主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Maradona - y chwaraewr Maradona:
ei bobl yn cadw'n driw i'r cadarn ar ôl iddo gwympo

Dydd Mercher, Ionawr 17, 20001

Mae'n ymddangos nad yw'r adeg hon o'r flwyddyn yn un dda i'r dewin o bêl-droediwr, Maradona.

Ionawr y llynedd yr oedd yn gorwedd rhwng byw a marw mewn ysbyty; eleni y mae yng nghrafangau pobl y dreth yn yr Eidal sy'n dweud ei fod mewn dyled o £16 miliwn iddyn nhw.

Cwymp y cadarn

Yr un pryd daeth i amlygrwydd unwaith eto ym Mhrydain yn dilyn darogan y bydd yn chwarae mewn gêm gyfeillgar i godi arian tuag at glwb Dundee yn yr Alban.

Er nad oes sicrwydd a fydd o'n ymateb i gais ei hen gyfaill Claudio Caniggia, sydd yn awr yn chwarae efo Dundee, y mae un peth yn sicr - na fydd y doniau a wefreiddiodd dyrfaoedd pêl-droed y byd yn yr wythdegau i'w gweld ar Den's Park.

Mynychu'r gêm i weld shwt gymaint y cwympodd y cadarn fydd y tyrfaoedd y tro hwn nid i ryfeddu at ei ddawn.

Yn cael ei ddisgrifio yr wythnos diwethaf fel "forty and frumpy" y mae'r tarw bach a oedd yn gymaint dewin y bêl yn ymgnawdoliad trist erbyn hyn o effeithiau dinistriol cocên a gorfwyta ar y corff dynol.

Bu yng nghrafangau'r ladi wen ers cael ei hudo ganddi gyntaf yn 1983 pan chwaraeai gyda Barcelona ac er na all ddianc o'i gafael y mae'n cyfaddef ei hun "na wnaeth unrhyw les imi."

Parhau yn arwr yn ei wlad ei hun

Y rhyfeddod yw fod Diego Armando Maradona yn parhau yn arwr yn ei wlad ei hun, Ariannin, lle mae'n cael ei ystyried yn "más grande futbolista de todos los tiempos" - y pêl-droediwr gorau erioed!

Estyn eu cydymdeimlad tuag ato a gwneud esgusodion drosto y mae pobl gyffredin y wlad hon sydd wedi gwallgofi ar bêl-droed nid ei feirniadu.

Mae'r gwr a dddefnyddiodd "law Duw" i sgorio yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd 1986 yw dduw y gêm yno o hyd.

Ar sgrîn mawr y tu allan i siop deledu ar Calle Florida ym Muenos Aires y mae'n dal i ochrgamu'n bowld rhwng chwaraewyr i sgorio goliau gwyrthiol.

Ton o dristwch dros y wlad

Daeth ton o dristwch dros y wlad yr adeg hon y llynedd wrth i'r stori ledu o un pen i'r llall ei fod ar ei wely angau ar ôl syrthio yn Uruguay oherwydd gwenwyn y cocên.

Gyda'i galon ond yn 38 y cant effeithiol yr oedd y bachan pum troedfedd pedair modfedd a bwysai bron i un stôn ar bymtheg flonegog erbyn hyn ar farw yn ôl y gohebwyr.

Yn ystod y cyfnod hwn daeth "Beth yw hanes Maradona?" yn gyfarchiad cyffredin.

Waeth pa awr o'r dydd neu'r nos y byddech yn agor y teledu yr oedd canal wedi ei neilltuo yn arbennig i ddarlledu'r wybodaeth ddiweddaraf amdano gyda newyddiadurwyr yn haid barhaol y tu allan i'r ysbyty lle'r oedd yn cael triniaeth ddadwenwyno - detox.

Wedi iddo ddechrau gwella cludwyd ef i Giwba am driniaeth bellach lle mae'n gyfeillgar a Fidel Castro yr Arlywydd.

Cydymdeimlad nid beirniadaeth

Nodwedd amlwg o'r gofid a'r pryder amdano oedd fod mwy o gydymdeimlad tuag ato nag o feirniadu ei afradlonedd.

Cydymdeimlad a'r ffaith iddo "syrthio i gwmni drwg" a chael ei arwain ar ddisberod gan eraill.

"Fe aeth gyda'r growd anghywir. Fuodd e ddim yn ddoeth yn ei ddewis o ffrindiau," meddai un o'i edmygwyr o Batagonia.

Oherwydd bod ganddo gymaint o arian yr oedd y ffrindiau ffug hyn - los falsos amigos - yn casglu o'i gwmpas fel pryfed ac yn ei hudo i ddrygau.

"Ond oherwydd yr hyn a gyflawnodd pan oedd ar ei orau y mae pobol Ariannin yn barod i faddau iddo yn awr ei ffaeleddau achos yr ydan ni'n gwybod na all neb byth gymryd oddi arno y pleser a'r teimlad da y mae wedi ei roi inni pan oedd ar ei orau," meddai un arall.

Gôl llaw Duw

Ac mae'r gôl yna a sgoriodd yn erbyn Lloegr gyda chymorth "llaw Duw" yn tynnu gwên o edmygedd hyd heddiw i wynebau Archentwyr sydd yn bobl sy'n ymhyfrydu yn y math yna o ystryw gadnoaidd a'i gwnaeth yn gymaint o gês yn eu golwg.



Clawr llyfr MaradonaCymharodd Maradona y weithred i un y carteristas - y lladron poced - ar strydoedd Buenos Aires.

"Dyna wnes i i'r Saeson. Fe ddygais eu waled heb iddyn nhw sylweddoli. Yr oedd fy nghydwladwyr yn falch ohonaf - yr oeddan nhw'n ei weld fel dial am y rhyfel," meddai yn ei hunangofiant Yo soy el Diego - Fi yw Diego - gan gyfeirio at Ryfel y Malvinas/Falklands.

Erfyn iddo farw

Adeg ei salwch - gyda'r darogan fod pethau yn wir wedi mynd yn rhy bell y tro hwn ac na fyddai adferiad iddo yr oedd rhai yn deisyfu y cai lithro'n dawel o'i fywyd afradlon i huno am byth gan y byddai hynny yn eu galluogi i'w gofio fel y duw ag oedd pan ar frig ton ei yrfa yn hytrach nag fel y slebog blonegog ydoedd erbyn hynny.

Fel y terfynol wael, dyna meddan nhw ei unig ddihangfa bellach rhag ei dristwch ei hun.

Plentyn i werinwr cyffredin yw Maradona a esgynodd i i'r copaon ond i gwympo wedyn.

Bu'n begera am ei damaid ar strydoedd Buenos Aires cyn dod yn aelod maes o law o'r Boca Juniors yr un o ddau dîm mawr Buenos Aires. La Plata yw'r llall.

Aeth ei ddoniau ag ef ymlaen i Barcelona ac wedyn i Napoli. Ffrwyth ei ddyddiau yno yw'r dyledion treth anferthol y mae'r awdurddoau yn yr Eidal yn eu hawlio oddi arno yn awr.

Mae gen i freuddwyd

Er mor druenus ei gyflwr y mae Maradona ei hun yn obeithiol fod dyfodol iddo mewn pêl-droed. Ei freuddwyd fawr yw un ai hyfforddi Boca neu hyd yn oed ei wlad.

Dro'n ôl dywedodd: "Beth bynnag a ddywedan nhw, wnaiff fy meirniaid i byth bythoedd ladd fy mreuddwydion."

Nid yw ei lu o gefnogwyr yn yr Eidal, Sbaen ac Ariannin mor sicr ond ni fyddai dim yn rhoi mwy o lawenydd iddyn nhw.





de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy