主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Yn y dosbarth Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007
Mae'r Cyngor Prydeinig yn chwilio am dri o athrawon i fynd i Batagonia i ddysgu Cymraeg.


Bydd yr athrawon yn rhan o Gynllun Addysg Cymraeg sy'n cael ei noddi gan y Cynulliad.

"Yr ydym yn cynnig cytundebau deng mis o Mawrth 1, 2007, tan ddiwedd Rhagfyr 2007 a bydd un athro yn gweithio yn y Gaiman, un yn Nhrelew yn Nyffryn Camwy ac un yn Esquel a Threvelin yn yr Andes," meddai Linda Hall, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor Prydeinig Cymru yng Nghaerdydd sydd yn gofalu am y cynllun.

Ychwanegodd y bydd y panel penodi yn chwilio am frwdfrydedd, ymroddiad, gweledigaeth a pharodrwydd i weithio'n egnïol yn y gymuned yn ogystal ag yn y dosbarth.

Cynnydd sylweddol
Mae'r cynllun hwn yn un a fu'n gyfrifol am weddnewid cyflwr y Gymraeg yn y Wladfa ym Mhatagonia gyda chynydd graddol yn nifer y dysgwyr Cymraeg yno dros y blynyddoedd diwethaf.

Agor Ysgol yr Hendre, Trelew Ym Mawrth 2006, cam pwysig iawn ymlaen fu agor Ysgol yr Hendre yn Nhrelew lle y cynhelir dosbarthiadau meithrin yn y bore a'r prynhawn bum diwrnod o'r wythnos.

Ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol yn niferoedd y rhai o dan 20 oed a fu'n dilyn cyrsiau Cymraeg.

"Yn 2005, yn y Gaiman er enghraifft roedd 82% o'r holl rai a ymrestrodd yn bobl ifanc a phlant. Yn Nhrelew roedd 39% yn perthyn i'r carfannau hynny a'r canran yn 47% yn yr Andes," meddai Linda Hall.

"O ganlyniad bydd galw ar yr athro yn y tri lle i roi cryn sylw i hybu a datblygu'r gwaith hwn ymhlith yr ifanc," ychwanegodd.

Erbyn hyn y mae nifer o rai a oedd yn ddysgwyr rai blynyddoedd yn ôl yn diwtoriaid eu hunain yn cynorthwyo'r cnewyllyn o athrawon o Gymru.

"Yn ystod 2007 byddwn yn rhoi blaenoriaeth i hyfforddi a datblygu sgiliau'r tiwtoriaid lleol hyn," meddai Linda Hall.

"Y nod ydi datblygu a chadarnhau'r strwythurau addysgol a sefydlwyd yn barod er mwyn sicrhau y bydd y ddarpariaeth yn hunangynhaliol ar derfyn cyfnod y cynllun," ychwanegodd.

Pob math o ddysgu
Dywedodd fod yn rhaid i'r rhai sydd am ymgeisio am y swyddi fod yn hyddysg ym maes dysgu Cymraeg i oedolion ac addysg gynradd gyda gwybodaeth am Wlpan, Pellach uwch, gloywi iaith ac ysgrifennu.

Baner ysgolion Cymraeg yr Andes "Bydd y rhain yn swyddi tiwtor/trefnydd/hyfforddwr gyda chryn bwyslais ar yr olaf ac yr ydym yn chwilio am unigolion sy'n barod i arolygu, arwain a chynghori'r tiwtoriaid lleol a'r pwyllgorau lleol," meddai.

"Yn bennaf yr ydym yn chwilio am unigolion sydd eu hunain yn diwtoriaid effeithiol ac a fyddai'n awyddus ac yn hyderus i drosglwyddo sgiliau ac arferion da i diwtoriaid a darpar-diwtoriaid yn Chubut," meddai.

Gweithgareddau cymdeithasol
Dywedodd y bydd yr athrawon yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol lleol fel drama, dawnsio gwerin, cerdd, cyd-adrodd, gweithgareddau'r capeli, cymdeithasau llenyddol, chwaraeon a chyfrannu i weithgarwch y papur lleol Cymraeg ac i raglenni radio Cymraeg.

Oedolion yn Esquel yn ymarfer actio "Byddai'r gallu i gyfathrebu yn y Sbaeneg neu'r parodrwydd i ymroi i'w dysgu yn gaffaeliad," meddai.

Mae'r cytundeb yn cynnwys:
  • Costau teithio o Gymru i'r Ariannin ac yna 'nôl i Gymru ar ddiwedd y cyfnod.
    • Chwech wythnos o wyliau.
    • Llety di-dâl wedi ei drefnu gan y cymunedau lleol.
    • Lwfans misol o £500 sy'n cynnwys costau teithio lleol.
    • Yswiriant meddygol.
    • Lwfans adnewyddu fisa.
    • Lwfans cyrraedd a dychwelyd.

    "Er nad yw'r lwfans misol yn ymddangos yn llawer fe fydd, yng nghyd-destun byw yn yr Ariannin, yn gwbl ddigonol.

    "Beth bynnag, yr unig gostau fydd prynu bwyd a nwyddau personol mewn gwlad lle mae costau byw dipyn yn is nag yng Nghymru," meddai Linda Hall.

    Cryn lwyddiant
    Am y gwaith dysgu dywedodd:
    "Yn Nyffryn Camwy ( Gaiman a Threlew) yn ystod y tair blynedd ddiwethaf cafwyd cryn lwyddiant ym maes cyflwyno'r Gymraeg i blant.

    Linda Hall yn ystod ymweliad ag ysgol yn Y Wladfa yn 1999"Byddwn felly yn awyddus i anfon i'r Dyffryn un person â chymwysterau arbennig ym maes datblygu addysg gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg a'r llall â chryfderau a phrofiad helaeth ym maes dysgu oedolion.

    "Yn ddelfrydol bydd y person a anfonir i'r Andes yn un a fydd yn dysgu oedolion yn bennaf ond a fydd hefyd yn gallu cyfrannu tuag at ddatblygu addysg feithrin yn y Gymraeg," meddai.

    "Cyfle yw hwn i bobl egnïol, brwdfrydig sydd yn eu helfen yn ymwneud â phobl. Bydd yn gyfle i ymateb yn bersonol ac yn broffesiynol i barhad y Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg yn Chubut yn arbennig ymhlith yr ieuainc.

    "Cyflawnwyd gwaith canmoladwy gan yr athrawon a anfonwyd yno er 1997 a'r gobaith yw datblygu a chryfhau y gwaith hwnnw," meddai.

    Y Prosiect
    Er mai'r Cynulliad sy'n talu am y cynllun fe'i gweinyddir gan Gyngor Prydeinig Cymru gyda chefnogaeth Canolfan Dysgu Cymraeg, Prifysgol Dosbarth oedolion Caerdydd a Chymdeithas Cymru Ariannin.

  • Rhaid ymgeisio am y swyddi cyn Hydref 16 trwy anfon at: Linda Hall, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cyngor Prydeinig Cymru, 28 Plas y Parc, Caerdydd CF10 3QE. Tel/Ffôn:+44 (0) 29 2039 7350.






  • cysylltiadau


  • Profiad athrawes ym Mhatagonia

  • Llwyddiant cynllun dysgu

  • Agor Ysgol yr Hendre

  • Ysgol feithrin yn dathlu

  • de america

    Yr Ariannin
    Apel am pesos coch y delyn

    Newyddion y Gaiman

    Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

    Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

    Ymweliad criw Ystradgynlais

    Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

    Eisteddfod Trevelin 2004

    Taith côr i ymweld â gwreiddiau

    Newyddion

    Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

    Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

    Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

    Kyffin Williams ym Mhatagonia

    Marw Ieuan May Jones

    Agor Ysgol yr Hendre

    Chwilio am wreiddiau

    Newyddion Gorffennaf 2006

    Taith bro'r Gadlas

    Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

    Teyrnged i ffotograffydd blaengar

    O Batagonia i wlad ei dadau

    Llwyddiant cynllun athrawon

    Darlith i gofio Lewis Jones

    Diwrnod y gêm

    O Grymych i Ariannin

    Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

    Hwb i ddawns y glocsen

    Angen cymorth yn Nhrelew

    Croesawu ymwelwyr

    Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

    Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

    Cofio'r croesawydd siriol

    Newyddion Rhagfyr

    Newyddion Mehefin 2006

    Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

    Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

    Cofio Moelona

    Cofio'r Mimosa

    Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

    Ysgol feithrin

    Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

    Newyddion Mawrth 2006

    Marw Marta Rees, Plas y Coed

    Marw Mair Davies

    Ethol Cymro yn faer

    Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

    Yn y llwch a'r lludw

    Cyfarfod Karen a Glyndŵr

    John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

    Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

    O Fro Dinefwr i'r Wladfa

    Enw newydd i ysgoloriaeth

    Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

    Aelodau newydd
    Gorsedd y Wladfa 2008


    Cofio Virgilio Horacio González

    Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

    Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

    Gŵyl y Glaniad 2005

    Pecynnau i ysgolion

    Darganfod y Gymraeg

    Eisteddfod 2007

    Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

    Ysgol y Dreigiau Bach

    Cinio blynyddol

    Croeso i gylchgronau Cymraeg

    Ymweliad Cor Merched y Gaiman

    Marw cerddor neilltuol

    Ysgol Trelew

    Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

    Cadair y Wladfa 2005

    'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

    Cyhoeddi hanes Bethlehem

    Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

    Athrawon 2007

    Arwyddion dwyieithog

    Colli bardd swynol

    Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

    Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

    Paratoi i ddathlu canrif a hanner

    Mimosa - canmol y fenter

    Y Mimosa

    Maradona:

    Lluniau Patagonia

    Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

    Sgrech y dathlu!

    Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

    Cofio Fred Green

    Edrych ymlaen at lanolin

    Profiad Patagonia

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Dafydd Du ym Mhatagonia

    Nadolig yng ngwres yr haf

    Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

    Ymweliad Côr y Wladfa

    Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy