主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Set ffilm yn Thessaloniki Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm
Beth amser yn ôl derbyniodd Lynda Ganatsiou, Cymraes sy'n byw yng Ngwlad Groeg, e-bost.

Does dim yn anghyffredin yn hynny, wrth gwrs . . . meddai.
Ond yr oedd yr un yma yn un anarferol gan ei fod yn fy ngwahodd i fynd am wrandawiad fel actor cynorthwyol yn ffilm newydd y cyfarwyddwr Groegaidd, Theo Angelopoulos.

Mae o'n gyfarwyddwr adnabyddus iawn nid yn unig yn y gwledydd Balcan ond yn rhyngwladol.

Enillodd wobr uchaf y Palme d'Or yng Ngwyl Ffilmiau Cannes yn 1998 gyda Tragwyddoldeb a Dydd.

Gellwch ddyfalu pa mor gynhyrfus oeddwn i felly wedi derbyn yr e-bost!

Rhamant mewn tair rhan!
Dychwelodd Angelopoulos i Thessaloniki - tref sy'n annwyl iawn iddo - i saethu ffilm a ddisgrifiwyd yn yr e-bost fel un ramantus mewn tair rhan.

Roedd o angen menywod, dynion a phlant i chwarae rhan pobl Thessaoniki yn ystod y cyfnod cyn y rhyfel.

Apeliodd y syniad yn syth ataf o wybod mai dyma'r agosaf y deuwn i byth at Hollywood!

Cysylltais yn syth a gwneud trefniadau ar gyfer y diwrnod canlynol yn sinema'r Olympion yn y dref.

Cael fy newis yn ffoadur
Pan gyrhaeddais, roedd torf yno yn barod ac mewn dim o amser galwodd Kirios Lambriddis bawb ynghyd yn wresog.

Wedi edrych ar ein hwynebau i gyd a'n gwylio'n cerdded mewn gwahanol ffyrdd ar y llwyfan penderfynodd mai ffoadur mewn tyrfa fyddwn i'n ei wneud!!!

Dyna beth oedd anrhydedd.

Ond y funud honno wn i ddim beth a ddaeth drosof ond cefais draed oer a'r peth nesaf yr oeddwn yn prysur egluro wrth Kirios Lambriddis mai dim ond dod i weld beth oedd yn digwydd wnes i, nid i gymryd rhan.

Ychwanegais fy mod yn ysgrifennu yn y Gymraeg ar y we ac imi alw heibio er mwyn cael gweld yn iawn beth oedd yn digwydd er mwyn son am y digwyddiad.

Ond mewn gwirionedd stagefright oedd y gwir reswm imi dynnu'n ôl!

Sôn am gochi fel tomato. Gallaf eich sicrhau fy mod, yr eiliad honno, y peth annhebycaf erioed i ffoadur llwyd a newynog!

Fel gohebydd tramor!
Wedi dod i ddealltwriaeth penderfynais aros, gwylio a chael gwir flas ar.bethau.

Ymhen ychydig ddiwrnodau cysylltais â Kr. Lambriddis i holi pryd fyddai'r actorion ar y set.

Nid oeddynt yn barod meddai, ond yr oedd yn siarad â'r wasg y diwrnod canlynol. Ffwrdd a mi yn Betsi'r car at y porthladd lle'r oedd y set wedi ei hadeiladu.

Ar gyfer y ffilm adeiladodd y seiri coed nid yn unig nifer o dai a chorneli strydoedd ond hefyd, dref gyfan a chymdogaeth ddinesig.

Cynhwysai'r set rhyw gant o dai cerrig a phren o'r tridegau ac wrth fynd drwyr prif gatiau deuthum o hyd i nifer o ohebwyr a chyn bo hir, y gwr mawr ei hun.

Cedwais fy mhellter gan mai'r gwir yw nad edrychwn ddim byd tebyg i ohebydd go iawn - heb na chamera drud, cymhleth, nac offeryn recordio.

Daliais ambell i ohebydd yn edrych arnaf braidd yn ddrwgdybus ond rhoddais wên fach hyderus yn ôl a chan fy mod wedi fy ngwisgo yn daclus rwy'n credu iddynt dybio mai gohebydd o dramor oeddwn i.

Dim byd tebyg o'r blaen
Ta beth, yr oedd mor braf gweld Kr Angelopoulos o fewn hyd braich.

Edrychai yn union fel y lluniau ohono yr oeddwn wedi eu gweld ac atebai gwestiynaur gohebyddion mewn modd briodol iawn a chefais flas ar ei hiwmor.

Eglurodd cyfarwyddwr enwocaf gwlad Groeg fod ganddo dair ffilm ar y gweill:
"Ni fentrwyd ar ddim byd fel hyn erioed o'r blaen yng ngwlad Groeg,".meddai gan ychwanegu fod y tair wedi eu seilio ar hanes Groeges o Odessa.

Adroddir yr hanes sy'n ymestyn dros ganrif mewn tair ffilm sy'n parhau rhyw saith awr a hanner i gyd gan gostio 17.6 miliwn ewro.

Er iddo gael ei ddwyn ir ysbyty yn dioddef o lid yr ysgyfaint ychydig fisoedd yn ôl dywedodd iddo lwyddo i gadw at ei amserlen gogyfer â'r ffilm gyntaf sy'n costio pum miliwn ewro.

Dechreuwyd ffilmio ar lannau Llyn Cercini yng ngogledd Groeg ddechrau Ionawr lle'r adeiladwyd pentref cyfan a gynlluniwyd gan Iorgos Patsas a Costas Dimitriaddis i suddo wrth i'r llyn godi rhyw 1.5 medr erbyn mis Mawrth.



Y set  ger Llyn CerciniStori garu
Mae dau actor newydd, yn cymryd rhan yn y rhamant, Nicos Pourssaniddis ac Alexandra Aidini.

Cychwyn y stori gyda'r Fyddin Goch yn ymdeithio i Odessa â'r Groegaidd yn ffoi.

Dyma pryd y mae dau blentyn - bachgen pump oed a'r arwres Eleni, tair oed, yn cwrdd am y tro cyntaf gyda'r bachgen yn achub Eleni wrth i'r plant au rhieni gael eu dodi mewn gwersyll.

Maent yn tyfu i fyny, yn syrthio mewn cariad, yn cael eu gwahanu â'r bachgen yn dilyn y Freuddwyd Americanaidd, tra bo hithau yn ymuno â Byddin y Gwrthwynebiad yn ystod yr Ail Rhyfel Byd

Gobaith Angelopoulos yw dangos y tair ffilm gydai gilydd yng Ngwyl Ffilmiau Cannes.

Dywedodd y bydd Michelle Pfeiffer o bosib yn chwarae yn yr ail ffilm.

Yn y drydedd ffilm, Y Dychweliad Tragwyddol, bydd dau gymeriad oedrannus yn chwilio am wyres Eleni yn yr America.

Bydd popeth wedi ei gwblhau yn Efrog Newydd 2004

A minnau yn gwybod cynt am set yng Nhircini roeddwn wedi cael y blaen ar bawb a thynnu lliniau cyn i'r dyfroedd ei gorlifo.

Y ffilm yn golygu mwy
A minnau wedi gweld y setiau a'm llygaid fy hun bydd gwedd gwbl wahanol i'r ffilm pan y'i gwelaf yn y sinema.

Ond trueni imi newid fy meddwl a gwrthod y rhan fel ffoadur gan y byddai'n rhywbeth eithriadol medru gweld eich hun ar y sgrîn fawr a gwybod nad pobl gwlad Groeg yn unig sy'n eich gwylio.

Dyna'r pris sy'n rhaid imi y'i dalu am fod mor fyrbwyll a pheidio â dal ar y gyfle o'r fath!

Ond o fod wedi derbyn ni fyddwn wedi cael y profiad arall a gefais.

Llawn o ffoaduriaid
Rhyw fis ar ôl y cyfarfyddiad ymwelais â'r set yn Thessaloniki unwaith yn rhagor. Y tro hwn 'roedd yn 'dref' yn gorlifo â phobl. Y bobl a welwn oedd ffoaduriaid yn ddynion a menywod tenau o gorffolaeth, dynion ag eisiau arnynt, pobl yn ymdrechu i fyw.

Pobl o bob oed, yn blant ac yn oedolion, yn aildrefnu bywyd mewn gwersyll i ffoaduriaid yn nhref Thesaloniki yn y 30au.

Breuddwyd pob Groegwr ar hyn o bryd ydy gweld y ffilm yn un lwyddiannus.

Dyma ail gynnig Angelopoulos arni a doedd o ond newydd orffen saethu pan ddaeth y newyddion i'r ffilm gael ei dwyn ar ei ffordd i'r ganolfan yn Athens!

Dyna'r math o beth nad ydych yn clywed amdano ond mewn ffilmiau!




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy