主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Momoieri Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig
Yng Ngwlad Groeg dydi'r dathlu ddim yn dod i ben gyda'r Nadolig ond yn ymestyn i'r flwyddyn newydd gyda phob math o arferion difyr meddai Lynda Ganatsiou, Cymraes o Bontarddulais sydd wedi ymgartrefu yno.

Rhaid cyfaddef fod hwn yn gyfnod llawn traddodiadau gwahanol a diddorol.
Ar ddydd Sul Rhagfyr 29 penderfynodd y gwr a minnau fynd am dro i'r ddinas er mwyn rhodio ar fin y môr a chael gwared â'r gormodedd bwyd a gawsom dros y Nadolig!

Roeddwn wedi anghofio'n lân, mai dyma ddiwrnod dathlu'r Momoieri neu Yr Hen Ddynion a'r Sgain ar strydoedd Thessaloniki.

Adfywiad o hen ddefod Roegaidd ydy hon, a ddathlwyd yn Ionawr gan yr Atheniaid.

Mae'r prif gymeriadau yn cael eu portreadu heddi yn union fel yr oeddynt gynt.

Saith cymeriad
Heblaw'r hen ddynion, mae saith prif gymeriad ac, yn addas iawn, meddyg oedd yn portreadu iechyd a milwr yn cynrychioli amddiffyn.

Actor wedi ei wisgo fel hen fenyw oedd yn darlunio'r gorffennol a phriodferch y dyfodol.

Actor wedi ei wisgo fel ceffyl oedd yn cynrychioli datblygiad gydag arth yn symbol o gryfder.

Yn briodol iawn, gafr oedd bwyd.

Er mwyn gorchuddio'u hwynebau roedd Y Momoieri yn gwisgo mygydau. Wedi'r orymdaith ar hyd y prif strydoedd mae dawnsio, diod a bwyd yn y prif sgwâr a phawb yn ymuno â'r dawnsio gan greu miri mawr.

Plant yn canu wrth y drws
Ar fore Rhagfyr 31 fe fydd plant bach yn dod ir drws i ganu Y Calanda i gyfeiliant trionglau.

Ar un adeg byddent yn cario afal, oren, llong o bapur, seren bapur neu hyd yn oed frigyn o goeden gwyros neu unrhyw bren caled y gellid dod o hyd iddo.

Byddent yn taro aelodaur teulu yn ysgafn ar eu cefn yn arwydd o'u dymuniad i aelodau'r teulu fod mor hoenus ac egniol a'r pren!

Ymatebai gwraig y ty drwy roi cacennau a gwahanol fathau o gnau iddyn nhw

Erbyn heddi arian sy'n cael ei roi.

Cofio Basil Sant
Yn ogystal â bod yn ddydd cyntaf y flwyddyn mae Dydd Calan yn ddydd un o gymeriadau mwyaf yr Eglwys Uniongred Roegaidd, Sant Basil (Aghios Fassilis), esgob dysgedig a ysgrifennodd lythyrau lawer.



Basil SantPan oedd yn Esgob yn Cesaria yn Asia Leiaf galwodd ar y bobl i gyfrannu cymaint o anrhegion ag oedd ganddynt yn drethi er mwyn digoni'r awdurdodau Rhufeinig. A phan welodd y Rhaglaw Rhufeinig gymaint oedd perswad moesol Basil, dychwelodd y rhoddion i'r bobl er mawr lawenydd iddyn nhw.

Ond gan fod llawer o'r rhoddion yn ddarnau o aur ac yn fodrwyau hynod o debyg i'w gilydd yr oedd yn amhosib dweud pwy oedd piau beth. Felly, gofynnodd Basil i gogyddion wneud nifer fawr o gacennau (placoundia) ar y nos Sadwrn gyda gwrthrych ym mhob un a'u rhannu ymhlith y bobl.

Er mawr syndod i bawb cafodd pob un yr union beth a offrymodd yn ei gacen!

I gofio'r achlysur mae cacennau yn cael eu gwneud bob dydd Sant Basil gydag arian tu mewn iddynt.

Torri'r bara
Yr ydym ni fel teulu yn dilyn y traddodiad yma, o dorri'r bara Fassilopita - Bara Fassilis - wedi ei enwi ar ôl y Sant. Bydd pob darn yn cynrychioli person neu beth.

Dechreuwn gyda phen y teulu ac wrth i fy ngwr dorrir darnau mae'n enwi y sawl sy'n cael y darn hwnnw.

Fel pen y teulu, mae'r darn cyntaf yn mynd iddo ef, a bydd yn galw allan ei enw: Yiorgos.

Fel gwraig y teulu fi sy'n cael yr ail ddarn, ac mae'n cyhoeddi fy enw innau, Lynda.

Yna, daw tro y plant; gyda thamaid i Joanna a thamaid i Andreas.

Pan oedd y teidiau yn fyw, nhw oedd yn cael eu henwi wedyn.

Wedi gorffen â'r teulu, modrybedd, ewythrod, cefndryd a chyfnitheroedd mae'r ty yn cael darn, ac yna'r swyddfa.

Y gred ydy bod yr un sy'n cael y darn arian yn cael lwc trwy gydol y flwyddyn.

Ci gwyn
Ar ynys Carpathos ar Ddydd Calan, croesawir ci gwyn i'r ty gyda'r teulu yn ei fwydo â baclafa - cacen o fêl ac almon - gan gredu y bydd yntau yn rhoi cryfder o gorff ac enaid i'r teulu.

Eistedd ar garreg
Yn Lasithi ar ynys Creta, bydd y dieithryn cyntaf i ymweld â thy rhywun yn mynd â charreg fawr gydag a chan eistedd arni yn y brif ystafell yn cyfarch aelodau'r teulu a bendithio eu ffowls, wyn a geifr, gan orffen trwy ddymuno geni bechgyn i'r teulu ac aur o'r un pwysau a'r garreg.

Procio'r tân
Mewn pentref or enw Aposcepo, ger Castoria, gwahoddir plentyn lwcus i dai pobl i brocio'r tân a gwialen gan ddymuno plant gwryw i'r teulu ac wyn benyw!!

Maer arferion hyn braidd yn ddieithr i ni ond yn dangos pa mor agos oedd yr hen bobl at natur a chymaint oeddynt yn y'i ddibynnu ar eu hanifeiliaid a ffrwythlondeb y tir.

Gwyl y Goleuadau
Ar Ionawr 5 mae'r plantos bach yn dod o amgylch i ganu a dymunon dda am y diwrnod canlynol, Gwyl y Goleuadau neu ddydd Gwyl Ystwyll.

Ar Ionawr 6 fe fuom yn dathlu Dydd Gwyl Ystwyll neu Ddydd Bendithio'r Dyfroedd gyda'r offeiriad yn y gwasanaeth yn taflu dwr sanctaidd dros y gynulleidaf ac yna yn taflu croes wedi ei bendithio i ddwr.

Mae hwn yn achlysur arbennig pan fydd nifer o Roegwyr ifainc yn herio'r dyfroedd oerllyd er mwyn dod o hyd i'r groes a fendithiwyd.

Am ei ddewrder, dywedir y bydd yn flwyddyn lewyrchus i'r llanc sy'n adennill y groes yn gyntaf.

Eleni fe aethom i bentref glan môr Michaniona i ddilyn y seremoni ac yn ffodus yr oedd yr haul yn disgleirio ond weithiau, pan fo gwynt y gorllewin yn chwythu, mae rhywun yn amau mai dwl yn hytrach na dewr yw'r bechgyn hyn!

Y Dynion Duon
Ar Ionawr 7 ac 8 cynhelir dromenon nid nepell o Thessaloniki - seremoni grefyddol ar ffurf drama.

Gelwir yr arfer hwn yr Arapiddes - Y Dynion Du - oherwydd gwisg ddu y dynion, syn gwisgo côt hir, flewog, mwgwd o groen gafr syn creu argraff ar bawb, a thair cloch enfawr o gwmpas eu canol.

Mewn un llaw mae cleddyf hir ac yn y llall, fag fychan yn llawn lludw o aelwyd deudddeng niwrnod y Nadolig.

Maent yn taro pobl yn ysgafn yn y gobaith y daw hynny a lwc dda iddyn nhw a'r gymdeithas.

Daw yr orymdaith, i ben gyda chanu a dawnsio yn sgwâr y pentref tan oriau mân y bore.




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy