主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Anrhydeddau Olympaidd
Medi 2004
Gyda'r gemau para-olympig yn awr ar eu hanterth bu Lynda Ganatsiou yn chwilio am arwyddocad rhai o'r tlysau Olympaidd

Y Dorch
Cafodd enillwyr y medalau aur, arian ac efydd yng ngêmau Athen 2004 eu coroni â phlethdorch o ddail yr olewydden: hefyd a hynny'n adlais o'r gemau Olympaidd cyntaf a fu erioed.

Dyma'r anrhydedd fwyaf y gellid ei chyflwyno i fabolgampwr yr hen fyd.

Wedi 776 CC cofnodwyd y buddugoliaethau yn yr altis neu'r allt o goed cysegredig yn Olympia, a dyfodd y tu ôl i deml Zeus.

Derbyniodd yr enillwyr y blethdorch olewydd â pharch, gan ddiolch i'r duwiau.

Hyd heddiw, nid oes dim yn fwy anrhydeddus ym myd y mabolgampau amhroffesiynol nag ennill cystadleuaeth Olympaidd.

Torch OlympaiddCafodd y coronau i gêmau 2004 eu gwneud o olewydd a blannwyd i'r pwrpas hwn yn 1987 mewn gallt o goed ym mharc Goudi ger Athen.

Fodd bynnag, cafodd enillwyr y marathon rai eithriadol o arbennig, wedi eu gwneud o goed yn tyfu ar ynys Creta, ac yn dyddio yn ôl i'n hynafiaeth.

Mae stori ddoniol yn gysylltiedig â hyn.

Bu dau bentref ar yr ynys yn ffraeo am flynyddoedd gyda'r naill yn dweud fod yno goeden hynach nag yn y pentref arall!
Y rheswm oedd, fod y ddau bentref am ddarparu'r plethdorchau ar gyfer Olympiaid.

Y ffordd y cafodd y broblem ei datrys gan un o drefnyddion y gemau oedd trwy ddefnyddio dail o'r ddwy goeden - dail o Kavoursio, yn ne'r ynys, ar gyfer torch enillydd marathon y menywod a rhai o Kolybari, yng ngogledd yr ynys ar gyfer torch marathon y dynion!

!Uchafbwynt y drwgdeimlad chwerw oedd un o'r pentrefi yn gofyn i'r llall dorri i lawr eu coeden er mwyn rhifo'r cylchoedd a mynnu gwybod ei hoed, gan sicrhau y byddent hwy yn gwneud yr un peth wedyn!!! Ni ddigwyddodd hynny, wrth gwrs.

.Y mascotau
Cyn dewis Athina a Phevos yn fascotau'r gêmau bu llawer o drafod.

.Ymateb y trefnyddion oedd na allai dim fod yn fwy Groegaidd a dewiswyd yr enwau arbennig oherwydd mai Athina oedd duwies Doethineb a addolwyd gan y cyndadau a hithau hefyd yn amddiffynwraig Athen fel gwladwriaeth ddinesig.

Un o'r enwau a roddwyd ar Apollo oedd Phevos (Ffifos), duw y goleuni a cherddoriaeth.



Athina a PhevosAr ben hynny ysbrydolwyd y cynlluniwr gan ddol a wnaed o glai yn dyddio'n ôl i'r seithfed ganrif CC ac yn tarddu o'r cyfnod Myceneaidd.

Ond er cymaint y cysylltiadau hynafol bu llawer o waith perswadio ar y cyhoedd !!!

Ond mae'n gwbl resymol credu i blant a dyfodd i fod yn Olympiaid yn yr amser gynt fod yn chwarae gyda doliau o'r fath.

Ac yn wir, calon plant yn hytrach nag oedolion oedd Athina a Phevos yn ei hennill.

Ond y farn gyffredinol oedd eu bod yn debycach i 主播大秀r Simpson nag i Phevos a chawsant eu gwatwar yn ddi-baid nes i bobl gyfarwyddo â hwy.

Y medalau
Bu'r gwaith o ail gynllunio'r medalau dan ofal Elena Votsi.

Y rheswm am y newid oedd fod symbolau anghywir ar y medalau a'r gwir draddodiad Groegaidd heb ei ddangos.

.Medalau Pan ddewiswyd Vosti i wneud iawn am hyn defnyddiodd lun o Stadiwm Panathenaico Kalimarmaro - safle y gemau Olympaidd modern cyntaf - lle'r darlun o'r amffitheatr Rufeinig sy'n adlais o'r Colosseum.

Cynhaliwyd cystadleuaeth am y cynllun gorau, gan fod pwyllgor y gêmau am gael Kalimarmaro a ffurf Nike - duwies buddugoliaeth. Er iddi ymddangos ar y medalau er 1896, darluniwyd hi'n eistedd mewn cerbyd.

Yn ôl y chwedl, disgynnodd hi o'r wybren i ddodi'r dorch ar ben y buddugol.

Felly, ar y medalau newydd, gwelir Nike yn disgyn a'i thraed yn gyntaf gan afael mewn torch.

Tu cefn iddi gwelir stadiwm marmor Kalimarmaro a'r Parthenon yn y pellter.

Yr ochr arall i'r fedal mae'r fflam Olympaidd uechben llinell allan o wythfed telyneg Olympaidd Pindar, a gyfansoddwyd 460 CC yn anrhydeddu buddugoliaeth Alkemedon o Aegina mewn cystadleuaeth ymaflyd yn y gêmau Olympaidd.

Mae hawl gan bob gwlad sy'n cynnal y gemau i newid yr ochr hon gan greu rhywbeth sy'n nodweddiadol iddi hi.

Fodd bynnag bydd yr ochr sy'n dangos Kalimarmaro a Nike, yn aros yr un fath o wlad i wlad





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy