主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Plant yn y drws gyda'u llongau Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg
Yn yr erthygl hon y mae Lynda Ganatsiou, Cymraes sy'n byw yng Ngwlad Groeg, yn son sut y bydd hi yn dathlu'r Nadolig a'r flwyddyn newydd
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 23, 2000

Ta Christwienna - Y Nadolig


Mae Nadolig yng Ngwlad Groeg damaid yn ddarostyngedig i ddathliadau gwych y Pasg !

Hefyd, mae traddodiadaur Nadolig yn gwahaniaethu o le i le gyda theuluoedd yn tueddu i ddilyn traddodiadau yr ardal lle'u ganwyd.


Rhodd yn rhan o'r biliau!
Dros yr Wyl, ychwanegir "rhodd", to ddoro, at eich dyleb yn siopau'r barbwr, y siopau trin gwallt menywod a phan yn defnyddio tacsi.

Bydd y dynion sy'n glanhau'r heol a'r dynion ysbwriel yn dod i'ch drws am eu ddoro hwythau.

Mae'n draddodiad hefyd rhoi arian i ddyn y post er na fydd ef yn erfyn dim.

Mae gan gynorthwywyr cartref a garddwyr hawl i ddoro hefyd sy'n cyfateb i fis yn llawn o daliad os ydynt yn cael eu cyflogi bob mis neu ddiwrnod yn ychwanegol os mai unwaith y dydd y dont i helpu.

Rhagfyr 24 Paramoni Christwtyenna

Yn gynnar yn y bore daw plant mewn parau neu fwy i mofyn calennig gan ganu carolau - Calanda - a dweud "Na ta pwme?" (Allwn ni eu dweud?). Os nad ydych yn ateb "Ne, na ta pite" ! ( O'r gorau, dwedwch nhw!) byddant yn gadael.

Bydd y plant yn defnyddio triongl (trigono) i gyfeilio onibai fod plentyn mwy dawnus yn y grwp sy'n gallu canu'r ffliwt bren neu acordion.

Ers talwm byddai'r plant yn dal llong bren neu lusern ar ffurf eglwys gyda channwyll o'i mewn.

Mae'r ddefod yn parhau y prynhawn a'r hwyr pan fydd pobl mewn oed yn canu a chasglu at rhyw achos.

Noswyl y Nadolig mae'r Groegwyr yn mynd allan i bartioedd.

Cyfarchion y tymo
r
Rhai o gyfarchion yr adeg hon o'r flwyddyn yw:-
- CALES IORTES Gwyliau Hapus, term a ddefnyddir ar gyfer pob gwyl o bwys!!.

- CHRONIA POLLA - Bywyd Hir, hefyd ar gyfer sawl achlysur.

- KALA CHRISTWYENNA - dim ond ar gyfer y Nadolig.

Rhagfyr 25 - Animera Christwyenna

Sy'n dechrau yn gynnnar yn y bore gyda gwasanaeth yn yr eglwys. Yn y prynhawn mae teuluoedd yn dodat ei gilydd am Wledd y Nadolig gyda phennaeth y teulu yn rhannu'r Christopsomo (bara Duw/ bara Nadolig) yn ddefodol.

Bwyteir porc, oen neu dwrci a nifer o fwydydd llysieuol. Wedi'r prif bryd fe fydd cwrabieddes (cacennau wedi eu gwneud o gnau almon a'u gorchuddio â siwgr mân):

- melamacarona (cacennau wedi eu gwneud â pherlysiau ac wedi eu trochi mewn mêl,

- baklafa ( pasteiod yn llawn cnau a thriagl melyn o'u cwmpas).

Pe byddech yn rhoi platied o felysion i'ch cymydogion ni fyddai'n syndod cael yr un plat yn ôl gyda'u melysion hwy arno! Byddai'n anghwrtais dychwelyd plat yn wâg.

Dyma ddiwrnod pobl o'r enw Christos, Christina, Emanuel (bachigyn o Emanuel ydy Manolis a Manos ).

Rhagfyr 26 -yw ail ddydd y Nadolig neu Deffteri Mera Christyienna.

Rhagfyr 31 Paramoni Protochronia

Bydd y plant yn rowndio'r tai a'r siopau yn y bore gan gyhoeddi dyfodiad y flwyddyn newydd a Sant Basil (Agios Fasilios ), y Sion Corn Groegaidd.

Esgob a fu farw ar Ionawr 1, 380 OC, oedd ef.

Tuedda'r noson hon i fod yn fwy o gynulliad teuluol gyda rhoddion yn cael eu cyfnewid. Gyda'r Groegwyr mor hoff o hapchwarae chwaraeir gêm gardiau o'r enw "31" - trianda mia.

Ganol nos cyhoeddir y flwyddyn newydd gyda gwin neu Siampain a bloeddiadau o "Eftichismenos o Cenwrios Chronos" - Bydded ichi Hapusrwydd yn y Flwyddyn Newydd - neu "Cali Chronia" - Blwyddyn Dda.

Ionawr 1 Protochronia

Diwrnod y rhai o'r enw Basil, Fasso, Fassilis, Fasiliki, neu Kiki gyda thraddodiadau sy'n gysylltiedig â lwc dda yn cael eu hymarfer gan fod y Groegiaid ddrwgdybus iawn.

Mae Fassilopita (cacen fawr) yn cael ei thorri er mwyn gweld pwy a ddaw o hyd i'r darn arian o'i mewn.

Bydd yr un ffodus yn lwcus gydol y flwyddyn.

Ar y diwrnod hwn rhaid dodi'r droed dde dros drothwy'r drws gyntaf wrth fynd i dy rhywun gan fod hynny'n arwydd eich bod yn cychwyn y flwyddyn yn dda.

Yn y siopau mae'r siopwr yn gofyn ichi roi eich troed orau dros y trothwy er mwyn iddynt wneud busnes da y diwrnod hwn.

Os taw chi yw'r cwsmer cyntaf, maent yn symud eich arian fel gwyntyll dros eu genau gan chwythu drosto.

Cefais y profiad hwn sawl tro yn siop y cigydd gan ei fod o'r farn fy mod yn dod a lwc dda iddo sy'n golygu ei fod yn wên o glust i glust o fy ngweld yn dod i'w siop!

Traddodiad arall ydy hongian gwreiddyn mawr tebyg i winwnsen cremidda ar y drws.

Gwreiddyn y Lili Wyllt yw hwn ac yn arwydd ffrwythlondeb yn wreiddiol ond yn awr yn ein gwarchod rhag drwg.

Ionawr 6 - Epiffani Theoffania

Dydd cofio bedyddio Crist yn yr Iorddonen. Fe'i gelwir hefyd yn Ta Ffota - Y Goleuadau.

Prif digwyddiad y dydd ydy Bendithio'r Dyfroedd pan fydd offeiriaid a phlwyfolion dros y wlad yn ymweld a'r dwr agosaf - môr, llyn, neu hyd yn oed bwll nofio a thaflu - croes i'r dwr.

Wedyn, bydd llanciau a dynion yn neidio i'r dwr rhewllyd i'w hadfer.

Yn ystod yr wythnos bydd yr offeiriad yn bendithio tai y bobl â dwr sanctaidd, Aiasmos, sy'n cael ei wasgaru gyda sbrigyn o Fasil.

Dyma ddiwrnod rhai o'r enw Ffotis, Ffotini, Theoffanis neu Ffanis.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy