主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cathrin Williams Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew

Cymraes yn disgrifio sut y cafodd ei dal yng nghanol trafferthion ariannol yr Ariannin

Dydd Mercher, Rhagfyr 9, 2001

Y mae Cathrin Williams ar ei thrydydd ymweliad ar ddeg â'r Wladfa ym Mhatagonia - ond dywed na welodd hi' erioed o'r blaen mo'r Ariannin fel ag y mae yn awr.

Dyma fi yn Ariannin am y trydydd tro ar ddeg, a welais i erioed ddim byd fel yr hyn a welais dros yr wythnosau diwethaf!

Mae'n wir imi fod yma adeg chwyddiant mawr 90/91 a'r streic athrawon gafwyd bryd hynny ond doedd hynny'n ddim ond chwarae plant o'i gymharu â'r hyn gafwyd yn ystod cyfnod y gwyliau yma!

Roedd amryw wedi bod yn dweud ers imi gyrraedd yma ddechrau Tachwedd iddyn nhw gael eu siomi'n fawr yn yr Arlywydd a etholwyd yn 1999.

Gwyddwn hefyd i bawb oedd yn derbyn dros $500 y mis gael toriad o 20% yn eu cyflogau.

Yna, dyma glywed am drafferthion difrifol yn y Brifddinas ond gan fod Trelew yn ddigon pell o'r fan honno, doedd neb yn cymryd fawr o sylw.

Dwr a bwledi yn Nhrelew

Ond y pnawn dydd Iau cyn y Nadolig cafodd rhai o dlodion y dref yma lond bol ar y sefyllfa economaidd oedd yn eu gadael nhw heb ddim, ac fe aethon yn griw i neuadd y dref i gwyno.

Mi ddigwyddais i fod yn yr un ardal yr un pryd a chael fy hun ynghanol criw o heddlu yn gwasgar y dorf efo dwr a bwledi (rwber, gobeithio!). Torrwyd ambell ffenestr siop ac aeth y dorf tua'r archfarchnadoedd gan ofyn am fwyd am ddim.

Tawelodd pethau mor gyflym ag y dechreuon nhw. Pobl weddus ydi pobl Trelew.

Parchus - dosbarth canol'
Yn Buenos Aires bu tyrfa'n cadw stwr drwy guro sosbenni a llawer iawn o'r rheini'n bobl barchus, dosbarth canol.

Ond yno roedd pethau'n llawer gwaeth nag yma a lladdwyd amryw ac anafu mwy fyth. Ac ynghanol hyn i gyd roedd yr Arlywydd wedi rhoi'r gorau iddi a'i ddirprwy yn cymryd drosodd am ddiwrnod nes cael Arlywydd newydd.

Daeth hwnnw, ac roedd pawb yn gobeithio y byddai pethau'n gwella.

Wythnos fu hwnnw wrthi!

A dyma ddirprwy arall yn gweithredu am ddiwrnod arall, nes cael y pumed Arlywydd mewn ychydig dros wythnos. Record i unrhyw wlad ddatblygedig, debygwn i.

A'r sôn yw y bydd pob un o'r pump yn ymddeol ar bensiwn Arlywydd - oes ryfedd fod trafferthion ariannol yn y wlad?

Does yna ddim arian

Ac achos hyn oll? Y sefyllfa economaidd ddifrifol sydd yn y wlad.

Does yma ddim arian. Does gan y llywodraeth ddim digon i'w rannu i'r taleithiau ac felly all y taleithiau ddim talu eu dyledion na chyflogau eu gweithwyr.

Sut i oresgyn y broblem?

Yn wreiddiol, drwy brintio arian cyfochrog, sydd ddim yn arian yn wir ond y gellir ei wario felly.

Y drwg ydi nad ydi pob siop yn fodlon ei dderbyn ac ni ellir ei ddefnyddio at dalu pob bil. Ac mae pobl sy'n cael eu talu gan lywodraeth y dalaith neu'r wlad bellach yn cael eu talu bron yn gyfan gwbl yn yr 'arian' yma.

Ac nid yr un arian cyfochrog sydd drwy'r wlad i gyd, felly gwae chi ddod ar eich gwyliau o'r Brifddinas, dyweder, i Chubut a cheisio cael arian o'r banc! O na, lecops roddir yn Chubut ac os mai mewn patacones y cewch eich cyflog allwch chi ddim cael centavo o'r banc yma!

Rhesi o bobol tu allan i'r banciau

Peth arall sy'n gwneud bywyd yn anodd ydi'r ddeddf newydd sy'n gwahardd codi mwy na $250 yr wythnos.

Daeth y ddeddf i fod am fod pawb yn sydyn yn codi eu harian o'r banc gan adael y rheini heb ddim. Pan fo hi'n wythnos talu bil y golau, y nwy a'r ffôn dydi $250 ddim yn ddigon.

A chan fod gan bobl gyn lleied o ffydd yn y banciau, mae pawb yn codi'r $250 gynted ag y gallan nhw, fel bod yna resi diddiwedd yn disgwyl eu tro y tu allan i'r banciau.

Poen newydd yn awr

Rwan, mae yma boen newydd. Penderfynodd yr Arlywydd presennol, Duhalde, newid system ariannol sydd mewn bodolaeth ers i Menem ddod yn Arlywydd.

O dan y drefn honno, roedd y peso gyfwerth â'r ddoler Americanaidd, ond rwan ceir 1.4 peso i'r ddoler.
Canlyniad y bygwth newid oedd i'r prisiau godi'n afresymol yn y siopau er nad oedd dim un rheswm am hynny.

Heddiw, fodd bynnag, maen nhw wedi gostwng eto gan nad oedd neb yn gallu fforddio prynu dim!

Beth am y bobl?

A'r bobl eu hunain? Maen nhw'n poeni'n fawr, wrth gwrs, a llawer yn ei chael yn anodd cael dau pen llinyn ynghyd.

Does dim arian dros ben ar gyfer dim a gwelir hyn mewn pethau fel diffyg twristiaid ar adeg pan fo twristiaeth ar ei anterth gan mai dyma fis y gwyliau.

Mae yna lawer o drafod ar y sefyllfa, ond neb, wir, yn gweld ffordd glir allan o'r dryswch.

Mae pawb yn cytuno mai drwg mawr y wlad yw arweinyddion llygredig yn pluo eu nyth eu hunain. Ac wyr neb sut i wella'r sefyllfa honno.

Am y sefyllfa yma fel y mae hi, bydd y "Cymry" yn goroesi hyn fel y maen nhw wedi goroedi popeth, a hynny heb fwy na mwy o gwyno.




de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy