主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Komboloi Cysur a hanes mewn rhes o fwclis
Lynda Ganatsiou o Wlad Groeg yn son am gyfriniaeth y Komboloi

Dydd Gwener, Mai 19, 2000

Llaes a llac yw'r awyrgylch yn y Caffeneon lleol. Pob un ai gwmni ei hun, a phob cwmni a'i fwrdd arbennig.

Nid lle i fenywod na phobol ieuanc yw hwn ond man cyfarfod i ddynion: y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi ymddeol. Llecyn i eistedd a chyfnewid barn ar faterion y dydd, gwleidyddiaeth ac, i ambell wr gweddw, dihangfa rhag unigrwydd.

Trwy gymylau o fwg mae gwahanol synnau yn cymysgu: swn llymeitian coffi blasus, swn siarad cyffrous ar ôl y pleidleisio. Terfysg mewn congl arall pan fo rhywun yn ennill gêm o tafli sy'n fath o wyddbwyll.

Bysedd prysur a meddwl ystwyth
Ond mae swn arall i'w glywed uwchben yr ymgomio; swn sy'n fwy treiddiol nag un y darnau tafli yn cael eu hyrddio yn erbyn y bwrdd pren. Swn toncian y komboloi.

Yn siarad ac yn bodio'r gleiniau hyn y mae'r dynion mewn oed yn treulio'u hamser hamdden. Ysgytwad cyflym, ar gleiniau yn taro'u gilydd clic-clep, clic-clep. A dweud y gwir, mae'r komboloi yn degan digon swnllyd.

O weld un o'r rhain am y tro cyntaf, gallech gael eich twyllo i ffeddwl mai math o freichled yw. Ond na! Cyfres o gleiniau neu fwclis wedi eu dodi ar edau yw ac y maent ar gael ar sawl ffurf a lliw du, gwyn, glas, melyn.

Ond, beth bynnag y lliw, un syniad sylfaenol sydd y tu ôl iddyn nhw i gyd, cadw'r bysedd yn brysur a'r meddwl yn ystwyth!!

Aur neu arian i'r bechgyn dynnu sylw'r merched

Gan amlaf, y bobol hynny sydd o natur gelfyddydol sy'n prynu'r rhai lliwgar. Rhai aur neu arian sy'n mynd a bryd y bechgyn ieuanc - er mwyn tynnu sylw'r merched.

Prynir y rhai aur neu arian yn siop emau orau'r dref ond y rhai rhad o blastig o stondinau papur newydd.

Hefyd, defynyddir rhai mawrion o bren i addurno mur yn y ty neu mewn swyddfa. Mae llawer o ddynion yn eu hongian yn eu ceir am lwc.

Ond y komboloi traddodiadol yw'r un syn cael ei ddefnyddio yn y llaw.

Defnyddir y rhain i leddfu pryder neu stres ac i gael gwared a phwysau dyddiol. Mae rhai yn eu defnyddio i drechu problemau gorfwyta ac i'w helpu i roi'r gorau i ysmygu!!!

Mae'n symbol o ddifyrrwch ac o aeddfedrwydd a gwahaniaethir rhwng un a'r llall gan y defnydd a wneir.

Neges y belen fawr

Nid gwneud y komboloi yn brydferthach yw unig bwrpas pelen fawr ar y pen; y mae hi hefyd yn cyfleu gwahanol bethau i wahanol bobol. Mae'n atgoffa'r Mwswlmaniaid, Bwdistiaid ar rhai sy'n dilyn y grefydd Hindw, o'u duw. I'r Groegwyr, fodd bynnag, Offeiriad yw.

Mae maint y belen, yn arwydd o nerth ac awdurdod.

Nerth a chyffro mewn ambr
Un o elfennau prydferthaf natur - sef ambr, a ddefnyddir gan amlaf i wneud komboloi.

Mae'r ffaith ei fod yn ddefnydd organig yn bwysig gan y tybir mai dim ond rhywbeth naturiol all fod yn gyfaill a chydymaith i ddyn.

Dewisir ambr yn hytrach na rhai pethau eraill am y credir fod nerth ynddo i gyffroi tri o'n synhwyrau ni:
Mae'n gynnes iw gyffwrdd
Mae'n brydferth i edrych arno
Mae'n creu swn arbennig wrth i'r mwclis daro yn erbyn eu gilydd.

Felly, nid yw'n syniad da dewis komboloi wedi ei wneud o garreg neu o fetel!

Straeon yr hen ddynion

Mae sawl cyfrinach ynghudd yn y gleiniau hyn a'r unig ffordd i'w datgelu yw trwy dreiddio i storiau'r hen ddynion sydd wedi eu hetifeddu drwy eneidiau a thrwy law y cyndadau.

Defnyddir y komboloi fel offeryn gweddi hefyd.

Feu crewyd gan y Mwslemiaid tua mil a hanner o flynyddoedd yn ôl pan geisiodd y proffwyd Mohammed gryfhau y ffydd a theimliadau crefyddol y dychweledigion newydd yr adeg honno.

Gorfodwyd hwy i weddio sawl gwaith y dydd gan ddisgwyl iddyn nhw ddweud rhyw gant namyn un o weddiau bob tro. Hynny yn adlewyrchiad or nifer o gyfrifoldebau gan Allah!!!.

Er mwyn llwyddo i weddio a chyfrif ar yr un pryd roedd ganddynt komboloi gyda chant namyn un o gleiniau gyda'r gleiniau yn llanw'r edau ar wahan i un lle gwag ar gyfer un belen.

Ar ddiwedd pob gweddi syrthiai'r belen yn ôl i'r cefn gydar un nesaf yn cymryd ei lle, nes i bob un gael ei defnyddio (un belen am bob gweddi).

Felly, roedd y komboloi yn "rhifwr gweddiau" i'r Mwslemiaid cyn cael ei estyn ir Pabyddion ar ffurf glain baderau. Yna fe ddaeth i wlad Groeg, lle nad oes arwyddocad grefyddol eang iddo.

Fe'i defnyddir yma fel rhywbeth i'w gyffwrdd a'i deimlo. Rhywbeth i edrych arno a ac i wrando ar ei swn wrth i'r mwclis daro ei gilydd. Cydymaith i'r unig ac, yn fwyaf arbennig, yn falm i'r enaid.




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy