主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Caban Butch a Sundance Nadolig yng ngwres yr haf
gydag ymweliad â chartref Butch Cassidy a'r Sundance Kid

Dydd Mawrth, Rhagfyr 19, 2000

Yr oedd dydd Nadolig 1999 yn un gwahanol iawn i'r arfer i Glyn Evans o 主播大秀 Cymru'r Byd. Fe'i treuliodd yn 'torri i mewn' i gaban pren Butch Cassidy a'r Sundance Kid ym mhentref diarffordd Cholila yn yr Ariannin.

Yr oedd hynny, wrth gwrs, ar ôl ei ginio Nadolig yn oriau mân y bore. Dyma'r hanes:

Cartref Butch a Sundance

Hyd yn oed heddiw gallwch ddychmygu Butch Cassidy a'r Sundance Kid yn marchogaeth i lawr y ffordd lychlyd o'u caban pren tuag at ganol pentref tawel Cholila.


Cymylau o lwch yn codi o garnau eu ceffylau a'r ddau ddihiryn yn edrych dros eu hysgwydd yn ofnus o'r gyfraith.

O'u blaenau mae Mynydd yr Indiad sy'n Gorffwys - y tu cefn iddyn nhw y caban pren - ysblennydd, yn ei ddydd - a godwyd yn gartref ganddynt iddyn nhw eu hunain ac Etta Place.

Ond yn ystod eu cyfnod yn Cholila rhwng 1901 a 1905 fe gawson nhw nid yn unig ddigon o lonydd rhag y gyfraith ond mi ddaethon nhw yn aelodau digon parchus o'r gymdeithas leol hefyd.

Gyda Cholila o fewn cyrraedd hawdd i'r gymdeithas Gymraeg yng Nghwm Hyfryd, Patagonia, cafodd y ddau gringo gyfle i gymysgu â rhai o'r Cymry yno hefyd.

Y farn a basiwyd o un genhedlaeth i'r llall yw eu bod nhw "Yn bobol glen iawn. Saesneg da ganddyn nhw."

Dywedir i Etta Place fod yn rhannu llofft a Chymraes ifanc yn ystod yr ymweliadau hyn.

Heb newid dros y blynyddoedd

Yr argraff a gawn yw fod pentref Cholila heddiw yn ddigon tebyg i'r hyn oedd o yr adeg honno.

"Dydi o ddim wedi newid llawer," meddai un o'r trigolion lleol - yr unig un o fewn y cylch sydd â mynediad i'r we. Yn wir, dim ond gan 150 o bobol y mae yna deleffon.



Y cabanMae ambell un yn gofidio na fyddai Cholila wedi gwneud mwy i fanteisio ar ei gysylltiad a'r ddau bandito a fu'n ddeunydd mor lliwgar i Paul Newman a Robert Redford.

Y mae son - ond dim ond sôn - am droi'r ty pren a godwyd ganddynt un ai'n amgueddfa neu ganolfan ond bod annealltwriaeth ynglyn â phwy yn union pia fo yn dal pethau'n ôl.

I mewn i'r ty

Heddiw, ar ôl teithio yno 150km mewn car o dref Esquel gydag Ariel a Marta Huws a'u mab Alan, gwelwn mai dim ond darn o gortyn sy'n cadw'r drysau ynghau gan ei gwneud yn hawdd inni dorri i mewn i gael golwg ar gyflwr y lle.
Ac mae'r caban pren a gododd Butch a Sundance yn dal ar ei draed. Y prif ffenestri yn wynebu'r ffordd fel y gellir gweld o bell rywun yn dod â'r cefn tuag at ffrwd fechan y gellid dianc ar frys drwy ddrws cefn i'w chroesi pe byddai angen.

Ychydig lathenni i'r chwith, mae'r ty bach yn dal ar ei draed.

Mae'n dywyll a llawn awyrgylch.

Mae Cholila o ddiddordeb arbennig i ni oherwydd y cysylltiad honedig rhwng y ddau fandito a saethu Llwyd ap Iwan - un o'r gwladfawyr mwyaf blaenllaw - y tu allan i'w siop yn Nant y Pysgod yn y Wladfa.

Ond er bod priodoli'r anrhaith i Butch a Sundance yn ei gwneud yn stori dda y mae'n eitha sicr mai dau fandito arall fu'n gyfrifol am hynny.

Wrth gwrs nid fel Butch a Sundance yr oedd y ddau yn cael eu hadnabod tra'n ddinasyddion Cholila ond fel Santiago Ryan ac Enrique Plat ac fe arhoson nhw yn dawel ac ymddangosiadol barchus yn yr ardal nes i dditectifs Pinkerton ddod ar eu gwarthaf.

Bu Etta Place yn dawnsio â llywodraethwr y dalaith.

Dianc a dwyn o fanciau

Unwaith yr oedd dynion Pinkerton a'u hanadl ar eu gwar fe ddihangon nhw ymhell i ddehau Patagonia lle bu'n rhaid iddyn nhw ail-ddechrau ymosod ar fanciau wrth i'w harian brysur ddarfod.

Roedd eu lladrad yn Rio Gallegos yn un arbennig o bowld. Agor cyfrif yn y banc, byw yn fras yn un o westai gorau'r dref am bythefnos gan gymysgu a'r byddigions lleol cyn dychwelyd i'r banc nid yn unig i gau eu cyfrif eu hunain ond i wagio cyfrif pawb arall hefyd!

Diwrnod mynd am dro

Diwrnod i fynd allan am dro ydi'n dydd Nadolig ni ym Mhatagonia.

Ac ar ein ffordd i Cholila yr oeddem yn pasio teuluoedd eraill yn cynneu tanau ar lannau afonydd a llynnoedd ar gyfer coginio cigoedd i'w bwyta gyda bara a gwin coch.

Yr oedd y 'Cinio Nadolig' wedi ei hen fwyta erbyn hyn - rhwng hanner nos a thri o'r gloch fore'r Nadolig fel mae'n digwydd.

Mwy cymhedrol nag yng Nghymru

Dydi'r Nadolig ddim yn cyrraedd Esquel mor gynnar ag y mae'n cyrraedd Cymru.

Rhagfyr 8 - dydd gwyl esgyniad y Forwyn Fair - yw'r diwrnod traddodiadol i ddechrau gosod trimins a goleuadau yn y siopau gyda nwyddau eraill yn cael eu symud i'r naill ochr i wneud lle i bethau Nadoligaidd.

Ond dydi'r dwymyn brynu ddim yn gwallgofi pawb fel ag yng Nghymru a bach yw'r gwario mewn cymhariaeth gan ein hatgoffa o'n Doligau ni rai blynyddoedd yn ôl bellach.

Nid bod yr Archentwyr yn ymhoni fod unrhyw rinwedd yn hynny.

"Does ganddon ni mo'r arian sydd gennych chi. Ond pe byddai, fe fyddem ninnau yn gwario yn union fel chwithau; waeth inni fod yn onest ddim," meddai un wraig.

Dim ond tridiau cyn y diwrnod y mae bwrlwm yn y siopau ac ar y gornel strydoedd Rivadavia a 25 de Mayo yn Esquel y mae Santa ysgafndroed yn rhannu melysion ac yn bygwth dawnsio ar ganol y stryd cyn cael smôc efo'i ffrindiau wrth fwrdd ar y pafin.

Hawl i fod yn wirion

Penllanw'r prysurdeb yw prynhawn y 24:

"Mae'r bobl wedi cael eu cyflogau o'r diwedd," eglurir imi. "Ac maen nhw am ei wario i gyd. Drwy'r flwyddyn maen nhw'n byw yn fain ond yr adeg hon maen nhw'n mynd yn wirion - a phwy all eu beio? Maen nhw'n cael digon chydig weddill y flwuddyn. Mae ganddyn nhw hawl i un wythnos, does bosib."

Ond mae eu gwiriondeb hwy yn un dipyn rhatach na'n un hafradus ni yng Nghymru.

Mae dyn meddw mewn dillad gaucho yn estyn ei law wrth ichi basio, "Dim ond un peso. Does bosib fod ganddo chi un peso i'w rhoi."

Llond bwrdd o fwyd

Yng nghartref Ariel a Marta mae'r pryd Nadolig wedi bod yn cael ei baratoi gydol y dydd.

Erbyn un ar ddeg y nos yr ydym i gyd yn eistedd o amgylch bwrdd sydd mewn peryg o sigo dan bwysau y fath amrywiaeth o gigoedd oer a salads a gwin coch.

Dywed y teledu ei bod yn 33 gradd C ym Muenos Aires ac yn teimlo fel pe byddai'n 36. Yn yr un ddinas cymerwyd 125 o bobl i'r sbyty wedi iddyn nhw or-ddathlu.

Yn Esquel mae'r cymylau'n isel a chawodydd yn bygwth.

Erbyn tri y bore yr ydym yn fodlon iawn ei byd wedi cael ein gwala a'n gweddill o fwyd da a gwin.

Wrth ddringo'r grisiau trefnwn i fod ar ein traed yn gynnar fore'r Dolig ar gyfer cychwyn am wyth, gyda bwyd sbâr yng nghist y car, tuag at Cholila i ymweld a ffrindiau - a chartref Butch a Sundance a brofodd yn eu dydd Nadolig digon tebyg, mae'n siwr, yng ngwres yr haul.




de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy