主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Kempinski Hotel Nikopolis Ffasiwn le
Sioe ffasiwn fel marchnad anifeiliaid meddai Lynda Ganatsiou

Adloniant ydy byd y Groegiaid, yn wir, ac yn ystod yr haf mae rhaglenni diri wedi eu darparu i ddifyrru pobl.

Cynhelir llawer o'r rhain allan yn yr awyr iach gan mor dyner yw'r hin.

Eleni, er enghraifft, bu rhaglen heb ei hail yn sinema agored Thermi.

Ar ôl hynny daeth ffrind sy'n dod o'r Unol Daleithiau yn wreiddiol ar y ffôn eisiau gwybod os carwn i fynd gyda hi i arddangosfa ffasiwn, a hithau wedi cael dau docyn yn rhad ac am ddim.

Neidiais at y cynnig gan fod yr arddangosfa yng ngwesty pum seren y Kempinski Hotel Nikopolis heb fod nepell o'm tŷ ac yn cael ei chyflwyno gan Michalis Aslanis, un o gynllunwyr ffasiwn blaenaf y wlad.

Beth i'w wisgo
Ar ôl gorffwys y ffôn y dechreuodd problemau: beth yn y byd a wnawn â'm gwallt? Beth ddylwn ei wisgo?

Cyn bo hir roeddwn yn siarad â pherchennog salon gwallt ac yn gwneud trefniadau ar gyfer y bore canlynol.

Rhuthro wedyn i'r cwpwrdd dillad i ddewis dilledyn addas a thlysau a fyddai'n drawiadol gan y byddai menywod blaenaf y ddinas yno yn freichledau, gwddfdorchau a modrwyau drudion i gyd - pob un yn ceisio rhagori ar y llall.

Ceir swanc
Mewn tacsi yr aethom ni yno ond menywod ariannog Thessaloniki yn cyrraedd yn fwy hamddenol yn eu ceir swanc.

Wedi cyrraedd ni wyddai'r un ohonom yn iawn i ble i fynd ond gan fod y rhan fwyaf yn cyrraedd yr un pryd doedd dim amdani ond dilyn fel defaid nes cyrraedd y neuadd.

Sôn am le cain a chrand! Dyma un o westai mwyaf newydd Thessaloniki ac yn adlewyrchiad o bensaernïaeth y mileniwm newydd gyda'i gyfuniad o uwch dechnoleg a moethusrwydd.

Â'r haul eisoes wedi cilio creai'r goleuadau awyrgylch hudol dros y pwll nofio yr oedd yr arddangosfa o'i amgylch.

Gosodwyd pont i'r modelau groesi'r pwll ac yr oedd goleuadau'n creu patrymau tebyg i'r hyn a welwch mewn caleidosgop.

Codi arian
Bwriad yr arddangosfa oedd codi arian tuag at achos da a daeth yn amlwg yn fuan iawn fod gormod o docynnau ar gael gan nad oedd lle i droi a menywod, wrth geisio lle i eistedd, yn gwthio a stwffio a sathru a defnyddio'r geiriau mwyaf anfoesgar posib er mor brydweddol a high society oeddan nhw!

Pwll y gwesty Coeliwch chi fi, roedd hon yn olygfa na ddymunech fod yn rhan ohoni a chawsom ein dwy ein gwthio a'n traed wedi eu sathru o un lle i'r llall.

Yr oedd y ddwy ohonom wedi disgwyl cael eistedd ar gadeiriau wrth y byrddau bychain lle gallem sipian diodydd a thorri'n syched tra'n gwylio'r arddangosfa ond nid felly y bu a dim ond trwy lwc y cawsom le i eistedd o gwbl a hynny yn y cefn fel dwy ddafad goll!

Sôn am Charge of the Light Brigade!

Nid fy syniad i o arddangosfa ffasiwn ar gyfer menywod ariannog oedd hon ond rhywbeth tebycach i farchnad wartheg!

Yn y jyngl
Er ein bod yn eistedd yng nghrandrwydd yr unfed ganrif ar hugain deddfau'r jyngl oedd yn rheoli.

Ac yn y jyngl hon roedd bod yn berchen cadair yn nefoedd gyda nifer fawr o fenywod ar eu traed gydol y sioe.

Canol haf oedd hi a hithau'n 29C am naw o'r gloch y nos a phawb ar lwgu ond yr oedd yn amhosib cael hyd yn oed wydraid o ddŵr a ninnau wedi ein boddi dan domen o wragedd!
Gyda'r sioe mewn lle mor gain byddech wedi disgwyl gwell!

Fodd bynnag, pan ddechreuodd y sioe, rhaid cyfaddef iddi fod yn un effeithiol dros ben ac yn werth pob eiliad anghyfforddus- a hynny er ein bod wedi hanner llwgu!

Trefnwyd yr effeithiau sain mewn cytgord â'r dŵr yn esgyn a disgyn.

Yn ychwanegol at hyn newidiai'r goleuadau yn gyson gan greu amrywiaeth o gysgodion a lliwiau.

Roedd hyn, o leiaf, yn rhywbeth gwerth ei glodfori ac am rai eiliadau cawsom anghofio ein grwgnach a'n siomedigaeth gan inni gael ein mesmereiddio.

Roedd prydferthwch y merched oedd yn arddangos y gwisgoedd yn berffaith, nid yn unig o ran eu hwynebau ond hefyd ar sail eu cyrff lluniaidd. O am gael edrych fel un o'r rhain!

Byddai wedi bod yn dda i rai o'r menywod yn y gynulleidfa geisio bod ond y ganfed radd ohonynt!

Hanner cuddiwyd yr olygfa dros y pwll rhagom ni gan fenywod o'n blaen a'u gwalltiau fel rhyw Dŵr Pisa ar eu pennau.

O edrych rhyngddynt ymddangosai weithiau fod y modelau yn cerdded ar wyneb y dŵr!

Rhywfaint o siom
Bu'n rhywfaint o siom mai dillad haf a arddangoswyd gan fod pawb yn ysu am gael gweld casgliad diweddaraf Aslanis, casgliad yr hydref, er mwyn cael cip ar y lliwiau fyddai'n rheoli'r tymor hwnnw.

Gallech glywed yr anghymeradwyaeth a'r siom ymhlith y gynulleidfa.

Ond chwarae teg, codi arian at achos da oedd y bwriad.

Rhyw ddeng munud cyn y diwedd, awgrymodd fy ffrind ein bod yn gadael cyn i'r Light Brigade ei gwneud hi am y drysau i gyd gyda'i gilydd.

A da o beth oedd hynny - ond er gwaethaf popeth mae'n rhaid cyfaddef iddi fod yn addysg cael bod yng nghwmni criw fel hwn o fenywod Groeg!

Â'm ffrind wedi fy ngwahodd, ni allwn lai na chywilyddio gan imi adael heb hyd yn oed weld y dyn adnabyddus oedd wedi creu gwisgoedd deniadol. Ond ar y llaw arall, fe fu'n addysg fel y dywedais.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy