主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Chwifio baneri llwyddiant
Lynda Ganatsiou yn ymhyfrydu mewn llwyddiannau Groegaidd

Mehefin 2005
Gellir gymharu Groeg â Chymru fel dwy wlad fach ddistadl a neb yn cymryd llawer iawn o sylw iddyn nhw.

Mae gan y ddwy hanes heb ei ail ym myd cerddoriaeth gyda Chymru yn cael ei hadnabod fel Gwlad y gân.

Ac rwyf innau wedi byw yma yn ddigon hir i fedru dweud, heb air o gelwydd, fod y Groegwyr yn bobl gerddorol iawn hefyd.

Pobl ifainc dalentog
Amlygir hynny'n ddyddiol ar y teledu gyda nifer y bobl ifainc dalentog dros ben yn synnu rhywun.

Pob un fel pe byddai wedi ei fendithio â'r ddawn i ganu!

Daeth hynny'n amlycach fyth pan fu Groeg yn fuddugol yng nghystadleuaeth Eurovision eleni.

Elena Am flynyddoedd bu'r wlad yn breuddwydio am gipio'r wobr ryngwladol hon gan ddod yn agos iawn sawl gwaith - yn drydydd yn 2001 a 2004.

Wedi dod mor agos 'roedd llwyddiant yn ffroenau'r Groegiaid a bu'r donc ar y garreg yn fwy dyfal nag erioed!

Dymuniad mawr y genedl oedd ennill y llynedd gan ategu camp y dringwyr Groeg yn cyrraedd copa Everest, y tîm pêl-droed yn ennill y cwpan Ewropeaidd a llwyddiant y gemau Olympaidd.
Nid felly oedd hi i fod.

Ta beth, yr oedd rheswm da dros ennill eleni hefyd gyda'r gystadleuaeth yn dathlu ei hanner cant yn Kiev, Mai 21.

Diwrnod ei henw
Cynrychiolwyd Groeg gan Elena Paparizou, merch ieuanc 23 oed a ddaeth â'r wlad mor agos at ennill yn 2001 pan fu'n canu deuawd a bachan ieuanc, dan yr enw >i> Antique.

Roedd ei buddugoliaeth yn binacl i 31 mlynedd o gystadlu gan Wlad Groeg - ond ar ben hynny Mai 21 ar ddiwrnod dathlu ei henw - dydd y Santes Eleni.

Nid oedd dim yn well, felly, na buddugoliaeth ar y diwrnod nodedig hwn.

Enillodd Groeg y dydd gyda chân drawiadol My number one gyda bron i ddeugain yo bwyntiau yn fwy na chân Malta a ddaeth yn ail.

Gyda'i champ sicrhaodd i'r wlad nid yn unig eilun rhyw ond hefyd lysgennad diwylliannol newydd.

Rwyf innau'n ei gwylio'n ffyddlon nid yn unig oherwydd y gystadleuaeth ond gan fy mod o'r farn fod cerddoriaeth yn cael ei gyfansoddi fel adloniant i ddyn.

Ffordd yw'r gystadleuaeth hon o uno cenhedloedd gyda chystadleuwyr yn teithio i'r wlad sy'n ei chynnal ac yn dysgu llawer am gefndir y lle, heb sôn am gyfannu â'i gilydd.
I gerddoriaeth y daw'r fuddugoliaeth eithaf, wrth gwrs.

Merched tlws
Bu mis Mai yn fis gwerth chweil yng Ngwlad Groeg gyda llwyddiant hefyd mewn cystadleuaeth brydferthwch yn Bangkok, Thailand - cystadleuaeth Miss Cyfanfyd neu, o ddefnyddio'r teitl Groegaidd, Miss Cosmos!

Yma roedd 80 un o freninesau yn cynrychioli eu gwledydd gyda 171 o wledydd ledled y byd yn eu gwylio.

EvangeliaAc yno, llwyddodd Evangelia Aravani 19 oed o Wlad Groeg gyrraedd y rownd gynderfynol.

Gan ei bod yn ferch serchog dros ben a chanddi wên ar ei hwyneb bob amser, siaradai ei chyd gystadleuwyr amdani ag edmygedd - ac ar ben hynny daeth y dduwies Roegaidd hon â llewyrch i galonnau ei chydwladwyr hefyd.

Yn fodlon
Er taw merch o Ganada a ddewiswyd yn Miss Cosmos ac yn fenyw fwyaf prydferth y byd, o wledydd yr America Ladin yr oedd y pedair ymgeisydd arall yn y eownd derfynol.

Roedd y ffaith fod Evangelia wedi cyrraedd cyn belled â merched mor brydferth yn bodloni ei chydwladwyr.

Yn 2006 bydd cystadleuaeth enwog yr Eurovision yn cael ei chynnal yn Athen, y brifddinas - tybed pryd y byddant yn gwahodd pasiant Miss Cosmos yma?

Efallai y bydd yn rhaid disgwyl nes yr enillir y goron cyn y gall hynny ddigwydd .
Hir pob aros!






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy