主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Samos Samos - ynys Pythagoras
Lynda Ganatsiou yn son am ei hymweliad diweddar ag un o ynysoedd mwyaf cyfareddol gwlad Groeg

Yn ddiweddar troais yn Gardi bach a mynd am wyliau pedwar diwrnod am ddim ar Ynys Samos.

Hynny am fod Andreas ar fin gorffen ei dymor gyda'r fyddin yno!

Ynys o rhyw 50,000 o bobl yw Samos ac wedi ei breintio â harddwch naturiol, diwylliant cyfoethog ac etifeddiaeth hanesyddol.

Er gwaethaf tanau difäol yn 1998, mae'n dal i fod yn ynys werdd gyda'i choedwigoedd pîn a llennyrch olewydd a sitrws.

Mae gwyrddlesni'n rhowlio i lawr y llechweddau hyd at y traethau euraidd sy'n cusanu dŵr clir yr Aegean; a'i gwinllanoedd diddiwedd yn ffynnon o winoedd enwog.

Coed oren
Yma mae'r strydoedd wedi eu haddurno â choed naranja (oren sur), sydd eisoes yn drwm o ffrwythau ac nid oedd yn rhaid imi fynd ymhellach na balconi Andreas i gael tystiolaeth o'r rhain!

Coed oren yn y stryd Yn union y tu allan roedd coeden lwythog - un o res sy'n addurno palmant y stryd.

Yn ôl traddodiad cysylltir blodeuyn y goeden â lwc dda ac am y rheswm hwnnw bu'n boblogaidd mewn tuswau priodasol a thorchau pen.

Bu natur yn garedig wrth Samos gyda'i harfordir dramatig a baeau graeanog.

Yna, yn y canoldir mae dwy gadwyn fynyddig ogoneddus wedi eu hamgylchu â bryniau gwyrddion sy'n ymdonni ar y gorwel.

Anodd credu nas plannwyd yr ynys yno'n bwrpasol gan rhyw law anweledig!

Effaith twristiaeth
Yn anffodus yr oedd Samos yn un o'r lleoedd cyntaf i ddenu twristiaid ac yn sgil hynny claddwyd heol farmor, hynafol, dan fwgwd o goncrid a distrywio cannoedd o adeiladau i wneud lle i letyau modern.

Cychod Collwyd llawer gormod o gymeriad yr ynys a chladdwyd neu moderneiddiwyd ei hetifeddiaeth.

Ar yr ynys hon y ganwyd, magwyd ac yr addolwyd Hera, duwies fwyaf nerthol y cyfnod hynafol.

Dyma hefyd ynys athronwyr mawr fel Arcistarchus: y cyntaf i ragdybio fod y Ddaear yn symud; Pythagoras, y mathemategydd ac Epicuros a sefydlodd ysgol o athronwyr.

Yn Pythagorio, pentref Pythagoras, y mae Andreas yn byw - pentref oedd yn cael ei adnabod fel Tigani hyd at 1955 a'r enw hwnnw yn golygu, padell ffrio oherwydd ffurf y porthladd.

Peintio a thwtio
Addurnwyd y promenâd gan fariau, tai bwyta (taferna) a chaffis diddiwedd.

Yr oeddwn i yno ychydig yn rhy gynnar yn y flwyddyn a'r ynys ond yn dechrau dihuno o'i gaeafgwsg a'r lleoedd twristaidd ond yn dechrau agor yn y gobaith o dymor llwyddiannus.

Dyna lle'r oedd pawb yn peintio neu yn gwneud mân newidiadau.

Adeiladwaith rhyfeddol
Yn yr hen amser roedd yr ynys yn un anghyffredin o gyfoethog.

Canolfan etifeddiaeth hynafol yr ynys ydy Pythagorio- wel, o leiaf, gymaint sydd ar ôl ohono.

Dan lywodraeth y gormeswr Polykrates fe ffynnodd y lle yn ystod ail ran y chweched ganrif Cyn Crist.

Gyda help peiriannydd talentog o'r enw Efplinos a rhyw 4,000 o gaethion o ynysoedd Naxos a Lesvos, cyflawnwyd gweithiau rhyfeddol yn cynnwys chwe chilomedr o fur amddiffynnol a rhyw 35 o dyrau a deuddeg o gatiau.

Mae glanfa a adeiladwyd yn dal i sefyll heddiw.

Tyllodd dwnnel un cilomedr o hyd drwy'r mynydd i gario dŵr yno ac yn ddihangfa pe byddai'r ddinas dan warchae.

Bu'r caethion yn cloddio o'r naill ochr a'r llall gan gyfarfod yn y canol - cryn gamp o ystyried yr offer cyntefig oedd ar gael a'r diffyg cyfarpar gwyddonol.

Y dyddiau hyn, ni chaniateir i ymwelwyr fynd ond rhyw 100 medr i'r twnnel.

Cystadlu â'r Parthenon
Fodd bynnag, ar yr ochr orllewinol yr oedd yr enghreifftiau gorau o weithgarwch Efplinos sef Heol Gysegredig saith cilomedr o hyd, wedi ei phalmantu â marmor a'i haddurno â rhes o 2,000 o gerfddelwau.

Teml HeraCodwyd teml i Hera oedd yn ddigon gogoneddus i gystadlu â'r Parthenon yn Athen.

Pe byddai wedi goroesi, fe fyddai yn rhyfeddod hyd yn oed heddiw.

Yn anffodus mae'r deml wedi hen ddiflannu yn ysglyfaeth i danau, goresgyniadau, daeargrynfâu, lladrata a diofalwch a chladdwyd 90 y cant o'r heol dan faes glanio, heol a rhes o westai!

Bob yn dipyn, mae'r twnnel yn cwympo, a'r unig beth sydd ar ôl o'r deml yw un golofn sigledig ynghanol cymhlethdod digyswllt o gerrig geirwon.

Anodd deall sut mae'r lle yn denu cymaint o ymwelwyr.

Gerllaw roedd baddon Rhufeinig a ddefnyddiwyd gan Anthony a Cleopatra yn ôl yr hanes. Aeth Andreas a mi i'r man sydd agosaf yng Ngwlad Groeg at Dwrci - dim ond 1.2 cilomedr i ffwrdd ac wedi i'r haul fachlud, hawdd oedd gweld goleuadau pentref dros y dŵ a phawb yn mwynhau eu hunain!

Tyfu baco
Er i Pythagorio fod yn brif gyrchfan gwyliau yr ynys ers 30 o flynyddoedd bellach yr oedd unwaith yn ardal tyfu baco cyn troi at dyfu olewydd.
Erbyn heddiw mae mwy o dwristiaid nag o goed!

Braidd yn siomedig oedd yr amgueddfa o gofio'r holl gyfoeth hynafiaethol lleol.

Ar fryn i'r de orllewin saif castell Logothetis ond siomedig yw hwn hefyd o gymharu â chestyll Cymru.

Cofio Pythagoras
Yr hyn a ddylanwadodd fwyaf arnaf oedd y cysylltiadau â Pythagoras er na threuliodd lawer o'i amser ar yr ynys.

Er mor anobeithiol oeddwn mewn mathemateg yn yr ysgol gallwn edmygu'r gŵr hwn yn fawr a theimlwn rhyw wefr o feddwl fy mod yn awr yn troedio llwybrau a droediwyd ganddo yntau.

Er mai adnabyddus am ei ddyfaliadau geometreg ydi o heddiw yr oedd yn ystod ei fywyd yn uchel ei barch fel athronydd, dewin a chyfrinydd.

Mae'n rhyfeddod gan nad oes unrhyw gofnodion ysgrifenedig o'i eiddo wedi goroesi. Trosglwyddwyd yr hyn wyddom am ei athrawiaethau inni gan ei ddisgyblion.

Bu'n ddylanwad ar athronwyr eraill Groeg gan gynnwys Aristotle a Plato.

Yr oedd yn llysieuydd ac yn ddirwestwr. Bu iddo ddiarddel arian a nwyddau materol - ffordd o fyw a fabwysiadwyd gan filoedd o'i ddilynwyr.

Ganwyd ef y chweched ganrif Cyn Crist yn fab i fasnachwr môr cyfoethog.

Cafodd yr addysg orau y gallai ei dad ei fforddio ond bu farw ei dad pan oedd Pythagoras yn ei arddegau - yr un adeg ag y daeth y gormeswr, Polykrates, yn llywodraethwr.

I'r Aifft
Yn ddeunaw oed gadawodd Pythagorasi i astudio wrth draed yr athro enwog Thales a'i cynghorodd i ymweld â'r Aifft, prif ganolfan addysg y pryd hynny.

Bu yno am ugain mlynedd yn astudio seryddiaeth a geometreg.

Pan feddiannwyd yr Aifft aed â Pythagoras i Fabilon lle tyfodd o fod yn gaethwas i fod ddisgybl mewn mathemateg, cerddoriaeth a diwinyddiaeth i un o ddynion doeth Persia.

Yr oedd yn 56 pan ddychwelodd i Samos a sefydlu cylch o ddilynwyr gan fyw mewn ogof.

Gadael eto
Gan iddo flino ar gael ei blagio cymaint i helpu'n gyhoeddus â gweinyddiad gwleidyddol yr ynys gadawodd gyda'i ddilynwyr ffyddlonaf i fyw yn Croton, yr Eidal.

PythagorasNi wyddom lle y bu farw na lle y'i claddwyd a'r unig beth allwn i ei wneud i gofio amdano oedd tynnu llun o'r cerflun celfydd ohono a adeiladwyd ar sylfaen ei ddyfaliad adnabyddus ynglŷn â sgwariau ar ochrau triongl.

Yn anffodus, gynted ag y cefais y syniad o ymweld â'r ynys daeth yr ymweliad i ben! Ac er bod dychwelyd gartref yn hyfryd, roedd tristwch hefyd o adael y lle ar drothwy ei ddeffroad tymhorol a chael profi'r ynys yn go iawn.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy