主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Stadiwm Panathinaiko Marathon - y fwyaf o'r rasus
Lynda Ganatsiou o wlad Groeg yn sôn am elfennau hanesyddol marathon Athen.


O'r holl gampau Olympaidd y Marathon ydy'r un sy'n sefyll allan oherwydd yr amgylchiadau hanesyddol, dewr, â'i creodd.

Daeth y Marathon i fodolaeth yn sgil camp y gwr a gyhoeddodd gyda'i eiriau olaf y newyddion o Athen am fuddugoliaeth y Groegwyr yn erbyn y Persiaid ym mrwydr Marathon, 490 Cyn Crist.

Ers adfywio ras 42 cilomedr 195 metr y Marathon ym 1896 daeth yn un o ddigwyddiadau mwyaf cystadleuol y Campau Olympaidd.

Groegwr o'r enw Spyros Louis yn rhedeg yr hyn a ddisgrifwyd wedi hynny fel Yr Hynt Wreiddiol o ddinas hynafol Marathon i Stadiwm Panathinaiko yn Athen enillodd y fedal aur yn y Campau Olympaidd modern cyntaf.

Corff ac enaid
Daeth y ras yn her nid yn unig yng ngwlad Groeg ond yn rhyngwladol hefyd gyda'r Marathon yn ennill ei lle yng nghalonnau y rhai hynny sy'n ymhyrfrydu mewn ymdrech fabolgampaidd sy'n brawf ar gorff, enaid a meddwl cystadleuwyr.

Wel, mae'n debyg fod pawb â'u meddwl ar redeg y dyddiau hyn - fel minnau yma!

Joanna yn rhedegNewydd ddychwelyd i Brydain o'r Iseldiroedd mae fy merch Joanna, lle bu'n rhedeg Marathon at rhyw elusen neu'i gilydd - profiad fydd yn sefyll gyda hi am byth rwy'n siwr.

Un peth calonogol i'r cystadleuwyr oedd i gymaint o bobl ddod i sefyll ar hyd y ffyrdd i'w hannog a'u cymeradwyo a dywedodd Joanna iddi werthfawrogi hyn yn fawr.

Yn un lle gwelodd, wrth fynd heibio, ferch yn dal hysbyslen gyda rhyw air Iseldireg arno a'r enw Jo yn dilyn.

Ni allai ddeall sut y gwyddai'r ferch mai Jo oedd ei henw!!!!

Yna sylweddolodd nad arwydd iddi hi oedd o wedi'r cyfan ond er hynny fe fu'n fodd i'w hannog ymlaen ac fe wenodd yn ddiolchgar ar y ferch beth bynnag!!

Ymbilio arni i ddal ati
Dywedodd ei bod yn llawn egni ar y cychwyn ond bron sefyll tua'r diwedd.

Lwc, meddai, fod rhedwr arall, o'i gweld wedi ymlâdd, wedi ymbilio arni i beidio â rhoi'r gorau i'w hymdrech.

Bu'r geiriau caredig yn ddigon o hwb i beri iddi ddal i redeg a chyda'i gwynt yn ei dwrn rhoddodd bopeth oedd ganddi i orffen y ras.

Wrth gyrraedd Stadiwm Olympaidd Amsterdam gwelai'r gwylwyr yn codi i'w traed a churo eu dwylo mewn edmygedd ohoni hi a'r gweddill yn rhedeg eu camau olaf a chroesi'r llinell derfyn.

Roedd y teimlad o foddhad yn annisgrifiadwy ac er bod golwg flinedig ar ei hwyneb roedd yn llawn balchder o lwyddo yn ei gorchest.

Ychydig yn ôl bu Marathon yn y brifddinas, Athen - rhyw brawf rhagarweiniol i'r Campau Olympaidd a fydd yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf ym mhrifddinas gwlad Groeg.

Yr oedd miloedd o bob rhan o'r byd yn cymryd rhan ac ar wahân i'r difyrrwch bu'n gyfle i'r cyfranogwyr nid yn unig flasu croeso Groegaidd traddodiadol a mwynhau'r golygfeydd hudolus ond i ddod i adnabod y ddinas yn barod ar gyfer Campau Olympaidd 2004.

Gwr o'r enw Zebedayo Bayo o Tansania fu'n fuddugol a hynny mewn dwyawr 16:59 gyda gwyr o Kenya yn ail, trydydd, pedwerydd a phumed.

O blith y menywod, gwraig o'r Iseldiroedd, Nadja Wijenberg, enillodd y fedal aur gyda Groeges yn ail, merch o Kenya yn drydedd a dwy o wlad Groeg, eto, yn bedwerydd a phumed.

Y ras galetaf
Yn ôl Bayo dyma'r ras galetaf iddo ei rhedeg erioed gan ei orfodi i gymryd wyth munud yn hwy na'i amser gorau.

Gan i'r thermomedr godi i rhyw 25C fe fu hyn yn rhwystr i'r cystadleuwyr yn ogystal â'r llwybr sy'n codi a disgyn yn enwedig tua'r diwedd, o'r safle hynafol ym Marathon (sy'n rhoi ei enw i'r ras) hyd at Stadiwm Marmor Panathinaikos, a adeiladwyd ar gyfer â Campau Olympaidd 1896.

Dim ond deuddyd cyn y ras y daeth Nadja Wijenberg i Athen gyda'r bwriad o gychwyn ar ymarfer called ar gyfer y Campau Olympaidd lle mae'n gobeithio cynrychioli'r Iseldiroedd yn y Marathon.

Feddyliodd o erioed, wrth ddod i wneud archwiliad o un o gyrsiau caletaf y byd, y byddai yn ennill y fedal aur!





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy