主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dathliadau Mawrth
Mawrth 2005
Lynda Ganatsiou yn sôn am ddathliadau lliwgar mis Mawrth yng Ngwlad Groeg

Tymor lliwgar ydy'r gwanwyn yma yng ngwlad Groeg gyda dathliadau a gwyliau lluosog yn ystod mis Mawrth.

Ar Fawrth 1 pan yw'r Cymry yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, yma mae'n draddodiad i'r mamau wneud breichledau a elwir yn Martis i'w plant.

Y gred yw, fod gwisgo'r Martis yn sicrhau na fydd haul y gwanwyn cynnar yn llosgi wynebau'r plant a bydd y mamau yn plethu llinyn coch a gwyn i'w plant eu gwisgo am eu harddyrnau.

Pe cyrhaeddai plentyn yr ysgol heb un, byddai athrawes y dosbarth yn gwneud un iddo.

Llosgi'r breichledau
Symbolaidd yw'r lliwiau gyda'r coch yn arwydd o fochau cochion y plant a'r gwyn yn arwydd o'u gwedd.

Gwisgir y rhain gan y plant tan Basg yr Uniongred ac yn syth wedi gwasanaeth y cymun canol nos bydd y plant yn taflu'r breichledau ar goelcerthi.

Wedi pythefnos gyfan o ddathlu'r Apokries (Carnifal) daw y miri i ben gyda Llosgi Brenin y Carnifal, tân gwyllt a gorymdaith ysblennydd ar y ddydd Sul.

Eleni bu hyn ddydd Sul, Mawrth 13.

Yr enw ar ddydd Llun, Mawrth 14 yw Cathara Ddeftera (Dydd Llun Glân) sy'n arwyddo'n swyddogol ddechrau'r Saracosti (Y Deugain Dydd neu Y Grawys) a thraddodiadau'r Pasg.

Yn wahanol i weddill y Saracosti nid yw dydd galar yw'r Cathara Ddeftera ond un llawn miri a chwerthin gyda phawb yn llawn asbri.

Efallai fod agosrwydd Cathara Ddeftera i'r cyhydnos yn egluro'r ysbryd da!

Yn yr awyr iach
Yn arwyddocaol mae Cathara Deftera yn cael ei ddathlu yn yr awyr iach - i helpu glanhau yr enaid.

Y gair am y rhialtwch yw Kwlwma.

Er bod y Cathara Ddeftera yn arwyddo cyfnod o ymprydio mae yna rhyw ysblander yn gysylltiedig â bywiorwydd anhepgor y Kwlwma gan ei bod yn arferiad i fynd allan i'r wlad a'r mynyddoedd i hedfan ceitiau.

Mae'r plant yn edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod hwn gan obeithio am ddigon o awel i hedfan eu barcutau a chael picnic yn yr awyr agored.

Y gred yw fod pechodau'r bobl yn codi i'r awyr yn sgil dathliadau'r Apocries gan lanhau eu heneidiau.

Mewn rhai ardaloedd mae cystadlaethau ceitiau ac yn Athen gwelir tua chan mil o farcutau yn yr awyr, o bob maint, ffurf a lliw.

Ffordd ragorol o dreulio'r dydd mewn difyrrwch ydyw Cathara Ddeftera, cyn i ddiwrnodau llwydaidd y Grawys ymledu dros y wlad.

Yn yr anialwch
Gyda machlud haul noson Cathara Ddeftera mae deugain niwrnod y Saracosti yn dechrau gan ddodi terfyn ar ddathliadau'r Pasg.

Traddodiad crefyddol ydyw, yn deillio o gyfnod Crist yn yr anialwch.

Dyma ddechrau cyfnod o'r defodau Cristnogol llymaf gyda gweddïau arbennig ac o ymprydio.

Mae'r dydd yn nodi dechrau gobeithiol o buredigaeth ysbrydol, yn bennaf o bechodau ac o'r hunan foddhad a ragflaenodd yn ystod cyfeddach yr Apocries yn ogystal ag unrhyw ffynonellau pechod yn ystod dawnsiau ac aduniadau y carnifal.

Fel mae'r Cathara Ddeftera yn cyfleu, mae'n ddiwrnod pan fydd y pobl yn glanhau eu cyrff ar gyfer y Pasg.

Glanhau'r tŷ
Mae hefyd yn adeg gwaredu'r tŷ o unrhyw fwydydd sydd ddim yn cydymffurfio ag ymprydio.

Yn yr hen amser byddai'r gwragedd yn glanhau eu llestri a'u padelli gyda dŵr berw wedi ei gymysgu â lludw er mwyn cael gwared o unrhyw lygredd o weddillion y cigoedd a braster oedd wedi aros yn dilyn coginio bras yr Apocries.

Bara heb furumNi fydd y bobl hynny sy'n cadw'n gaeth at ganllawiau eu crefydd yn bwyta unrhyw gigoedd - dim ond llaeth, ffowls, wyau a physgod.

Erbyn heddiw, mae llawer yn ystwytho'r rheolau gan osgoi cig ond ar ddyddiau Mercher a Gwener.

Ond bydd bron bawb yn ymprydio yn ystod Yr Wythnos Sanctaidd sef yr un arwain at y Pasg.

Ar Cathara Ddefftera mae'r bwydydd yn Nistisima sef yn perthyn i'r Grawys, a dim ond ar y diwrnod hwn ceir y traddodiad o wneud a bwyta bara heb furum, Lagana .
Bara mawr gwastad ydy'r Lagana sy'n cael ei fwyta gyda Gariddes - corgimychiaid wedi eu coginio mewn sawl gwahanol ffordd; Calamari (Sgwid) Octopoddi (Octopws), Ffasoladda (cawl o bys arbennig), Olywydden, Taramosalata (wedi ei wneud o rawn pysgod), Dolmaddes (reis wedi ei goginio mewn dail gwinwydd); Chalfa (melysfwyd o hadau sesami wdi eu mathru) a llawer mwy.

Anodd credu mai dechrau cyfnod o ymprydio yw'r Cathara Ddeftera o weld y byrddau yn llawn bwydydd blasus!

Tebyg mai diwrnod o drawsnewid rhwng dau gyfnod cwbl wahanol i'w gilydd yw gydag elfennau o'r ddau gyfnod yn bresennol.

Rhifo'r dyddiau
Yn yr hen amser pan nad oedd gan bobl galendrau rhifwyd dyddiau'r Saracosti mewn ffordd arbennig.



Saith coesByddent yn tynnu llun Cera-Saracosti ar ffurf menyw heb geg - arwydd o'r ymprydio - a'i dwylo wedi eu croesi yn barod i weddïo.

Byddai saith o goesau; un ar gyfer pob wythnos o'r Grawys.

Byddent yn hongian Cera-Saracosti ar y wal a phob Sul yn torri bant un o'i choesau gyda'r goes olaf yn mynd ar Y Dydd Sadwrn Sanctaidd (ar Atgyfodiad Crist), a'i dodi mewn ffigysen sych.

Dodwyd y ffigysen hon yng nghanol ffigys eraill cyn cael eu rhannu ymhlith y teulu yn y gred y bendithir y sawl a gai'r ffigysen hon â lwc dda.

Cyfarchiad pawb yn ystod y dyddiau hyn yw: Cali Saracosti - Grawys Da!

Ar ddiwedd y mis mae yna Ŵyl bwysig arall pan fydd yr holl wlad allan ar y strydoedd yn dilyn gorymdeithiau lliwgar i ddathlu rhyddid y wlad o gaethiwed y Twrciaid dros 400 flynyddoedd yn ôl.

Dydd mawr dathlu annibyniaeth y wlad.





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy