主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Duwiau newydd - enwau newydd
Gyda dychweliad tîm pêl-droed llwyddiannus Gwlad Groeg o Bortiwgal paentiwyd y wlad y las a chafodd hen arwyr enwau newydd meddai Lynda Ganatsiou

Croeso arwyr a gafodd tîm pêl-droed Groeg yn y brifddinas, Athen, ar ôl ennill cwpan UEFA Ewrop 2004.

Nid oedd y dathlu pan drechweyd Portiwgal yn ddim o'i gymharu â'r croeso wrth ddychwelyd i'r henwlad gyda môr o lesni o'u blaenau.

A lluoedd o bobl yn codi eu breichiau a'u gostwng fel pe byddent yn moesymgrymu!!!! Tonnau o las yn codi ac yn gostwng.

Peintiwyd y wlad yn las!!!!!

Pawb yn gwisgo dillad glas a baner Groeg wedi ei phaentio ar eu hwynebau.

Boddwyd y strydoedd gan ddilyw o faneri glas a gwyn.

Estadio da Luz - Stadium y Golau oedd enw maes y fuddugoliaeth ond doedd dim angen urhyw oleuni arnynt i ddod o hyd i'w ffordd i stadiwm Panathinaikos - neu Kalimarmaro fel y'i hadnabyddir hefyd a dyma'r lle y bu'r gêmau Olympig modern cyntaf yn1896.

Llenwi'r awyr
O'r Acropolis hynafol roedd tannau gwyllt yn llenwi'r wybren a gynnau mawr yn cael eu tanio dan fryn Lycavitos i gyfarch y duwiau newydd.

A'r miloedd ar filoedd o bobl yn ymuno yn y corws o: Enillom ni. Drylliwch y gatiau, mae'n bechgyn ni yn dychwelyd yn bencampwyr

gan gyfeirio at hen arferiad o ddryllio rhan o fur y ddinas i groesawi buddugwyr y mabolgampau Olympaidd.

Roedd eraill yn gweiddi: O Dduw, rho i ni fwy o ddagrau fel y gallwn barhau i lefain mewn llawenydd.

Ond y faner a oedd yn cyfleu'r cyfan oedd honno a ddywedai: Os taw breuddwyd yw hyn, nid wyf am ddihuno byth!

Gan fod y Groegwyr yn gyffredinol yn hoff o sbri ni chollwyd eiliad cyn bo caneuon newydd, jocan a lluniau wedi eu creu oedd yn ddigon i wneud y person mwyaf difrifol chwerthin!

Llun esgid bêl-droed Addidas ar ffurf tsarwchi (yr esgid sy'n cael ei gwisgo gyda'r wisg genedlaethol).

Groegwr er anrhydedd
Nid aelodau'r tîm yn unig a haeddai glod ond yr hyfforddwr, Otto Rehhagel, sydd wedi ei dderbyn yn Roegwr yn dilyn y gamp ac ni wastraffwyd eiliad cyn creu lluniau ohono fel Groegwr hynafol ac yn dawnsio'r Sirtaki traddodiadol yn yr Acropolis. <

Otto - y duw newyddDros nos trodd yn Odysseus, Socrates, Aristotle Onasis, yn Golosws Rhodes, yn Pythagoras a Zorba a'i enwi'n Dias - y duw o gopa Olympos - wrth i wallgofrwydd Rehhagelaidd lifo drwy'r wlad.

Gan taw Otto yw ei enw cyntaf, fe newidiwyd enwau hen, hen, arwyr Groeg i gynnwys yr elfen honno:
Nid Odysseus mwyach ond Ottosseus.
;Ottocrates nid Socrates; Ottonasis nid Onasis; Ottossos nid Colossos; Ottogoras nid Pythasgoras yw'r drefn mwyach a mynydd y duwiau erbyn hyn yw Ottolympos!

Ond mae cynigion lu am i Otto ddychwelyd i'r Almaen. Beth bynnag fydd ei benderfyniad gall y Groegiaid fwynhau'r wefr o fod y gorau yn Ewrop am bedair blynedd nawr!





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy