主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Castell yng ngwlad Groeg Cyfnod twym yng Ngroeg
Lynda Ganatsiou o wlad Groeg yn pleidleisio mewn etholiad go wahanol.

Hydref 2002

Mae hi wedi bod yn dwym iawn yma yng Ngwlad Groeg yn ddiweddar ac nid y tywydd sy'n gyfrifol am hynny credwch fi, er iddi fod yn 24 gradd C - 25 gradd C yn ddyddiol o hyd, a'r nosweithiau'n fwyn, tua 14 gradd C!

Rwyf yn dal i wisgo crys llewys byr ar hyd y lle, ond dwy flanced yn unig sydd ar y gwely ar hyn o bryd!

Mae hyn yn hollol groes i'r hyn y mae'r ferch yn ei ddweud am ogledd Lloegr bell, sef Leeds, lle mae'n astudio am ei doethuriaeth.

Yn ôl pob tebyg, mae pethau wedi oeri yno ac mae ganddi gwilt trwchus ar ei gwely yn barod!

Mae'r Hydref wedi cyrraedd yma hefyd, ond y rheswm pam y mae wedi bod mor dwym ydy ei bod wedi bod yn gyfnod etholiad.

Bum yn pleidleisio gyntaf ddydd Sul, Hydref 13. Ond, oherwydd na fu'r mwyafrif dros 50%, roedd yn rhaid cynnal rownd arall y dydd Sul canlynol.

Twymo'n gyflym
Roedd pethau'n twymo yn gyflym ac roedd gan bawb fwy o ddiddordeb y tro yma, gan fod pethau'n gyffrous iawn.

Roedd yna derfysg o deimladau, a'r sianeli teledu yn fyw drwy'r amser yn parablu gwahanol syniadau. Ond gofynnodd y Prif Weinidog iddyn nhw am beidio â defnyddio propaganda.

Y tro yma roedd y rownd gyntaf yn union fel yr eitemau hynny sy'n cael eu prynu yn yr archfarchnad sef : 2 mewn 1!!!!

Roedd yn rhaid pleidleisio am
1. Faer y rhanbarth i gyd, sef Macedonia i ni,
a 2. Chynghorwyr a fyddai dan reolaeth Maer y blaid yr oeddech wedi ei ddewis, ac yn rhoi eich Maer trefol i chi.

Hyd yn hyn, yn ystod yr holl flynyddoedd y bm yn pleidleisio yma yng ngwlad Groeg, roedd hi'n angenrheidiol i chi gael eich llyfryn pleidleisio ynghyd â'ch Cerdyn Adnabod (ID) er mwyn pleidleisio.

Wedi i mi briodi, roedd yr hawl gen i i ymgeisio am Gerdyn Adnabod, ac wedi cael hwn yr hawl i ymgeisio am Lyfryn Pleidleisio.

Gan i ni briodi yn nhref Kozani (y dref y ganed y gwr), roedd ein hawliau pleidleisio fel eu gelwir, yno. Felly, bob tro roedd etholiadau yn cael eu cynnal, rhaid oedd mynd i Kozani i bleidleisio.

Gorfod pleidleisio

Ychwanegaf yn y fan hon, fod y fraint o bleidleisio yn orfodol yma.

Os nad oeddech wedi ymddangos yn eich cangen roeddech yn cael dirwy i'w dalu neu hyd yn oed yn cael eich anfon i'r carchar.

I'r rhan fwyaf o'r bobol, mae'r etholiadau yn gyfle i ymweld â'u perthnasau ac yn esgus da i gael penwythnos i ffwrdd o'u cartref.

Amser i gael cyfle i siarad â'ch ffrindiau agos am gyflwr y wlad, a sut y byddech chi eich hun yn ei newid, a rhoi'r byd yn ei le!!! Amser i eistedd a chael coffi a smalio.

Os bydd y tywydd yn dda, mae pawb allan yn iard yr ysgol cyn pleidleisio ac ar ôl gorffen, mewn grwpiau mawr yn dadlau drwy'r trwch!

Yn y gorffennol dim ond pe byddech chi naill ai:-
- yn byw dros 200 cilometer i ffwrdd,
- yn digwydd bod yn yr ysbyty, neu
- yn gallu mynd at yr heddlu y diwrnod canlynol â rhyw dysteb gredadwy i brofi nad oeddech yn gallu pleidleisio, oedd yr unig resymau i chi gael yr hawl i beidio â phleidleisio.

Erbyn hyn, a ninnau wedi prynu ty yma yn Thermi, maestref o Thessaloniki, a'r rhieni-yng-nghyfraith wedi mynd yr ochr arall i'r afon, fe benderfynom mai gwell fyddai dod â'n hawliau pleidleisio yma. Am dros 10 mlynedd bellach rwyf wedi bod yn pleidleisio yn Thermi.

Dynion a merched ar-wahân
Wedi cyrraedd y ganolfan bleidleisio, fe fydd George yn mynd i un cyfeiriad i bleidleisio gyda'r dynion, a minnau yn mynd i'r cyfeiriad arall i bleidleisio gyda'r menywod.

Fodd bynnag, y tro yma oedd y tro cyntaf yn hanes pleidleisio'r wlad i'r genedl wrywaidd a'r genedl fenywaidd i gael yr hawl i bleidleisio gyda'i gilydd.

Yr amser gorau i fynd ydy tua naw o'r gloch, gan fod mwyafrif o'r bob yn dal i fod yn yr Eglwys bryd hynny, ac fe gewch y cyfle i orffen yn gyflym.

Os digwydd fod yno giw, rhaid aros eich tro yn amyneddgar. Ni allwch geisio mynd i'r blaen neu wneud unrhyw beth ffôl. Mae yna blismyn arfog ym mhobman a milwyr mewn safleoedd bob hyn a hyn a chanddyn nhw ddrylliau mawr.

Ond eleni, am y tro cyntaf, nid oedd milwr i'w gweld am filltiroedd.

Rydych wedi deall erbyn hyn mae'n debyg fod y dull o bleidleisio yng Ngroeg wedi newid yn sylweddol eleni. Mae hyn yn ganlyniad i'r frwydr i ddod â bywyd gwell i'r bobol.

Ar y dechrau roeddwn wedi dychryn wrth weld y milwyr â gwedd mor ddifrifol ar eu hwynebau. Ond bellach rydw i wedi dod yn gyfarwydd â'r olygfa.

Milwyr yn cadw golwg
Mae'r Groegwyr yn cymryd etholiadau o ddifri, ac roedd y milwyr yma i gadw golwg yn unig, rhag ofn fod yna rywun ffanatig a fyddai'n ceisio gwneud rhywbeth allan o'r cyffredin.

Roedd eu gweld yn unig yn codi dychryn arnoch, a gwneud i chi ail feddwl, os digwydd fod gennych unrhyw syniad i wrthwynebu.

Rhaid ychwanegu'r ffaith yn gyflym na welais na chlywed drwy gydol fy mlynyddoedd yma am yr un achlysur lle gwrthwynebodd rhywun.



Y llyfr pleidleisioY tu mewn i'r ystafell mae yna gynrychiolaeth o bobol yn sefyll i'ch gwasanaethu.

Yr afer ers talwm oedd bod yn rhaid i chi roi eich Cerdyn Adnabod yn gyntaf fel y gall y person sy'n gyfrifol am hwnnw ddod o hyd i chi mewn cofrestr enfawr lle roedd yn chwilio am enw pawb oedd â hawl i bleidleisio.

Wedi archwilio'r manylion roedd yn dileu eich enw. Yn y cyfamser roedd rhywun arall yn archwilio'r llyfryn pleidleisio, a pherson arall yn rhoi pentwr o bapurau pleidleisio i chi, gyda phob papur yn cynrychioli plaid wleidyddol.

Chwilio am y papur
I ffwrdd â chi wedyn i'r blwch pleidleisio, lle roedd yn rhaid chwilio am y papur priodol.

Gan amlaf, roedd papurau'r pleidiau mwyaf poblogaidd ar y top, a doedd dim rhaid edrych ymhell iawn.

Rhoi croes oedd y cam nesa'. Roedd rhaid gofalu fodd bynnag, mai croes unionsyth oedd h.y. + ac nid x.

Fel arfer, roedd y mwyafrif o'r ymgeiswyr wedi rhannu eu papurau pleidleisio eisoes â chroes wedi nodi'n barod wrth ymyl eu henwau. Roedd hyn yn help mawr i'r pleidleisiwr.

Pan fum yn pleidleisio ar y dechrau yma yng ngwlad Groeg roedd gen i fag bach wastad â'r papur pleidleisio priodol y tu mewn - rhag ofn i mi wneud camsyniad a gwneud traed moch o bethau! Hefyd, roedd yn arbed amser.

Unwaith yr oeddech chi wedi cau'r amlen roedd y drefn fel ym mhobman arall, sef rhoi'r amlen yn y gist wydr.

Wedi hyn, roedd yn rhaid i chi gasglu'ch llyfryn oddi wrth un o'r cynrychiolwyr oedd yn gweithio yno am ychydig oriau ar ddyletswydd.

Roedd y person yma wedi llenwi'r manylion addas i mewn erbyn i chi orffen pleidleisio: enw'r lle yr oeddech wedi bod yn pleidleisio, y dyddiad, ac yna roi stamp swyddogol ar y dudalen briodol, ei lofnodi i ddangos eich bod wedi pleidleisio ac yna rhoi'r llyfryn yn ôl i chi.

Newid mawr
Ond dydd Sul diwetha', fodd bynnag, oedd y tro cyntaf yn hanes pleidleisio yma yng Ngwlad Groeg nad oedd angen cael llyfryn pleidleisio.

Mae hyn yn golygu mai penderfyniad yr unigolyn felly oedd os oedd am bleidleisio neu beidio. Roedd hyn yn ei ryddhau o unrhyw orfodaeth felly.
Rydym eisoes wedi derbyn cardiau graenus dros ben (fel cerdyn banc) â'r manylion priodol wedi eu hysgrifennu arno'n daclus â chyfrifiadur.

O hyn ymlaen, fodd bynnag, dim ond Cerdyn Adnabod fydd ei angen i bleidleisio. Mae yna ymryson gwresog wedi bod ynglyn â dileu'r manylion am grefydd perchennog y cerdyn.

Mae'r mwyafrif yn credu nad oes rheswm cael y manylion yma ac y byddai eu dileu yn sicrhau na fyddai pobol yn cael eu gwahaniaethu oherwydd eu cred.

Yn bersonol, nid wy'n rhagweld y bydd pobol yn gwrthod pleidleisio yma er nad yw'n orfodol bellach.

Yng ngwlad Groeg mae pleidleisio yn chwarae rhan anhepgor yn y gymdeithas heddiw. Mae'r bobol yn teimlo mai eu dyletswydd yw i roi eu cefnogaeth i'r hyn y maen nhw yn ei gredu.

Yn wir maen nhw yn frwdfrydig dros ben, yn wahanol iawn i'r difaterwch a geir yng ngwledydd eraill Ewrop.

Mae'r bobol yn credu'n gryf dros geisio rhoi dyfodol gwell i'w hwyrion a'u hwyresau.

Ar hyn o bryd mae dyled y gorffennol wedi ei rwymo'n rhy dynn iddyn nhw wrthod pleidleisio. Cawn weld mewn ychydig flynyddoedd fodd bynnag, os ydy'r frwdfrydedd yno o hyd.




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy