主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Lynda Gwe-fr e-steddfodol
Lynda Ganatsiou yn mwynhau eisteddfod ar y we yn ei phwll yng Ngwlad Groeg

Ychydig ddiwrnodau yn ôl fe dderbyniais 'Newyddion da, o lawenydd mawr'!

Wrth ddarllen rhestr y buddugwyr yn E-Steddfod 2004, sy'n cael ei chynnal dan nawdd Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fe welais fy mod wedi ennill.

Er imi gymryd rhan yn y gystadleuaeth ysgrifennu haiku am Y Gwanwyn yn yr iaith Gymraeg, yn anffodus, ni fum yn ddigon ffodus i ennill.

Yr ail flwyddyn
Gallwch ddychmygu pa mor orawenus oeddwn o weld imi gipio nid yn unig y wobr gyntaf, ond ddod yn gydradd ail a chipio'r drydedd hefyd am ,i>haiku Saesneg, Spring.

Dyma'r ail flwyddyn imi gystadlu, felly roeddwn dros fy mhen a'm clustiau pan welais y canlyniadau ar y We ond er mor hapus oeddwn i fe hoffwn fod wedi ennill yn yr adran Gymraeg, a minnau'n brwydro i gadw fy Nghymraeg yn fyw, wedi bod i ffwrdd o Gymru er 1974. Dyfal donc a dyr y garreg!

Credwch fi, nid brolio yr ydw i ond ceisio mynegi fy ngwir llawenydd gan nad wyf wedi ennill dim erioed o'r blaen ac eithrio trydedd wobr gyda fy nhocyn, ym Matineesinema Sadwrn Y Tif (Tivoli) pan oeddwn tua wyth oed gyda Cadbury's Selection Box yn wobr!!!!!

Mewn pwll nofio
Cefais hwyl go iawn yn creu'r haikus, rhaid cyfaddef, yn enwedig gan i'r ysbrydoliaeth ddod tra'n arnofio ar wely gwynt yn fy mhwll yn ystod yr haf a minnau'n padlo am fy mywyd at fy llyfr nodiadau ar y lan pan fyddai'r awen yn cyrraedd.

!Da oedd gweld fod nifer o Gymry tramor eraill wedi cystadlu ac ennill hefyd a bod ganddynt hwythau ddiddordeb yn eu gwlad er eu bod, fel minnau, filltiroedd i ffwrdd.

Mewn ychydig o fisoedd, fydd y Gemau Olympaidd yn Athen a minnau'n barod am unrhyw beth ar ôl ennill rhywbeth!

Felly, beth wnâi - rhoi cynnig? Na gwell fydd dal ati i geisio cyflawni rhywbeth yn y Gymraeg!

Dim ond gobeithio y bydd 'na ddigon o destunau diddorol yn yr e-steddfod nesa!





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy