主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y seremoni agoriadol Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref
Lynda Ganatsiou yn sgrifennu o Wlad Groeg lle mae'r wlad wedi ei meddiannu gan y Campau Olympaidd.


Mae dychweliad y Campau Olympaidd i Wlad Groeg yn ddigwyddiad hanesyddol.

Fel pob prifddinas, mae Athen bob amser yn llawn ffwdan ond nos Wener, Awst 13 curai ei chalon yn gyflymach nag erioed.

Agorodd y wlad ei chalon i'r byd ac wedi'r hir aros roedd y brifddinas yn croesawu'r campau Olympaidd yn ôl i wlad eu cychwyn a breuddwyd y Groegwyr wedi'i gwireddu.

Athen 1896 oedd y campau modern cyntaf a phrofodd y seremoni agoriadol eleni iddi fod werth y sefyll am bob eiliad ers hynny!

Aeth y wlad fel y bedd am tua 8.30 y nos. Y rhai ffodus a lwyddodd i gael tocyn i eistedd yn y stadiwm yn sugno golygfa na welant fyth mohoni yn eu bywydau eto. Y gweddill yn sownd wrth eu teledyddion yn llawn edmygedd a balchder.

Mewn breuddwyd
Roedd yn brofiad a wnâi inni gyd deimlo ein bod mewn y breuddwyd wrth i olygfeydd na disgwyliwyd gan neb gael eu creu.

Syfrdanwyd nid yn unig y Groegwyr eu hun, ond bobl ledled y byd.

Dechreuodd y seremoni gyda churiad calon a hynny'n symbolaidd berffaith a'r môr o fiwsig yn y stadiwm yn anfeidrol mewn lle ac amser.

Trawodd tabyrddau a bouzouki i guriadau calon rhedwr a ddilynwyd gan gerddoriaeth hiraethus Hwylio drwy amser i bortreadu dynoliaeth yn arnofio mewn llong fach fregus o bapur ac i bortreadu sut y llwyddodd pobl i gyrraedd eu nod wrth i'r bachgen bach lywio'r llong yn ddiogel i lan y dŵr.

Tabyrddau dathlu oedd y rhain ond hefyd yn portreadu'r llam fuddugoliaethus tuag at gynnydd gorfoleddus y gwareiddiad gorllewinol.

Gwareiddiad a arllwysodd o ddyfroedd yr Aegean.

Dros y canrifoedd
Cynrychiolwyd ysbrydoliaeth y crewyr dros y canrifoedd nes cyrraedd y cyfnod presennol a'i dechnoleg.

Ond hyd yn oed wrth ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf un cydiwyd wrth y gorffennol trwy ddefnyddio Eros - Duw cariad, a'r hanner dyn hanner ceffyl o'r chwedloniaeth gyfoethog.

Cadwyd cyfeiriadau at tyfeloedd fel Trychineb Asia Leiaf, Y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Rhyfel Byd, a'r Rhyfel Cartref allan gan gadw'r pwyslais ar y neges o heddwch sydd yn y gemau.

Hiwmor y Groegwr
Yr hyn a gipiodd ddychymyg pawb oedd yr arddangosfa lachar o 3,000 o flynyddoedd o hanes a diwylliant - nid yn unig y 75,000 yn y stadiwm ond gweddill y byd wrth i'r traddodiad a'r etifeddiaeth Roegaidd hynafol gael eu tanlinellu.

Ond nid oedd hyd yn oed seremoni fel hon yn amddifad o'r hiwmor hwnnw y mae'r Groegwyr mor hoff o'i ddefnyddio, Hen, hen hanes a chyn i'r ddefod ddechrau - a phawb yn cofio'r pryder a fyddai popeth yn barod mewn pryd - clywyd dyn yn siarad dros y meicroffon â gweithwyr yn cymryd arnynt eu bod yn dal i weithio i fyny'n uchel ar do'r stadiwm a'r swyddogion yn gweiddi arnynt fod ganddynt ddwy funud i orffen cyn i'r seremoni ddechrau!

Da oedd gweld y gallu hwn i wenu ac i chwerthin am ben y ffaith fod y byd y gyd wedi bod yn eu barnu am fod mor araf.

Dilynwyd yr orymdaith hanes gan orymdaith y mabolgampwyr gyda phob gwlad yn ymddangos yn ôl yr wyddor Roegaidd a braf oedd gweld y dyrfa yn cefnogi'r gwledydd llai ffodus â'u cymeradwyaeth.

Llanwyd y stadium â phob lliw dan yr enfys. Wedi ei goroni ag Olewydden.

Balchder
Yr uchafbwynt oedd cynnau'r fflam Olympaidd enfawr yn arwydd fod y campau ar gychwyn a phob Groegwr yn rhoi ochenaid o ryddhad; yn falch o'r arddangosiad hwn o'u hetifeddiaeth.

Yn falch mai nhw oedd pia'r dydd yn dilyn seremoni agoriadol a fu'n fodd i ysbrydoli miloedd ar filoedd ac yn deilwng o'r clod uchaf er i gwmwl helyntion dau gampwr daflu cysgod dros galon pawb.fgh

Ond fel gyda phob cwmwl mae hyder y bydd hwn hefyd yn cilio.

Yn y cyfamser, rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r mabolgampau a gweld rhai o sêr y byd yn cystadlu- rhai am fedal, eraill am y fraint o fod yn bresennol yn unig.






ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy