主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mynydd ac Olympiads Cyrraedd copa'r byd
Dyna dda yw cael rhywbeth cyffrous yn digwydd ar eich pen-blwydd - yn enwedig pan fo hwnnw'n beth eithriadol tu hwnt!

"Ac mae'r hyn a ddigwyddodd ar ddydd fy mhen-blwydd i eleni werth ei rannu." meddai Lynda Ganatsiou, Cymraes sy'n byw yng Ngwlad Groeg.

Ymgyrch Hellas - Everest 2004
Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo drostynt mae y gwynt
Erbyn heddiw, dim ond ychydig o ymdrechion cenedlaethol sydd yna i ddringo Everest am y tro cyntaf gan fod bron pob gwlad sy'n mynydda wedi profi sawl llwyddiant yn barod.

Bu'r ymgais gyntaf Gwlad Groeg ar yr ochr ogleddol yn 1989 yn aflwyddiannus a throi'n ôl wedi cyrraedd 7,000 metr fu hanes ymgais arall yn 1993.

Y cynnig agosaf at lwyddiant fu yn 1996 pan gyrhaeddodd y tîm 8,100 metr ac yna, yn 1999 chwifiodd baner Groeg ar y copa o'r diwedd.

Hyd heddiw, parhaodd Everest yn her arbennig i ddyrniad o Alpeiddion o wlad Groeg a chyda'r holl sylw a gafodd y wlad yn ddiweddar yn sgil y Gemau Olympaidd bu disgwyl mawr am ymgyrch lwyddiannus i gopa uchaf y byd, 8.850 metr.

Wedi dethol dwsin o ddringwyr profiadol y nod oedd cael dau dîm o chwech i ddringo'r un pryd o gyfeiriadau gwahanol: y tîm gyntaf o'r gogledd gan gychwyn ar ochr Tibet a'r ail dîm o'r de o ochr Nepal.

Roedd y ffordd ogleddol yr un un a'r ymgyrch cyn y rhyfel a'r un ddeheuol yn un Y Fuddugoliaeth a ddilynodd yr ymgyrch lwyddiannus gyntaf yn 1953.



Rhan gyntaf yr ymgyrch
Gadawyd Athen ar Fawrth 13 am Katmandu yn Nepal lle safodd y dynion am dair wythnos er mwyn cynefino â'r hin. Gwnaethpwyd hyn gan dilyn ymarfer dringo uchder o 000m-6.000 medr ar gopâu Kahla Patar ac Island Peak.

Ail ran yr ymgyrch
Yma, rhannwyd yn ddau dîm cyn teithio i'r man cychwyn priodol. (Uchder o 300m -5.800m) ac oddi yno am y saith wythnos rhaid oedd i aelodau'r tîm ymgymryd â rhaglen ymgynefino ar y mynydd.

Trydedd ran yr ymgyrch
Byddai'r rhan hon yn parhau pythefnos. Unwaith i'r darpariaeth gael ei chyflawni yn y gwersylloedd uchaf (7.900m - 8.200m) rhoddodd y ddwy ochr gynnig ar ymwthio tuag at y copa.

Unwaith iddynt gyrraedd y gwersyll olaf (Gwersyll 4) a sefydlwyd 7.900 metr i fyny aeth pum Groegwr dewr ymlaen am naw awr a hanner er mwyn cyrraedd 8,850 metr copa Everest ar Fai 17.

Ni allwn beidio â dyfalu tybed beth yw teimladau rhywun o gyrraedd copa'r byd as phan ofynnwyd iddynt beth oedd yn eu hofnau mwyaf, yr un ateb a roddywd oedd: "Popeth- a dim" gan ychwanegu fod i fywyd y ddinas yr faint o beryglon â llethrau'r mynydd!

Y byd yn ei law
Gŵr o'r enw Giorgos Foutyropoulos a gyrhaeddodd gyntaf a hynny am chwech y bore. Yn naturiol, plannodd faner wen a glas ei wlad yno ac yn union wedyn cododd y faner Olympaidd fel symbol o heddwch byd a chwarae teg.

Gosododd yno hefyd lun o'i gymar, cyd-aelod y tîm a fu farw yr hydref diwethaf pan syrthiodd o grib Cho Oyu yr Himalayaid, tra'n paratoi ar gyfer yr ymdrech.

Cyflawnwyd yr ymdrech amhosib drwy ddyfalbarhad a gwireddwyd breuddwyd.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy