主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mwgwd, gwin a serch
Mawrth 1, 2005
Tra'r ydym ni yn dathlu Gŵyl Dewi yng Nghymru dywed Lynda Ganatsiou fod y Groegiaid yn paratoi ar gyfer dathlaidau llawer mwy lliwgar!

Tra bo Cymru yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, dathlu gwahanol sydd yma yng Ngwlad Groeg gyda chyfnod yr Apocries neu'r Carnifal yn dechrau ar Fawrth 3 gan barhau tan Fawrth 14.

Ym mhob tref a phentref ceir gwahanol fathau o adloniant yn ymestyn o orchuddio'r wyneb â mwgwd traddodiadol i ganu, dawnsio, yfed gwin a phartïon yn y stryd.

Fe fydd yna hefyd orymdeithiau lliwgar a bywiog, bwytawyr tân a dynion yn cerdded ar stiltiau.

Gwisgoedd lliwgar
Yn ddiamynedd ac yn ysu am i'r cyfnod gyrraedd, bu'r plant yn eu gwisgoedd prydferth ers dyddiau ac yn gyffredinol mae pawb mewn ysbryd da yn barod i ymuno â'r sbri.

Mae'r dathlu yn dechrau'n swyddogol hanner dydd, ddydd Iau.

Tsicnopempti ydy enw'r dydd yma (Dydd Iau Myglyd), gyda Groegiaid ledled y wlad mewn pob math o wisgoedd lliwgar a rhyfedd.

Fe fydd pawb allan ar y strydoedd lle gwelir tanau yn coginio'r Souvlaki (Swflaci) traddodiadol, a'r holl dre yn llawn o arogleuon hyfryd yn gwneud ichi deimlo'n llwglyd iawn.

Mae bron yn amhosib ymwrthod â'r y swflaci!

Dywedir fod y Groegwyr yn defnyddio tua 8,000 tunnell o gig y noson hon.

Fel ieir
Y llynedd, aeth Andreas (y mab) a chriw o'i ffrindiau i dref Xanthi yng ngogledd ddwyrain y wlad sy'n enwog am ei gorymdeithiau.

Fel ieirGwisgodd pob un ohonynt fel ieir a dyna beth oedd sbri gyda'r criw yn aros gyda theulu yr oedd un ohonynt yn ei adnabod.

Mae gwragedd Groeg yn gyffredinol yn hynod o garedig ac nid oedd gwraig y tŷ hwn yn eithriad yn paratoi gwelyau iddynt a brecwast y bore canlynol.

Y bore hwnnw, pan ddaeth y tad-cu draw i weld ei ferch dywedodd fod cyrff ym mhobman dros loriau ei dŷ - ond ni wyddai pwy oedd neb ohonynt!

Drewi o wyau
Wedi dychwelyd dyna chi le wedyn!
Rhaid oedd golchi'r wisg oedd yn drewi o wyau gan i'r bobl ifainc fod yn taflu wyau at yr Ieir a'r Ceiliogod!

Cawsom hwyl yn golchi'r â phibell ddŵr ond er gwaetha'r holl ddŵr a sebon ni chafwyd gwared â'r drewdod oddi ar y defnydd!

Bu'n rhaid chwistrellu aroglau hyfryd arno nes i'r gwynt cas ddiflannu'n gyfangwbl.

Gwisgais innau y wisg wedi iddi sychu, am sbri.

Ond rwy'n rhyw amau mai profi'r hen ddywediad oeddwn i; Henach, henach; Ffolach, ffolach!!

Un peth sy'n sicr, mae gennyf wisg yn barod at yr Apocries eleni - yn rhad ac am ddim!!



Hysbysebu'r ŵylGŵyl feddwol
Credir mai tarddiad yr adloniant hwn yw gŵyl feddwol Dionysos - duw gwin a hwyl - a gwelir yr Apocries fel cyfle i'r bobl gael gwared â hualau cymdeithasol am ysbaid.

Ers degawdau bu'r bobl gyffredin yn canu caneuon yn ddiniwed heb sylweddoli eu hawgrymiadau rhywiol a'u bod yn gwawdio'r hen a'r offeiriaid sydd am atal pleserau serch!

Yn ogystal â hyn mae caneuon yr Apocries yn ymwneud â dathlu ailenedigaeth a ffrwythlondeb.

Cyrraedd ei anterth
Cyrraedd y dathlu ei anterth ar y Dydd Llun Glân, pan fydd Groegiaid hen ac ieuanc yn tyrru i'r bryniau ar gyfer diwrnod cyntaf y Megali Saracosti - Y Deugain Dydd Mawr.

Dyma ddiwrnod cyntaf glanhau'r corff ar gyfer y Pasg gyda phawb yn bwyta'r Lagana (bara fflat) a Mezeddakia (gwahanol bethau bach fel olewydd, caws feta ac ati).

MygydauBydd pawb yn gobeithio hefyd am digon o awel i hedfan tan yn hwyr yn y nos y barcutau traddodiadol i gyfeiliant rhai o offerynwyr gorau'r dref.

Cyfle gwych i'r rhai hynny ohonoch sydd wedi syrffedu ar fywyd bob dydd i ryddhau eich teimladau trwy wisgo mwgwd, mynnu cariad a bwrw i lannau Groeg am sbri!





cysylltiadau


ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy