主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


offeryn cerdd Canu'n iach â hen offeryn cerdd
Cymraes yng Ngwlad Groeg yn dwyn i gof hynodion yr organ fach

Dydd Mawrth, Mai 15, 200

Nid anifeiliaid yn unig sydd yn marw o'r tir ond hen arferion hefyd.

Yn eu plith, yng Ngwlad Groeg, y mae offeryn cerdd hynod sy'n rhan o draddodiad y wlad.

Yn ddiweddar bu Lynda Ganatsiou, Cymraes o Bontarddulais yn wreiddiol ond sy'n awr yn byw yng ngwlad Groeg mewn noswaith diwylliannol lle cafodd hanes y Laterna.

Beth yw'r Laterna?

Offeryn cerdd gyda thannau y byddai cerddor yn ei gario ar ei gefn o le i le. Erbyn hyn, dim ond dynion mewn oed a welir yn cludo'r offeryn sy'n cael ei alw hefyd yn organetto - organ fach, neu hyd yn oed romfia, sydd yn adlais o'r cynhyrchwr Eidalaidd Pombia.

Daeth yn gyntaf i Gonstantinopl (Istambwl ), drwy'r Eidal yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Mewnforiwyd rhai offerynnau o'r Eidal, a chanwyd hwy gan ddifyrwyr stryd, yn nhrefi Groeg a Gorllewin Twrci.

O ddwy brifddinas yn Asia Leiaf, Constantinopl a Smyrna (Izmir), lle'r oedd cymdeithasau Groegaidd cryf a llwyddiannus lledaenodd y ffasiwn yn araf bach i Athens drwy Pireus ac hefyd i Fwlgaria, Rwmania a Serbia.

Cyrhaeddodd llawer ohonynt borthladd gogleddol Groeg yn Thesssaloniki a phrifddinas Y Sicladau - Syros.

Erbyn hyn, fodd bynnag, fe ystyrir y Laterna neu Organ y Gasgen, yn offeryn Groegaidd.

Mewn oes pan nad oedd y ffonograff wedi ei ddyfeisio prif ffordd y cyfansoddwyr o ledaenu eu caneuon oedd drwy ddefnyddio'r Laterna gyda sicrwydd y byddai pob cân newydd yn llwyddiannus os y'i hargraffwyd ar Laterna gyda'r trowr bob amser yn sicrhau fod ganddo ganeuon a hoffai ei gynulleidfa.

Ar drol

Addaswyd y Laterna i ateb gofynion y sawl oedd yn ei gludo. Fe'i hysgafnhawyd, cafodd ffrâm bren a strapiau. Gosododd rhai o'r cantorion y Laterna ar drol i'w gwthio o le i le.

Y dyddiau gynt, roedd ail berson yn cyfeilio i'r trowr gan ganu'r deffi, tambwrin.

Gyda'i gilydd byddai'r ddau yn creu deuawd glasurol.
fewn y bocs mae dyfais seml i chwarae'r darnau miwsig gyda silindr yn troi pan fo cranc yn cael ei droi.

Ar wyneb y silindr mae pigau main sydd yn symud system o forthwylion gan beri iddynt daro tannau metel I greu nodau pêr o fiwsig!



Geneth dlos

Ar du blaen blaen yr offeryn yr oedd yn arferiad cael llun geneth dlos wedi ei haddurno ag unai flodau go iawn neu rai ffug o bapur.
Os nad oedd merch byddai'r cantor yn gosod llun ei gariad ei hun.

Hefyd, er mwyn gwneud yr offeryn yn fwy prydferth, byddai lliain melfed gyda thaselau.
Oni bai fod y trowr yn troi y cranc y cyflymder iawn i'r dôn byddai'r swn yn arswydus!

O dro i dro, byddai tincian cloch mewn ymgais i wneud y miwsig yn fwy pleserus fyth.

Oherwydd y mecaniaeth dim ond rhyw bedair neu bump o ganeuon ellir eu chwarae ar y Laterna gan fod rhaid cael silindr gwahanol i bob darn.

Yng ngwlad Groeg yr oedd cariad mawr at y Laterna ymhlith y bobl a lledodd ei boblogrwydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ond heddiw, yn anffodus, mae'r offeryn bellach yn un anghyffredin gyda dim ond pump neu chwech ohonyn nhw ar ôl.

Rwy'n hapus iawn i mi gael y fraint o weld un o'r offerynnau anarferol yma.





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy