主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hwyl urddasol
Lynda Ganatsiou yn cofio dyddiau difyr gyda'r Urdd

Byddaf Ffyddlon I GymruRoedd gan Martin Luther King freuddwyd - ond breuddwyd hollol gwahanol oedd un Syr Ifan ab Owen Edwards yn ôl yn 1922!

Breuddwyd am sefydlu mudiad ieuenctid i gadw'r iaith Gymraeg yn - Urdd Gobaith Cymru.

A chydag Eisteddfod yr Urdd ar y trothwy'r llifodd llawer o atgofion.

Wrth ymaelodi â'r Urdd yn yr ysgol gynradd, rwy'n cofio dysgu llw'r Urdd gan adrodd gyda'm cyd-ddisgyblion â balchder y geiriau: Byddaf yn ffyddlon i Gymru, i'm Cyd-ddyn ac i Grist.

Yr adeg honno 'roedd gennyf hefyd fathodyn trionglog gwyn, coch a gwyrdd ond, a minnau'n dipyn o sipsi yn symud o fan i fan, aeth hwnnw ar goll yn anffodus!

Bathodyn arall
Ond wrth whilmentan pa ddiwrnod fe ddês o hyd i fathodyn arall ar ffurf calon gyda map o Gymru yn brif thema a'r llythrennau USC ar y môr - Undeb Siarad Cymraeg.

Ar y tir mae'r geiriau, Ein Hiaith a Barchwn.

Byddwn yn gwisgo'r bathodyn hwn ochr yn ochr â bathodyn yr Urdd ar fy nhei gwyrdd ar achlysuron arbennig pan fyddwn wedi taclu yng ngwisg swyddogol yr ysgol gynradd.

Gan amlaf pan fyddai'r ysgol yn rhoi cyngerdd neu pan fyddwn yn cynrychioli'r ysgol mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd (cylch, sir neu'r genedlaethol), byddwn yn eu gwisgo ac wedi'r holl flynyddoedd a theithio mae bathodyn yr USC yn dal gennyf yma yng Ngwlad Groeg i'm hatgoffa o fy ieuenctid a'r fraint o gael fy magu yng Nghymru.

Prin ydy plant Cymru sydd heb glywed am yr Urdd a bu yn aelodau ac yn gystadleuwyr!

Mynd i wersylla
Yn yr ysgol uwchradd rwy'n cofio gofyn caniatâd fy rhieni i fynd i wersyll Llangrannog yn ystod yr haf. Yn anffodus, roedd y rhan fwyaf o ferched yr ysgol yn dod o aelwydydd di-Gymraeg gyda dim ond rhyw hanner dwsin allan o rhyw gant o ferched ym mhob blwyddyn gallai siarad Cymraeg yn rhugl.

Felly, cawsom ni oedd yn ddigon ffodus i siarad Cymraeg fel mamiaith amser caled a'n galw'n Welshies. Hawdd deall, felly, nad oedd gan yr un ferch yn fy nosbarth i diddordeb sefyll mewn gwersyll Cymraeg yn ystod gwyliau'r haf!

Ond yn 1964 fe gyflwynwyd rhaglen newydd ar gyfer dysgwyr yn Llangrannog am y tro cyntaf ac wedi hir ddarbwyllo llwyddais i demtio fy ffrind Marilyn i ddod gyda mi er nad dysgwr oeddwn i ac yn haf 1965 gwireddwyd fy nymuniad o gael mynd i wersyll Llangrannog.

Dwy arall
Dydw i ddim yn cofio llawer am y daith ei hun ond bod y bws yn orlawn unwaith inni godi haid o blant yng Nghaerfyrddin ond fe gofiaf am byth y fynedfa drwy fferm Cefn Cwrt a chael ein rhannu, a'n dosbarthu i'r lle y byddem yn sefyll weddill ein arhosiad.

Cafodd Marilyn a minnau y fraint o sefyll mewn caban pren yn hytrach na phabell ond pan welsom y ddwy arall a fyddai'n rhannu â ni nid oeddem yn hapus o bell ffordd yn enwedig pan ddaeth yn amlwg eu bod yn smygu!

Roedd hyn yn dipyn o bechod yn ein golwg ni.

Merched hollol wahanol i Marilyn a minnau oedd y ddwy ac nid oedd dim y gallwn y'i wneud.

Lynda. ail o'r chwith, gyda chyfeillion yn LlangrannogGan mai caban yn y rhes gwt a gawsom, ni allwn weld y môr drwy'r ffenest gwaetha'r modd!!!

Anodd codi
A minnau'n gyfarwydd â chodi'n fore, ni allwn gredu pa mor anodd oedd hi i gael rhywun i godi o'i gwely a bu'n gamp anferthol ceisio denu'r ddwy ddiog hyd yn oed pan oedd arogl y brecwast yn eu ffroenau!

Yn ddyddiol, deuai swyddog a'n marcio ar radd o un i 10 ar ymddangosiad ein cabanau ond ni chredai Marilyn na minnau y byddai'n deg pe byddem ni'n colli marciau oherwydd segurdod dwy arall; felly, daethom i gytundeb â nhw i dynnu eu pwysau!

Unwaith y byddem yn deall fod y Swogs (Swyddogion) ar y ffordd byddai'r pedair ohonom yn clatsio bant i dacluso a rywsut fe lwyddom i gael 10 bob dydd!!!!

Byddai un yn mynd i chwilio am flodau gwyllt i addurno'r ystafell ddiaddurn tra byddwn innau yn sgubo tu mewn.

Byddai Marilyn yn twtio tra byddai'r llall yn chwistrellu persawr rhad oedd ganddi er mwyn cael gwared â'r arogl smygu ar y funud olaf!!

O leiaf nid oeddynt yn gadael gyd o'r gwaith i ni'n dwy, ac erbyn diwedd y ein arhosiad, fe ddaethom yn ffrindiau go iawn.

Twll yn y wal
Un tro bu bron inni â cholli pwyntiau oherwydd bod darn o bapur ar y mur a bu'n rhaid inni egluro mai llenwi twll oedd o twll yn y pared y byddai rhai o'r bechgyn yn dod i edrych trwyddo arnom!

"Gwell clwt na thwll," meddwn i heb feddwl ddwywaith.

Cefais amser bendigedig yn canu rowndiau gyda'r nos ond yn anffodus, gan fod y tywydd fel ag y mae yng Nghymru, unwaith yn unig cawsom fynd lawr i fae Llangrannog!

Pan yn hynach, heblaw mynd i gystadlu yn eisteddfodau'r Urdd, fe gefais y fraint o gymryd rhan mewn cystadleuaeth adloniant gan gynrychioli myfyrwyr y coleg fel capten tîm hoci a gyrhaeddodd y gêm derfynol.

Barod am hociColli wnaethom ni, fodd bynnag, er mawr siom a ninnau'n gofidio mai cyn arholiadau'r haf y chwaraewyd y gêm a'r rhan fwyaf o'r tîm arferol yn methu chwarae.

Bu'r cyfan yn gyfle bendigedig i adnabod pobl ifainc o bob rhan o'r wlad ac yn fodd i ddysgu colli gydag urddas.

Cymaint o hwyl
Wrth edrych yn ôl dros y tystysgrifau a'r lluniau yn awr sylweddolaf gymaint o hwyl a gefais o fod yn aelod o'r Urdd.

Rwy'n ddiolchgar fy mod yn gallu bod yn ffyddlon rhywfodd o hyd a hynny wrth ysgrifennu yn yr iaith a garaf. Breuddwyd syml, ond un anodd ei chyflawni ydy fy mreuddwyd i: a hynny yw ceisio cadw fy iaith yn fyw am weddill y blynyddoedd y byddaf ymaith o Gymru.








ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy