主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Arwyddlun eleni Cofio neges ewyllys da
Lynda Ganatsiou o wlad Groeg yn cofio Mai 18 go arbennig iddi hi yn 1970

Mai 2002

Y mwyaf rwy'n meddwl am y peth, y mwyaf rwy'n siwr mai "wiwer" oeddwn i mewn bywyd arall - gan fy mod mor dueddol o gasglu o bethau, yn enwedig o bapurau.

Ddoe fe ddes ar draws darn o bapur wedi ei ddyddio Mai 18 1970 Dydd Ewyllys Da

Byddai'r ysgol yn dathlu'r diwrnod arbennig yma yn ddiffael ac yn gyntaf darllenwyd y neges yn y fam iaith ac wedyn yn Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg ac weithiau mewn Eidaleg gan orffen gyda'r Sbaeneg.

Pan oeddwn yn y dosbarth cyntaf edmygwn pa mor ddawnus â galluog oedd y merched mawr yn gallu llefaru mor rhugl yn yr ieithoedd yma.

I'r rhan fwyaf cyfle perffaith i osgoi gwersi oedd dathlu Dydd Ewyllys Da, ond i eraill yr oedd yna ystyr llawer dyfnach.



Lynda yn yr ysgolBryd hynny, roeddwn yn nosbarth VI (Uchaf) Ysgol Ramadeg y Merched Tre Gwyr. Ers y dosbarth cyntaf yn yr ysgol uwchradd yn 1963, roedd wedi bod yn obaith gennyf cael fy newis i ddarllen y neges ar Fai 18.

Cael fy newis

Pan ddaeth Dydd Ewyllys Da 1970 cefais innau fy newis i ddarllen y neges ac rwy'n dal i gofio sefyll ar y llwyfan o flaen pum cant a mwy o ferched ac athrawon.

Pob pâr o lygaid arnaf a distawrwydd bythgofiadwy.

Wedi sefyll bron i saith mlynedd am y dydd nid oedd gennyf ofn o gwbl wrth garthu fy ngwddf a datgan y geiriau yn gryf ac eglur.

Nid oedd angen darllen gan imi ymarfer gymaint o weithiau fel y gwyddwn y darn o galon.

Dyna brofiad bendigedig a gefais, wrth i'r geiriau lifo dros fy ngwefusau, a byw pob gair gan ddal sylw hyd yn oed y ferch a'r diddordeb lleiaf ganddi.

Gyda Mai 18, 2002 yn dynesu rwy'n dychmygu rhyw ferch walltddu arall yn cadw, fel y gwnes innau, ei phapur am flynyddoedd maith.

Dyma'r neges a ddarllenais i 32 o flynyddoedd yn ôl:

Cymru'n galw:
Dyma Gymru!
Bechgyn a merched Cymru yn galw ar fechgyn a merched yr holl fyd ar Ddydd Ewyllys Da.
Pan ddaeth Dydd Ewyllys Da 1970 cefais innau fy newis i ddarllen y neges ac rwy'n dal i gofio sefyll ar y llwyfan o flaen pum cant a mwy o ferched ac athrawon.

Pob pâr o lygaid arnaf a distawrwydd bythgofiadwy.

Wedi sefyll bron i saith mlynedd am y dydd nid oedd gennyf ofn o gwbl wrth garthu fy ngwddf a datgan y geiriau yn gryf ac eglur.

Nid oedd angen darllen gan imi ymarfer gymaint o weithiau fel y gwyddwn y darn o galon.

Dyna brofiad bendigedig a gefais, wrth i'r geiriau lifo dros fy ngwefusau, a byw pob gair gan ddal sylw hyd yn oed y ferch a'r diddordeb lleiaf ganddi.

Gyda Mai 18, 2002 yn dynesu rwy'n dychmygu rhyw ferch walltddu arall yn cadw, fel y gwnes innau, ei phapur am flynyddoedd maith.

Dyma'r neges a ddarllenais i 32 o flynyddoedd yn ôl:

Cymru'n galw:
Dyma Gymru!
Bechgyn a merched Cymru yn galw ar fechgyn a merched yr holl fyd ar Ddydd Ewyllys Da.

Gwlad fechan, fynyddig yw ein gwlad ni, gyda'i llynnoedd dyfnion a'i dyffrynnoedd ffrwythlon; gwlad a chanddi ei hiaith ei hun a honno yn un o ieithoedd hynaf Ewrop.

Drwy gyfrwng yr iaith hon yr anfonwn ni heddiw ein neges. Ac, er i'n hieithoedd fod yn wahanol, gwahoddwn chwi, ein cyd-ieuenctid, i ymuno â ni i gyhoeddi ag un llais ein bod yn mynnu siarad iaith cariad, iaith cyfiawnder ac iaith cymod.Gofynnwn am ddewrder i siarad yr iaith hon yn wyneb trais a gormes, ac mewn ateb i gri'r newynog a'r tlawd. Gofynnwn hefyd am ddewrder i droi ein geiriau yn weithredoedd yn gefnogaeth ymarferol i'r mudiadau sydd eisoes yn ymdrechu i symud achosion rhyfel ac i ddileu ei effeithiau.

Drwy wneud hyn gallwn obeithio am fyd lle na fydd raid i'r un genedl ddioddef gormes gan genedl arall, a lle gwelir gorseddu brawdgarwch yn lle rhyfel, cariad yn lle casineb, a chyfiawnder yn lle trais.

i





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy