主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dancing Bear Dyfodol ansicr yr arth frown
Anifail a gafodd ei gamdrin gan ddyn yn brwydro am ei einioes

gan Lynda Ganatsiou o Wlad Groeg

Dydd Gwener, Mehefin 16, 2000

Y mae'r Arth Frown yn un o'r anifeiliaid hynny sydd yn wynebu difodiant.

Tan y bymthegfed ganrif yr oeddynt i'w gweld ar hyd a lled Ewrop.

Diflannu oherwydd hela a dinistrio eu cynefin

Maen nhw wedi diflannu oherwydd hela a dinistrio eu cynefin. Dim ond ers ugain mlynedd y gwaharddwyd eu hela yng ngwlad Groeg.

Erbyn heddiw dim ond nifer fechan sydd ar ôl a hynny dan warchoedaeth.

Dim ond deg sydd ar ôl yn Ffrainc. Mae rhyw hanner cant yn Sbaen ar Eidal fel ei gilydd.

Yn yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd eirth yn ardal Pelopponese yn Ne Groeg ond erbyn heddiw dim ond yn ardal Pinddos yng ngogledd y wlad y maent ac mewn ardal arall o'r enw, Roddopi.

Dyma un o'r poblogaethau pwysicaf yn Ewrop - tua chant a hanner ohonyn nhw yn crwydror coedwigoedd.

Dydi eirth ddim yn ymosod

Er yn anifail cryf dydi'r arth ddim yn anifail ymosodol na gormesol. Wnan nhw ddim ymosod ar bobol onibai eu bod yn cael eu bygwth neu i amddiffyn eu cenawon.

Ond y mae eirth yn gysylltiad uniongyrchol a hen ffordd o fyw. Maent yn destun chwedlau, traddodiadau a hen hanesion.

Nid oes iddynt elynion naturiol - ar wahan i ddyn!

Un o anifeiliaid tir mwyaf Ewrop
Dyma un o anifeiliaid tir mwyaf Ewrop sy'n magu ei rhai bach ar y deth.

Ardaloedd mynyddig yw eu cynefin ac er mai llysiau sydd fwyaf at eu dant maent yn bwyta popeth. Gallant fyw am rhwng 20 a 25 o flynyddoedd.

Maent rhwng 1.7m a 2.00m o daldra ar eu deudroed ac yn pwyso rhwng 60 a 250 kgs gan ddibynnu ar eu hoed, rhyw a'r adeg o'r flwyddyn.

Gall y benyw eni hyd at dri o genawon - dall a noeth - yn ystod y gaeaf. Os collant eu mam yr adeg hon, byddant farw o fewn 15 i 20 munud.

Hyd yn oed dan amgylchiadau arferol rhyw hanner yn hanner yw eu gobaith o fyw drwy eu blwyddyn gyntaf.

Cyfreithiau i'w diogelu

Rhaid wrth gyfreithiau i sicrhau eu dyfodol erbyn hyn. Gwaherddir eu hela, eu dal a'u niweidio mewn unrhyw ffordd neu wneud unrhyw sioe gyhoeddus ohonynt.

Gellir cael blwyddyn o garchar am dorri'r deddfau hyn.

Eu defnyddio i berfformio

Hyd yn oed ugain mlynedd yn ôl yr oedd yn arferiad defnyddio eirth i berfformio gyda phenffrwyn yn sownd wrth eu dannedd llygaid bregus a'r rheini yn torri i ffwrdd.

Byddai dyn yn eu dysgu i ddawnsio trwy eu gorfodi i gerdded ar fetel poeth er mwyn eu harfer i sefyll ar eu traed ôl. Unwaith y byddent yn cysylltu miwsig a phoen byddent yn dawnsio.

Roedden nhw'n perfformio ar ddyddiau gwyl.

Does dim hawl o gwbl i'w defnyddio fel hyn heddiw a chyda help cyson gan ddyn maent wedi dodi pwysau yn ôl ac adennill greddfau gwyllt a gollwyd.

Mae eu hofn o ddyn yn parhau gyda swn y tambwrin yn peri iddynt ffyrnigio.

Onibai fod gwarchodaeth yn parhau bydd y symbol hwn o'r gorffennol gwyllt yn diflannu yn fuan iawn os na sylweddolwn y cysylltiad hanfodol rhwng ein bywydau ni a pharhad y goedwig.

Mae rhwydd hynt i eirth yn golygu bywyd i ninnau gan fod eu presenoldeb yn arwydd o goedwig iach.

Y bygythiadau:
Dinisitrio eu cynefin.
Defnydd difeddwl o adnoddau naturiol.
Tanau yn y goedwig.
Adeiladu heolydd newydd yn ddifeddwl drwy goedwigoedd.
Datblygiadau technegol difeddwl yng nghefn gwlad.
Eu lladd gan ddyn.
Hela anghyfreithiol.
Masnach genawon syn golygu lladd y fam.

Yn ffodus mae yna gymdeithas gyda chynllun i ddiogelu ac astudio yr eirth yn eu cynefin er mwyn eu deall a'u hamddiffyn.

Enwr gymdeithas ydi ARCTOUROS sy'n gwneud ymdrech eithriadol i ddiogelu parhad y creadur hwn ar y ddaear.

Carwn ddiolch iddynt am ganiatad i ddefnyddio eu lluniau.




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy