主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Yr wyau coch traddodiadol Rhamant yr wyau
Lynda Ganatsiou yn sgrifeenu o wlad Groeg am arwyddocad yr wy

Y ffordd draddodiadol o baratoi wyau ar gyfer y Pasg yma yng Ngwlad Groeg ydy eu lliwio'n goch.

Eleni, fodd bynnag, roedd rhai o'r cwmnïau sy'n paratoi yr amlenni yn cynnwys powdr o wahanol liwiau, wedi mynd gam ymhellach ac yn gwerthu math o stampiau i'w rhoi am ganol yr wy.

Yn naturiol, 'roedd hyn yn apelio at y plant gan mai cwningod bychan oedd ar y rhan fwyaf ohonynt.

I mi, er hynny, roedd y gwir ystyr wedi ei golli ar draul ffasiwn a masnach!

Pan welais y rhain yn cael eu hysbysebu ar y teledu credais mai rhodd oddi mewn i'r amlen gyda'r lliw oedd ond wedi cyrraedd y siop deallais fod yn rhaid prynu'r amlen yn cynnwys y rhain ar wahân.

Felly, ffordd o wneud ychydig o arian oedd hyn yn unig ac wrth gwrs nid yw ond yn naturiol i gwmnïau geisio trefnu rhywbeth gwahanol gan fod y gystadleuaeth rhyngddynt yn un mor frwd.

Patrwm prydferth
Yn nhref enedigol y gŵr y treuliais i'r Pasg eleni ac un o'r pethau a wnaeth argraff arnaf yno oedd y ffordd roedd un o'i gyfnitheroedd wedi addurno ei hwyau gan greu patrwm prydferth iawn arnynt.

Patrymau newyddDywedodd wrthyf mai'r gyfrinach oedd treulio rhywfaint mwy o amser yn eu paratoi nag a wneir gyda'r rhai traddodiadol.

Defnyddiodd fflos, math o wlân arbennig, a hwnnw o wahanol liwiau.

Gyda'r rhai cyntaf defnyddiodd fflos glas, pinc a phorffor.

Torrodd ddarnau bychain o'r fflos, a'u gludo ar blisgyn yr wy gyda dafn o ddŵr cyn eu rhwymo mewn ffoil arian.

Y cam nesaf oedd eu berwi.

Defnyddiodd liw glas yn hytrach na'r coch traddodiadol fel y byddai'n addas i liw y fflos a ddewisodd.

Eglurodd y byddai rhywfaint o'r lliw glas yn y sosban yn gollwng drwy'r ffoil a gadael lliw glas o ben i ben, a'r darnau o fflos wedi argraffu arno.

Mwy ysblennydd
Roed yr ail ddull ychydig yn fwy cymhleth a'r canlyniadau yn llawer mwy ysblennydd a'r rhain a dynnodd fy sylw i yn bennaf.

I greu'r effaith glynodd ddarnau bychain o risgl winwn ar yr wyau a'u dodi un ar ôl y llall yn dynn mewn hen hosan a dodi honno mewn sosban o hylif gwyrdd tywyll.

Crëwyd patrwm rhagorol ar blisgyn yr wyau ac fe fyddaf innau yn siŵr o geisio gwneud hyn y flwyddyn nesaf.

Dwy arddangosfa
Arwydd o ddeffroad y gwanwyn yw'r wy ac o ailenedigaeth Crist yn y diwylliant Cristionogol.



Ceinder newyddYn sgil hynny agorwyd dwy arddangosfa; un yn Athen, Wyau Pasg addurnedig y byd gyda'r rhan fwyaf ohonynt wedi eu casglu gan ddyn o'r enw Papageorgiou, a fu'n casglu wyau ers deugain mlynedd nes bo ganddo erbyn hyn 1,500 o wyau o 130 o wledydd.

Yn Thessaloniki bu arddangosfa Hanes yr Wy.

Sut gall wy sy'n cael ei ddodwy gan aderyn mor wylaidd a'r iâr fod yn destun i ddychymyg cymaint o athronwyr, ysgrifenwyr, beirdd, gwyddonwyr, mathemategwyr, peintwyr, cerflunwyr, cynllunwyr, penseiri, casglwyr gwrthrychau heb anghofio ffotograffwyr?

Daeth y cwestiwn llosg i'm cof; Beth ddaeth yn gyntaf, y cyw ynteu'r wy?

I geisio datrys y cwestiwn rhaid oedd ymweld â'r arddangosfa yn Amgueddfa Celf Cyfoes Macedonia.

Roedd yno luniau diddorol a dynnwyd gan ddau ffotograffydd ac yr oedd nifer o wyau cain yno; rhai o blastr ac wedi eu peintio gan arlunwyr o dref Thessaloniki.

Dewis symbolau
Dewisodd y rhan fwyaf o'r arlunwyr addurniadau yn cynrychioli symbolau ac agweddau yn ymwneud â phleserau bywyd, diogelwch, ffrwythlondeb neu hyd yn oed alwad i'r grymoedd cyfrin sy'n dal i fod yn rhan o grediniaeth boblogaidd.

Gynt, fe fyddai pobl yn rhoi wyau addurnedig adeg y Pasg yn ogystal ag ar ddydd eu henwau (sy'n bwysicach na dydd eich pen-blwydd yn y wlad hon), neu adegau pwysig bywyd fel priodasau.

Pwy a feddyliai y byddai'r wy wedi ennill y fath bwysigrwydd heb sôn am fod yn ysbrydoliaeth i lawer o arlunwyr?





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy