主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Eglwys Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Pethau wedi newid - ac nid er gwell yn yr henfro

Hydref 2002

gan Lynda Ganatsiou, Cymraes o Thessaloniki, Gwlad Groeg

Roedd fy ymweliad â'm cartref yn ystod yr haf yn dymestl o deimladau - rhai yn bleserus ond eraill yn annymunol.

Ymwelais â'r henwlad oherwydd bod fy mab yn graddio o Brifysgol Abertawe a manteisiais ar y cyfle i ymweld â phentref fy ngeni - Y Bont.

Edrychwn ymlaen at gael gadael Seisnigrwydd Abertawe a theimlo'n gartrefol, bydded hynny am amser byr yn unig
Ond siomedig iawn oedd gweld llawer o bobl ieuanc yr ardal heb syniad sut i siarad yr iaith ac, yn waeth na hynny, heb wneud dim ymdrech i'w dysgu.

Wedi aros yn llonydd

Gwelais "Y Bont " fel pe byddwn yn edrych ar ffilm gwyddoniaeth: wedi sefyll yn llonydd mewn amser tra bo'r byd oddi amgylch wedi symud ymlaen.

Yr oedd yr un mor gysglyd heddiw a phan adewais dros bum mlynedd ar hugain yn ôl. Dim siw na miw o gwmpas ac fe'm syfrdanwyd gan brinder pobl ieuanc ble maen nhw i gyd? Dim ond oedolion oedd i'w gweld.
A fum i'n darllen gormod o lyfrau Stephen King?

O ddychwelyd fel hyn mae'n syndod pa bethau ydych chi'n sylwi arnynt!

Colli enwau tai

Tan hyn nid oeddwn erioed wedi meddwl peth mor braf yw cael enw ar eich ty neu gael eich cysylltu â'ch ty fel Lynda Jones Tair-Onnen yn fy achos i.

Gomer Jones Bryn Morfa oedd tadcu.

Dychmygwch fy siom o weld i'w berchnogion presennol ddifetha cymeriad 'ein ty ni' trwy ei ymestyn - a does dim enw bellach dim ond rhif ar heol fel Bryn Piod drws nesa - er, gyda cymaint o adeiladu tai newydd go brin fod pioden o fewn milltiroedd erbyn hyn.

Da chi Gymry, peidiwch â mynd allan o'r arfer o roi enwau ar eich tai mai hynny sy'n ei gwneud yn eglur fod "teulu" yn byw yno a bod cartref rhwng y muriau.

Hefyd, fe ddengys rhyw fath o etifeddiaeth o'r gorffennol a pha mor agos i natur oedd ein cyndadau.

Enwau fel Murmur y Coed, Mynydd Gwyn, Awel Deg, Plas y Dderwen, Golwg yr Afon , Gorphwysfa, Arosfa, Bod Alaw.

Yn Parga ar ochr orllewinol gwlad Groeg galwodd merch o Bontarddulais ei thy yno yn Hafod y Coed.

Dinistrio darlun perffaith

Ag ychydig amser gennyf ymwelais a'm hoff lecyn a'i ganfod wedi ei ddinistrio gan gynnydd.

A minnau wedi bod bant o Gymru am 28 o flynyddoedd gwelaf nad manteision yn unig a ddaeth yn sgil cynnydd ond anfanteision diri hefyd, yn enwedig yn Ne Cymru a ffrwyth cynnydd bellach ydy tlodi a diweithdra.
Ond nid yw hyn wedi lladd ysbryd y bobl.

Wrth edrych ar yr olygfa sylweddolais na ddaw ddoe byth yn ôl a daeth twlpyn i'm llwnc wrth syllu ar beth oedd unwaith yn baradwys i'r arlunydd a'm darlun perffaith innau wedi ei ddinistrio.

Unwaith, ar y morfa llaith yma safai un o hynodion mwyaf hynafol Dyffryn Llwchwr, hen eglwys Llandeilo Tal-y-bont a wrthsafodd stormydd y canrifoedd yn symbol o hanes a gorffennol pell ond yn awr wedi diflannu am byth.



Tu mewn yr eglwysMae hynafiaeth yr eglwys yn ddiamheuol gan iddi gael ei chysegru gan Sant Teilo yn y chweched ganrif. Yn un o'r llawysgrifau hynaf, Llyfr Llandaf (1160-1180) enwir y plwyf hwn bedair gwaith.

Rwy'n cofio dwyster mynychu gwasanaethau misol yn ystod Mehefin, Gorffennaf ac Awst gan deimlo wrth droedio'r fynwent ein bod yn dilyn llwybrau'r pererinion gynt ar eu ffordd i Dyddewi.

Yna, cofio'r oerni wrth fynd i mewn drwy'r cyntedd isel a naws arbennig yn cydio ynom.

Dyna'r seddau dyfnion â drysau mawr derw. Ni allwn byth ganolbwyntio ar y bregeth wrth feddwl am y gwahanglwyfus a fu'n dilyn y gwasanaeth o'r golwg mewn lle ar wahân i'r gynulleidfa y tu ôl i'r muriau ar ochr arall yr eglwys.

Mae'n ardal a welodd lawer o golli gwaed. Bu'r Rhufeiniaid yn Leucarum (Casllwchwr) hyd at 300 O.C. Daeth y Gwyddelod, Llychlynwyr a Normaniaid.

Ni allaf gredu ei bod wedi mynd ond codwyd rhywfaint ar fy nghalon o glywed am fwriad i'w hailadeiladu yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Twmpath o bridd

Ond twmpath o bridd yn unig a welir y funud hon lle unwaith bu adeilad gwyngalchog ysblennydd, enghraifft o weithgarwch caled a diflino Oes y Saint. Erys ei ogoniant mwyach ond mewn darluniau lliw.

Yma nid oes tawelwch i'r enaid bellach, ond bwrlwm y cerbydau yn brysio ar draws gwlad.

"Yn y fro ddedwydd mae hen freuddwydion"

Disgrifiad perffaith o'm hatgofion innau ond o leiaf mae gennyf i yr atgofion hyn - does gan ieuenctid y fro ddim.Yn nyddiau fy ieuenctid roedd yno fferm Castell Du, Pont yr Un ar Ddeg Bwa, lle y gwyliwn y trên llaeth am chwech o'r gloch. Banc y Rhyfel ac Afon Llwchwr yn troelli'n ddi-hid tuag at y môr.

Bro heb staen na chraith rhwng mr a mynydd nes i'r teirw dur ddod i rwygo'r gwanwyn pêr o'r pridd a hollti'r olygfa gyda hyfrydwch ar y chwith i'r lôn goncrit a gwacter ar y dde a'r modurwyr heb wybod i ddalen werthfawr o hanes gael ei cholli.

Ffermdy emynydd

Ar noson lleuad llawn a'r llanw i mewn byddai'r eglwys yn nofio ar ddrych o dwr mor llyfn â phe byddai wedi ei nyddu o sidan pur.

Gerllaw bu ffermdy Llandeilo Fach lle bu cartref yr emynydd Dafydd Williams ac yng nghyntedd yr eglwys y cyfansoddodd ei emyn enwocaf, "Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau".

Y munud hwnnw meddyliais y clywn gôr meibion "Y Bont" yn canu'r geiriau, mor fyw oedd fy nychymig!

Gadewais yn chwithig a hiraethus gan wybod na fydd fy nheimladau dyfnaf am fy nghartref byth yn newid beth bynnag a ddigwydd yn y dyfodol.




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy