主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gorymdeithio Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg
Ond hen arfer y Ty Agored yn prinhau gwaetha'r modd

Dydd Mercher, Hydref 25, 2000

Lynda Ganatsiou yn sgrifennu o Thessaloniki


Aelod o deulu urddasol o Thessaloniki oedd Sant Dimitrius.

Yn swyddog yn y fyddin Rufeinig cafodd ei garcharu am fod yn Gristion.

Pan y'i gorfodwyd i gymryd rhan mewn ymladdfa annheg o unochrog rhoddodd gymorth ysbrydol i wr o'r enw Nestor ac oherwydd ei ffydd bu'n fuddugol er mor anghyfartal y gystadleuaeth yn eu herbyn.

Am hyn, dedfrydwyd ef a Nestor i farwolaeth gan y Rhufeiniaid.

Fodd bynnag, cododd y Cristnogion eglwys bwysig er cof amdano yn y fan lle bu farw.

Mae llawer o chwedlau am Dimitrius - ei wyrthiau a'r olew per a darddodd o'i fedd.

Ef yw Nawdd Sant Thessaloniki lle credir ei fod yn gofalu am y dref ar adegau gofidus yn ei hanes - megis rhyfeloedd a daeargrynfeydd.

Hydref 26 yw'r diwrnod y mae trigolion Thessaloniki yn dathlu eu nawddsant.
Dyma hefyd y diwrnod y rhyddhawyd y dref o ddwylo'r Twrciaid yn 1912. Felly, mae yma ddathlu dwbwl. Yn ogystal â bod yn achlysur crefyddol y mae iddo hefyd ei arwyddocad gwladgarol.

Y diwrnod cyn yr wyl, bydd pob ysgol led-led y wlad yn cynnal cyngerdd i ddathlu; gan amlaf gyda pherfformiadau dramatig gwladgarol, darlleniadau arwyddocaol, canu ac adrodd darnau o farddoniaeth.

Mae'n debyg iawn i gyngerdd Dydd Gwyl Dewi yng Nghymru.

Ond ar y diwrnod ei hun bydd yr ysgolion a'r siopau yn cau ac am unarddeg y bore bydd y plant yn gorymdeithio drwy'r stryd fawr yn eu gwisgoedd swyddogol.

Bydd lle arbennig wedi ei godi i'r bobl bwysig eistedd ac wrth orymdeithio heibio'r rhain bydd y plant yn troi eu hwynebau tuag atynt fel arwydd o barch.

Dathlu ein henawu gyda brandi a gwin!

Adnabyddir tymor yr hydref yma fel tymor y "iorton" sef dathlu. Dyma pryd mae'r bobl yn dathlu eu henwau eu hunain yn ogystal â dathlu enw'r nawddsant.

Mae'n adeg pan fo chwarter y wlad yn dathlu eu henwau sef Dimitris y dynion, a Dimitra y menywod!

Noson y dathlu mae'r teulu yn cael "ty agored" gyda chyfeillion yn ymweld i ddymuno "Chronia polla" ( "llawer o flynyddoedd") a Cherese (Llongyfarchiadau).

Mae hwn yn ddiwrnod mawr nid yn unig i'r person sy'n dathlu ond i'w deulu i gyd.

Wedi i'r ymwelwyr gyflwyno anrheg ( blodau, potel o ddiod, llyfr, tegan ac ati) mae gwraig y ty yn rhoi iddyn nhw "glico tou coutaliou" (melys y llwy) sef darnau melys o ffrwyth ffres gyda sudd trostynt.

Gyda hwn, yr ydym yn yfed Brandi Mataxa.

Wedi hynny ceir platiad o wahanol dameidiau o fwyd a gwin i'w yfed.

Yna symudir ymlaen i dy arall lle mae rhywun yn dathlu.

Erbyn diwedd y noson, fel y gellwch ddychmygu, bydd effaith yr holl Metaxa a gwin i'w deimlo! Byddwch yn feddw gaib!

A chredwch fi, mae bron yn amhosib gwrthod gan y byddai hynny'n cael ei ystyried yr amharch mwyaf.

Ac ar ddydd Dimitri gallwch fod yn ymweld a thua deg o deuluoedd.

Ond mae'n amser braf ac yn gyfle i bawb gael sgwrsio, gweld hen ffrindiau, a hyd yn oed wneud ffrindiau newydd.

Mae pethau'n newid

Fodd bynnag mae pethau'n newid ac erbyn hyn mae llawer o bobl yn rhy brysur i drefnu "ty agored" onibai mai'r Sadwrn yw dydd y dathlu.

Yn anffodus, y ffasiwn erbyn hyn yw dymuno'n dda dros y ffôn.

Mae rhai plant yn mynd â chacennau siocled i'r ysgol i'w rhannu a'u ffrindiau. Weithiau bydd pedwar plentyn o'r un enw - a neb a chwant bwyd wedi dychwelyd adref!

Bydd gweithwyr yn gwneud yr un peth yn eu swyddfeidd.

Os bu marwolaeth yn y teulu nid ydych yn dathlu na chynnal ty agored y flwyddyn honno.

Dydd dweud Na

Dathliad pwysig arall yw Dydd Oxi (sy'n golygu Na) ar Hydref 28 i gofio'r dydd y penderfynodd y Prif Weinidog ddweud Na a gwrthod mynediad i'r Eidalwyr i'r wlad yn 1940 - y weithred a sicrhaodd fod y Groegwyr yn ymuno â'r Ail Ryfel Byd.

Mae'r amgylchiad yn cael ei gofio gyda gorymdaith ym mhob tref gyda'r holl luoedd arfog yn cymryd rhan ochr yn ochr ag ysgolion a gwahanol gymdeithasau - pawb yng ngwisg eu hardal.

Bydd hynafgwyr balch a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd yn eu gwisgoedd Cenedlaethol a'u bronnau wedi eu haddurno â rhesi o fedalau.

Golygfa fythgofiadwy gyda'r baneri yn chwifio yn nwylo'r plant bach. Y llongau rhyfel yn tanio eu gynnau er cof am y rhai anffodus a fu farw dros eu gwlad yn y Rhyfel.

Y porthladd yn llawn o gychod wedi eu haddurno a baneri ac wrth i'r orymdaith ddirwyn i ben llenwir yr awyr a swn byddarol MIG 16s yn hedfan heibio.

Pawb yn dal ei anadl cyn gadael yn llawn balchder a hunanbarch.

Gellir teimlo rhyw awyrgylch na ellir ei ddisgrifio â geiriau. Nid oes raid siarad. Mae'n brofiad sy'n uno pawb.





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy