主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Newyddion
Newyddion Medi a Hydref o'r Wladfa

  • Cofio Sandra: Yn gynnar fore Llun Hydref 10 bu farw Sandra Jones de Hugas mewn damwain car ar y ffordd ir Gaiman.

    Roedd ei hunan yn y car ar ei ffordd i nôl ei merch Valentina o dy ffrindie.

    Roedd Sandra yn athrawes Saesneg, yn briod ag Eduardo Hugas ac yn fam i Iñaki, sydd yn y coleg yn Buenos Aires, Valentina sydd yn Ysgol Camwy yn y Gaiman ac Ainara sydd yn yr Escuela Nueva ger Trelew.

    Roedd yn ferch alluog, yn hoff o ganu ac yn rhugl yn y Gymraeg, y Saesneg ar Sbaeneg.

    Bu'r gwasanaeth angladdol dan ofal Jorge Leccese gyda Marli Pugh de Villoria yn codi canu.

    Bu Jorge yn ddisgbl i Dewi Mefin yn Ngholeg Camwy a dechreuodd Sandra ei hysgol gynradd yn Bethesda yn llaw Marli.

  • Dathlu Rawson: Bu trigolion tref Rawson yn dathlu ei sefydlu 140 o flynyddoedd yn ôl ar Fedi 15, 2005.

    Uchafbwynt yr ŵyl oedd "premiére" y ffilm ddogfen Caer Antur yn adrodd hanes dechrau Y Wladfa o safbwynt Edwyn Roberts.

    Pobl leol oedd yn gweithio yn wirfoddol oedd yn actio a Patricia Lorenzo Harris, un o ddisgynyddion yr Hen Wladfawyr ac aelod o gyngor tref Rawson, oedd tu ôl ir prosiect.

    Roedd y cine- teatro yn Rawson yn orlawn a phawb wedi mwynhau.

  • Marw Gwalia - Bu farw Mrs Gwalia Hughes de Humphreys, Medi 10. Yr oedd yn fam i John, cadeirydd Eisteddfod Y Wladfa, Marta, Nelia a Glenda.

    Roedd yn chwaer i Glyn Hughes ac yn wreiddiol o Moriah.

    Bu'n fregus ei hiechyd ers rhai blynyddoedd ac yn cael pob gofal gan ei theulu. Bu'r angladd bnawn Sul yn Iglesia Metodista Argentina yn Nhrelew a mynwent gyhoeddus Trelew.

  • Eisteddfod lwyddiannus - Bu eisteddfod y bobol ifanc hynod o lwyddiannus yn y Gaiman gyda rhagbrofion niferus ddydd Iau Medi 1 yn mynd ymlaen ar hyd y dydd.

    Roedd plant y Gaiman ar corau lleol yn amlwg a chyfraniad plant Trevelin dan arweiniad María Esther Evans de Jones a chôr o ardal 3 de Febrero yn Nhalaith Buenos Aires yn cyfoethogi yr holl weithgareddau.

    Agorwyd yr eisteddfod gan gerddorfa o bobol ifanc o Punta Arenas Chile.

    Merch o Entre Ríos ennillodd y fedal am farddoni.

  • Marw Meirionydd Griffiths - Dydd Gwener Medi 2, 2005, bu farw y Br. Meirionydd Griffiths yn 85 oed.

    Roedd yn byw yn y Gaiman, ger capel Bethel mewn tŷ "ffwrn" ac yn briod a Violeta Phillips o deulu Phillips Brazil.

    Bu'r angladd ym mynwent y Gaiman.

    Roedd Meirion yn wreiddiol o ardal Tir Halen a bu yn cadw llygad ar gapel Bethel ers iddo ef a Violeta symud i fyw yn y Gaiman.

    Buont yn byw am flynyddoedd yn Lle Cul ar y ffarm "Cilsant" oedd yn perthyn i deulu Violeta.
    Marcia, merch Meirion a Violeta, sy'n edrych ar ôl swyddfa y Steddfod yn Nhrelew yn lle Sandra Day.

  • Llwyddiant arholiadau - Bu Azul de Pol yn llwyddiannus iawn yn ei harholiadau TGAU yn Ysgol Gyfun Glantaf Caerdydd er mai dim ond ychydig dros ddwy flynedd sydd er pan symudodd Azul i Gymru o Drevelin cafodd un A*, 5 A, 4 B ac un C.






de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy