主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Pen yr eryr Ymweliad brenhinol
Myfi ywr eryr mawr y teyrn aderyn cryf!
Lynda Ganatsiou, Cymraes sy'n byw yng Ngwlad Groeg, yn sôn am ymweliad annisgwyl a'i chartref.


Nid yw'n wir fod yr haul yn tywynnu'n wastad, yma yng ngwlad Groeg ac os mai hynny glywsoch chi, celwydd ydio!

Ar rai adegau o'r flwyddyn gall pentrefi fod dan bedair metr a mwy o eira.

.Wrth gwrs, mae tywydd o'r fath yn effeithio ar fywyd gwyllt yn ogystal â phobl.

Mae i bob tymor ei harddwch ei hun a does dim golygfa harddach na mynydd Hortiatis dan gaenen o eira.

Ac, a hithau'n nosi, gallwch ddychmygu'r bleiddiaid yn udo ar y lloer.

Eryr yn galw
Un peth na fun rhaid i mi ei ddychmygu y gaeaf diwethaf, fodd bynnag, oedd ymweliad eryr âr caeau gerllaw.

Eryr enfawr allan o'i gynefin yn chwilio am fwyd wedi ei orfodi i ardaloedd is oherwydd y tywydd.

Er nad Condor yr Andes mo hwn y mae'n aderyn golygus iawn sy'n haeddu cael ei alw'n Frenin yr Adar!

Heb os, mawreddog ydyr gair mwyaf addas iw ddisgrifio ac yn gwbl wahanol yn ei gynefin o gymharu ag mewn sw!

Fem cyfareddwyd o'i weld ar ei ehediad gyda'i adenydd ar agor oddeutu 85 sentimetr.

Fel ysbryd du
Cefais fraw eithriadol un diwrnod pan ehedodd yn isel dros y pwll nofio a oedd yn wâg ar wahan i ychydig o ddwr glaw yn lloches i ambell froga.

Yng ngoleuni'r haul taflodd gysgod annisgrifiadwy a anfonodd ias drwyddaf.

Llun eryr gan LindaRoedd fel pe byddai rhyw ysbryd du, anferth, wedi mynd heibio.

Yr adeg honno, nid oedd Ben, y ci bach, ond rhyw chwech wythnos o oed ar y pryd ac ofnwn am ei fywyd.

Nofio yn yr awyr
Rhyw ddwywaith y gwelais i'r aderyn wedyn y tro cyntaf yn gymwys yn yr un fan ond ar fore arall yr oedd yn esgyn yn uchel yn y nefoedd yn nofio ar yr awyr dros y llechweddau cyfagos gan roi ysgydwad nerthol iw adenydd bob hyn a hyn a'i blu sylfaenol ar ogwydd fel bysedd ar led.

Ddiwrnod arall, lwc oedd imi fod ar lawr uchar ty ai weld eto. Cythrais am yr ysbienddrych a gweld yr aderyn yn glir gan gynnwys ei big nodweddiadol a'r manylion ysblennydd na allair llygad noeth eu gweld or pellter yma.

Eiliad werthfawr
Eiliad yn unig o edmygedd a gefais fodd bynnag, gan iddo syrthio fel carreg i ddal rhywbeth mewn cae oedd tu draw i'r coed.

Er mai ond eiliad oedd hon yr oedd yn eiliad na ddaw i ran ond ychydig iawn o bobl a gallaf gyfrif fy hun yn berson ffodus iawn gan nad yw'n hawdd dod ar draws y fath aderyn y dyddiau hyn âi gynefin wedi ei anrheithio gan gynnydd.

Ond mae gen innau hawl i obeithio y dychwel eto y gaeaf nesaf. Cawn weld.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy