主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwisgoedd traddodiadol gwlad Groeg Balchder Cenedl
Lynda Ganatsiou o wlad Groeg yn trafod gwisg genedlaethol y wlad.

Hydref 2002

Gwir ydy'r dywediad, nad erys amser i unrhyw ddyn.

Prin y gallaf gredu fod blwyddyn gyfan wedi mynd heibio ers i griw S4C fod yma yn Thessaloniki gyda Hywel Gwynfryn.

Fe fuont yma, yn ffilmio rhai o Gymry Tramor yn byw eu bywydau newydd yma yng ngwlad Groeg, ar gyfer y rhaglen deledu Ar Dy Feic.

A minnau'n bersonol wedi cael y fraint o fod yn un o'r bobol iddyn nhw ffilmio, fe fum yn eu tywys o amgylch tref Thessaloniki yn ystod eu hymweliad.


Fe ddigwyddodd iddyn nhw gyrraedd y noson cyn gwyl mawr y wlad, sef y diwrnod Cenedlaethol pan oedd y ddinas allan yn gwylio gorymdaith fwya'r flwyddyn.

Gorymdaith ydi hon i atgoffa'r ieuanc am ddewrder y dynion fu farw dros eu gwlad.

Ar 28 Hydref 1940 bu i wlad Groeg wrthsefyll yn erbyn Mussolini, a dweud "OXI" (OCHI) neu "NA", gan rwystro'r Eidalwyr rhag cael mynediad i wlad Groeg.

Gwrthod amod olaf gan yr Eidalwyr a wnaethant. Bu hyn yn achos felly i'r wlad hon ymuno yn yr Ail Ryfel Byd.

Gorymdaith anferth

Gorymdaith anferth ydy hi, yn parhau dros awr a hanner gan arddangos tanciau mawr, rocedi a dynion y Lluoedd Arfog.



Y plant yn eu gwisgoeddHefyd mae plant ysgol a phobol yn eu gwisgoedd Cenedlaethol o bob rhan o ardal Macedonia: - yr ardal yr ydym ni yn perthyn iddi.

Eleni, fe ddewisodd George (y gwr) a minnau i beidio â mynd i mewn i'r dref fawr ond i gefnogi tref fechan Thermi (maestref o Thessaloniki).

Fel hyn roeddem yn cael siawns i weld pethau yn fwy manwl.

Byddai'n braf cael sôn ychydig am y wisg genedlaethol, felly.

Wedi i Groeg ddod yn rhydd yng nghwarter cyntaf y 19eg ganrif, dechreuodd dynion y wlad i gyd wisgo'r Ffwsranela.

Oherwydd ei boblogrwydd anghyffredin, mae'r wisg yma wedi dod i fod yn un o'r gwisgoedd traddodiadol mwyaf adnabyddus yn y byd.

Fel cilt yr Alban, mae'r Ffwstanela wedi dod i fod yn symbol o hunaniaeth Roegaidd.

Pob rhanbarth yn wahanol

Fel pob gwlad, mae gwlad Groeg wedi ei rhannu yn wahanol ranbarthau: Thrace, Macedonia, Epirus, Thessaly, Canolbarth Groeg, Pelaponnese, Crete, ynysoedd yr Aegean ac ynysoedd Ionia. O ranbarth i ranbarth mae'r wisg yn amrywio.

Ond nid yw'r gwisgoedd sydd i'w gweld ar y diwrnod Cenedlaethol yn mynd y tu hwnt i ddechrau'r 18fed ganrif

Mae gwisgoedd Groegaidd drawiadol ac maen nhw'n tarddu o'r traddodiad hynafol Bysantaidd. Yn wir, mae'r gwisgoedd wedi eu dylanwadu yn gryf gan y traddodiadau yma.

Gellir cysylltu'r mwyafrif ohonyn nhw â ddigwyddiadau hanesyddol a chymdeithasol. Hefyd, fe all pob gwisg ddarlunio safle personol, cymdeithasol, economaidd, priodasol ac oed person.

Gellir edmygu pob math o waith cywrain poblogaidd mewn un wisg unigol. Gan amlaf mae'r gwisgoedd wedi eu rhannu yn dri categori:

Y rhai sy'n cael eu gwisgo yn ardaloedd mynyddig.
Y rhai sy'n cael eu gwisgo ar y gwastadeddau.
Y rhai sy'n cael eu gwisgo yn yr ynysoedd.

Yna fe all y rhain gael ei rhannu yn ddau is-dosbarth:

a) Y wisg werin.
b) Y wisg drefol.

Gwisg y merched :
Mae'r gwisgoedd hyn yn amryliw ac yn ddisglair dros ben. Mae rhai yn anghyffredin o drwm ac wedi eu haddurno gan edau aur.

Diddorol ydy gwisg y menywod a gellir eu rhannu yn dau categori. Mae gan y categori cyntaf gysylltiad clir â'r dylanwadau Bysantaidd tra bod gan yr ail nodweddion Bysantaidd ond sydd hefyd wedi ei ddylanwadu'n gryf gan ddiwylliant y gorllewin.

Ym mhob tref fe ddewch o hyd i dri neu bedwar amrywiad eto, o'r un wisg!

Y wisg fwyaf poblogaidd gan y menywod yn y mwyafrif o drefi oedd yr Amalia, a benderfynwyd gan y Frenhines Amalia ei hun. Hi oedd brenhines gyntaf y wlad ond a oedd o dras Bafaraidd.

Gwyrdd oedd lliw sgert yr Amalia yn wreiddiol, ond wedyn fe'i newidiwyd i las. Gwisgir siaced ag iddi lewys hir dros y sgert, a chordyn hir i'r het.

Yn draddodiadol mae hwn yn cael ei wneud gan blethen o wallt y ferch ei hun. Yn ôl traddodiad, yr hiraf oedd y cordyn yna'r mwyaf oedd ffafr y ferch arbennig yma yn llys Amalia!

Gwisgoedd Sofia ac Olga fodd bynnag oedd yn cael eu gwisgo yn y llysoedd brenhinol.

Mae'r wisg fenywaidd fel arfer yn cynnwys y canlynol:

Y Pwcamiso: flows sydd I'w gweld bron ym mhob math o wisg ranbarthol; yna'r ffrog sylfaenol.




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy