主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr record y Tebot Joch o'r Tebot
Lynda Ganatsiou o Wlad Groeg yn mwynhau paned Y Tebot Piws - a diferyn o hiraeth.

Efallai y dylai pobl dalu mwy o sylw i rai o'n hen benillion!
A bywyd bellach wedi mynd yn gymhleth dros ben, manteisiais i ar y pennill hwn:
Canu wnaf a bod yn llawen,
Fel y gog ar frig y gangen.
A beth bynnag ddaw i'm blino,
Canu wnaf, a gadael iddo.

Roedd gennyf esgus da dros adael iddo!

Parsel yn y post
Pan gyrhaeddodd y dyn post, gwaeddodd o'r gât, Kiria Lynda, parsel bach o dros y môr i ch.i

Mor braf yw derbyn anrheg pan nad ydych yn disgwyl un!

Wedi agor y pecyn, gwelais mai fideo oedd, a'r geiriau Cyngerdd Bryn Terfel ar yr ochr.

A minnau wedi bod wrthi ers oriau mân y bore yn glanhau ar gyfer dyfodiad ymwelwyr o'r Almaen ar gyfer y Pasg pa well esgus dros gael seibiant!

Cofiais am y pennill bach a'i ganu wrth wneud paned cyn eistedd i lawr i wylio'r fideo.

Chwarae teg i'm hen ffrind Coleg, Mari, yn wreiddiol o Henllan ger Castell Newydd Emlyn, sydd wedi bod yn sgrifennu mor ffyddlon ataf ers imi adael yn y saithdegau, am anfon Tân y Ddraig III imi.

Yn sydyn, gwelais Dewi Pws ar y sgrîn a, jiw, jiw, dyna Stan a Sbardun.

Ie, wir, Y Tebot Piws yn perfformio yn fyw ar y llwyfan.

Roedd yn amlwg fod Dewi Pws cyn ddifyrred ag y cofiwn ef yr holl flynyddoedd yn ôl a doedd Stan ddim wedi newid fawr o gwbl llai o wallt a hwnnw ddim cyn ddued ddu. Sylwais fod Sbardun ychydig yn dewach nag oedd pan oeddwn i yn ei adnabod!

Meddyliwch roedd dros 32 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i mi weld y bois ddwetha a hynny pan oeddem yn gyd-fyfyrwyr!

Llwyddais i gadw'r dagrau draw wrth ymuno â Mae rhywbeth o le yn y dre.

Er bod y cyfan o Rhan 1 yn eisiau ar y recordiad fideo yn ogystal â darn o'r ail ran. fe gefais y fraint o glywed Godro'r Fuwch ac Ie, Ie, Na Fe, a'r gynulleidfa yn amlwg yn mwynhau yn fawr iawn wrth gael y cyfle i ymuno.

Cefais fy nifyrru gan Crys ac yna Geraint Jarman. Wrth gwrs, rwy'n ei gofio fel un o'r Bara Menyn gyda Meic Stevens a Heather Jones.

Moddion i'r enaid
Ond nid yn unig cefais gyfle i flasu amrantiad o'r gorffennol ond hefyd cefais fy niddori gan rhywbeth mor syml â thrêls rhaglenni i'w dangos yn y dyfodol.

Onid yw'n rhyfedd bod hysbyseb o'r fath yn gallu codi diddordeb rhywun mor bell o gartref a chlywed y Gymraeg yn cael ei llefaru fel moddion i'm henaid a miwsig hudol i'm clustiau!

Ar hyn o bryd, wn i ddim ai'r peiriant fideo ynteu'r tâp wnaiff ddifetha gyntaf, gymaint o weithiau rwyf wedi gwylio'r gyngerdd!!!

Da ydy cael cyfeillgarwch fel un Mari a minnau, yn ogystal â chael y cyfle i ymuno â Chymru fel hyn o bryd i'w gilydd.Dymuniadau a swsus o wlad Groeg i'r Tebot Piws.





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy