主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Pencampwyr pêl-rwyd
Lynda Ganatsiou yn sgrifennu am fuddugoliaeth fawr i wlad Groeg

Flwyddyn wedi'r Gemau Olympaidd a phencampwriaeth bêl-droed Ewrop cyrhaeddodd Groeg gopa arall gwahanol.
Hynny wrth i dîm pêl-rwyd y wlad ddod yn bencampwyr Ewrop trwy drechu'r Almaen 78 - 62.

Seren y gêm oedd Theodoros Papaloukas a sgoriodd 22 o bwyntiau.

Aeth y tîm ar y blaen o'r eiliad gyntaf a thrwy gydol y gêm yr oedd yn eglur mai hwy oedd y cryfaf o bell ffordd.

Er bod yna yn nhîm cenedlaethol yr Almaen dri sy'n chwarae i'r NBA, Dirk Nowitzki, Tony Parker a Mickael Pietrus, methu a wnaethno nhw a thorri calon y Groegiaid.

Paratoi'r ffordd
Yr oedd hi'n 1987 pan gipiodd y Groegiaid y teitl ddiwethaf ond wrth i sêr fe Galis, Fasoulas, Christodoulou a Yannakis ddiflannu, syrthiodd y gêm i ebargofiant bron.

Fodd bynnag, roedd y rhain yn chwaraewyr a baratôdd y ffordd i'r llwyddiant Ewropeaidd a pheri i'r gêm i ddod yn un gyfarwydd i deuluoedd ledled y wlad.

Bu'r tîm yn ffodus dros ben i guro'r Ffrancwyr o un pwynt yn unig yn y gêm gynderfynol - er taw hwy oedd yn haeddu ennill, wedi chwarae'n llawer iawn gwell na'r Ffrancwyr o'r dechrau ond heb fod yn lwcus.

Y tlws enillwydFodd bynnag, nos Sul, Medi 25, dangosodd y tîm pa mor wirioneddol dda ydoedd gyda gallu'r chwaraewyr i chwarae fel tîm unedig yn wych ac yn dystiolaeth eu bod yn deilwng o'u medalau aur.

Daeth y fuddugoliaeth gerbron 19,000 o yn Belgrade gyda phob un yn edmygu'r ffordd y chwaraeodd y Groegiaid.

Teithiodd 7,000 o'r wlad yno i gefnogi'r tîm a chael eu gwefreiddio gyda chysondeb a brwdfrydedd y chwaraewyr ieuanc.

Yn y gêm dyngedfennol hon llwyddodd y chwaraewyr i gydbwyso amddiffyn ac ymosod.

Yr ail wlad
Yn dilyn y llwyddiant hwn nid yw Groeg ond yr ail wlad - gyda'r Undeb Sofietaidd (gynt) - i gipio teitl Ewropeaidd mewn pêl-droed a phêl-rwyd r yr un pryd.

Yn sicr bu hyn yn rheswm dros rownd newydd o ddathliadau i'w cymharu â'r rhai a ddilynodd Ewro 2004.

Yr unig gwahaniaeth rhwng y noson hon a dathliadau 14 mis yn ôl, pan fu tîm pêl-droed Otto Rehhagel yn fuddugol ym Mhortiwgal, oedd yr enwau!

Pryd gynt y canwyd am Dellas, Christeas a Zagorakis, yn awr enawu Zisis, Papaloukas a'r hyfforddwr Yannakis sydd ar wefus pawb.

Ac y mae'r hyfforddwr sydd mor barod i gadw o'r golwg yn haeddu pob clod am ei waith. Y gŵr distaw hwn o Thessaloniki ydy'r Ewropead gyntaf i ennill medal aur fel chwaraewr ac fel hyfforddwr yn y sbort yma.

Wedi i'r medalau gael eu rhannu yn y stadiwm llifodd y cefnogwyr i strydoedd Belgrade a'u troi yn fôr o gân gyda phobl y ddinas yr un mor nwydwyllt a'r Groegiaid!

Yn wir, achosodd yr oruchafiaeth i Roegiaid drwy'r byd ddathlu yn y strydoedd.

Canu a thân gwyllt
Yma, roeddent yn canu a chwifio'n urddasol y baneri glas a gwyn gyda'r tawelwch a fu yn ystod y gêm yn troi'n rhywbeth tebyg i gyrch rhyfel!

Chwalwyd awyr y nos â ffrwydradau tân gwyllt, sŵn cyrn a chorganu.

Yn Thessaloniki, ardal y Tŵr Gwyn oedd canolbwynt y dathliadau tan oriau mân y bore gyda phob tref mawr ledled y wlad yn ymddwyn yr un modd.

Gallwch ddychmygu'r croeso gafodd y bechgyn ar eu dychweliad gydag edmygwyr yn heidio i dalu teyrnged iddynt.

Hefyd, roedd uchel swyddogion a chriwiau teledu yr un mor awyddus i gyfarch pencampwyr newydd Ewrop.

Y dyn olaf o'r awyren - ac yn dal y troffi - oedd capten y tîm, Michalis Kakiouziz, a ddiolchodd i'r cefnogwyr gan ddweud y gobeithiai na fyddai'n rhaid iddynt sefyll am ddeunaw mlynedd arall cyn y byddai'r wlad yn ei ennill eto.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy