主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


'Milwr bychan ydyw . . .'
Lynda Ganatsiou yn sgrifennu am helyntion bywyd milwr yng Ngwlad Groeg

Mae'n anodd i ni sylweddoli fod y Pasg newydd gael ei ddathlu gan filoedd o bobl dros y byd.
Yma, yng Ngwlad Groeg, mewn pum wythnos y byddwn ni yn dathlu'r Ŵyl.

Dathliadau hollol wahanol fu gennym ni ddydd Gwener y Groglith.

Dydd Annibyniaeth oedd Mawrth 25, a ninnau'n coffau chwyldro 1812 pan ryddhawyd Groeg o ddwylo Twrci a fu'n llywodraethu am 400 o flynyddoedd.

Roedd baneri yn chwifio o adeiladau cyhoeddus a thai.

Gorymdaith filwrol
Yn Athen, dechreuwyd y dydd trwy danio magnelau o fryn Lycabbetus sy'n edrych dros ganol y ddinas.

Bob blwyddyn bydd Arlywydd y wlad ac aelodau'r llywodraeth yn mynychu mawlgan y Te Deum yn yr eglwys gadeiriol cyn ymuno â gorymdaith filwrol enfawr sy'n gorffen gydag arddangosfa awyrennau.

A chan ei fod yn ddiwrnod hyfryd o ran tywydd roedd yn gyfle i bawb fynd allan i fwynhau.

Arwain y lluoedd
Ar ynys Samos, lle mae Andreas fy mab yn gwasanaethu gyda'r fyddin ar hyn o bryd, bu gorymdaith ym mhrif ddinas yr ynys.

Anrhydeddwyd Andreas trwy gael ei ddewis i arwain y lluoedd arbennig a'i fintai ei hun, Y Beretau Duon.

Mae trigolion yr ynysoedd, yn enwedig Samos, yn gwerthfawrogi cefnogaeth y fyddin yn fwy gan eu bod o fewn cilomedr a hanner i lannau Twrci.

Yn gyson mae awyrennau yn yr awyr rhwng y ddwy wlad.

Ond diwrnod o ysblander fu Mawrth 25 a phawb yn falch o'u bechgyn.

Helyntion milwr
Ond ni cheir y melys heb y chwerw a dydi bywyd milwr ddim fel hyn drwy'r amser!

Tanc milwrolEr bod munudau cofiadwy o odidowgrwydd rhaid i'r llanciau wynebu profion llym ar adegau.

Ychydig yn ôl cafodd Andreas brofiad brawychus gyda ffrwydron pan oedd mewn gofal o danc yn ymarfer ar y mynydd.

Drwy ffawd ni fu damwain ac ni anafwyd neb ond yr oedd difrod y bu'n rhaid ei atgyweirio.

Mewn damwain
Dro arall, cafodd Andreas fraw pan oedd yn teithio gyda gyrrwr arall un noson i nôl dau filwr ar gyfer eu dyletswydd - does dim hawl gan filwr i fod o'r gwersyll ar ei ben ei hun.

Roeddent newydd ddod o amgylch tro mawr pan welsant gerbyd arall yn dod ar gyflymder yn syth tuag atynt yr ochr anghywir yr heol.

Er mwyn osgoi damwain gwyrodd y milwr oedd yn gyrru y jîp yn ddisymwth i'r ochr arall.

Yn anffodus roedd newydd ddechrau glawio a'r heol yn llithrig ac aeth y jîp yn syth i mewn i olewydden, neidio oddi arni a throi 180 gradd cyn llithro ar ei gefn i lawr llechwedd gan lanio ar ei ochr ar yr heol islaw.

.Yn ffodus llwyddodd Andreas a'i gydymaith i ddringo allan heb anaf ac yn ffodus i osgoi syrthio i lawr clogwyn dros 30 troedfedd. Ond gwell fyddai peidio â meddwl am hynny!

A beth am y gyrrwr arall?
Wel, roedd ef wedi mynd yn ei flaen heb sylweddoli iddo achosi damwain o gwbl!

Nid yw bywyd i'w weld yn deg ar adegau gan i'r crytiaid gael eu cosbi gydag ugain diwrnod o garchar.

Ond ni olygai hynny eu rhoi dan glo - ond pan ddaw yn amser iddynt adael y fyddin bydd yn rhaid iddynt aros am dair wythnos yn ychwanegol.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy