ddynion.

Mewn gwerthfawrogiad o'u gwaith cafodd pob un dystysgrif hyfryd i'w hatgoffa o brofiad efallai na welant ei debyg byth eto.

Ond y peth mwyaf, fodd bynnag, fydd y llawenydd yn eu calonnau a'r ffaith iddynt wneud rhywbeth da dros y wlad a'u mabwysiadodd.





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy