主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Arwyddair Coleg Camwy -  lle bu Moelona Cofio Moelona
Teyrnged Cathrin Williams i Moelona Roberts de Drake

Fore Mercher, Rhagfyr 7, 2005, mewn ysbyty yn Esquel, bu farw Moelona Roberts de Drake, yr hynaf o 'blant' Plas y Graig, Y Gaiman.

Efallai nad oedd Moelona'n amlwg yn y gymdeithas fel y mae ei chwiorydd Tegai a Luned a'i brawd yn New Jersey, Dr Arturo Roberts, ond i'r rhai gafodd y fraint o'i hadnabod roedd yma gymeriad diddorol a gwahanol.

Ym mlynyddoedd cynnar Coleg Camwy, cyhoeddid rhestri marciau'r disgyblion ar ddiwedd blwyddyn yn Y Drafod. Flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y rhestri hynny, enw Moelona ddeuai'n gyntaf, a hynny gyda marciau llawn ym mhopeth bron bob tro.

Gadael y Dyfrryn
Fel llawer un arall yn y cyfnod bu'n rhaid iddi adael y Dyffryn i gael addysg bellach ond daeth yn ôl yno am gyfnod i ddysgu yn ei hen ysgol cyn gadael i briodi. Dim ond ar ôl i'w gŵr ymddeol y daeth y ddau yn ôl i fyw i'r Gaiman.

Rhyw batrwm mynd a dod rhwng Chubut a rhannau eraill o'r wlad fu ei bywyd gan iddi gael ei magu am rai blynyddoedd y tu allan i'r Wladfa. Dim ond ar ôl ymddeol y bu'n byw yno am gyfnod sylweddol.

Hefyd, un o dras Seisnig oedd ei gŵr, David. Y rhyfeddod felly ydi iddi gadw mor glos at y Gymraeg a phopeth Cymreig.

Dawn lenyddol
Roedd ei Chymraeg gyda'r mwyaf graenus bob amser a doedd dim rhaid golygu dim a sgrifennai. At hynny, roedd ganddi ddawn lenyddol na chafodd ei fynegi'n llwyr am iddi roi ei hamser i bethau eraill.

O ddarllen ei chyfraniadau i'r gyfrol Agor y Ffenestri ni all dyn ond rhyfeddu fod y fath iaith ac arddull i'w gael gan un y bu ei chysylltiad uniongyrchol â Chymru mor brin.

Roedd Moelona'n wraig grefyddol iawn, yn cymryd ei Christnogaeth o ddifri.
Er y deuai i wasanaethau yng nghapel Bethel, gyda'r Brodyr yr oedd ei chalon ac yno yn ei heglwys yr oedd yn fawr iawn ei pharch.

Gwraig unionsyth ym mhob ffordd oedd hi, yn dal a thenau o ran ei golwg ac yn gwbl union a chyfiawn yn ei byw hefyd.

Ond peidied neb â meddwl bod ei chrefydd wedi ei gwneud yn ddi-hiwmor. I'r gwrthwyneb, roedd yna ryw chwerthin direidus yn cuddio o dan yr wyneb drwy'r amser a bydd y wên serchus yn aros yng nghof pawb gafodd y fraint o'i hadnabod.

Nerth ac anrhydedd
Mewn ysgrif ar ei nain dyfynnodd Moelona'r geiriau hyn o Lyfr y Diarhebion, geiriau sydd yr un mor wir amdani hi:
"Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd, ac yn wynebu'r dyfodol gan chwerthin. Y mae yn siarad yn ddoeth, a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod. Y mae'n sylwi'n fanwl ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu, ac nid yw'n bwyta bara segurdod."




de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy