主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Aelodau o Aelwyd Crymych O Grymych i Ariannin
Elen davies yn sôn am baratoadau Aelwyd Crymych ar gyfer ymweliad â Chymry Patagonia.

Daeth aelodau Aelwyd Crymych ynghyd yn neuadd yr ysgol am y tro diwethaf ar Ebrill 1 2004 cyn mentro i ochr arall y byd.

Hwn oedd y cyfarfod olaf cyn i dros hanner cant ohonynt deithio dros 7,000 o filltiroedd i rannu eu doniau gyda Chymry'r Ariannin.

Darganfod clocsio
Cafwyd gwledd o ganu gan y côr cymysg, côr merched, partïon ac unigolion yn ystod y noson.

Ac i roi mwy o liw fyth iddi, diddanwyd y gynulleidfa gan grwpiau a pharau o glocswyr - talent sydd newydd gael ei darganfod yng Nghrymych gan ddwy o ddawnswyr Hafodwennog sydd wedi symud i'r ardal.

Fe fydd y Gwladfawyr wrth eu boddau gyda'r adloniant a baratowyd ar eu cyfer.

Bydd yr Aelwyd yn teithio ac yn diddanu cynulleidfaoedd yn y nos tra'n mwynhau'r croeso a'r golygfeydd godidog o'r byd natur anhygoel y byddant yn dod ar ei draws.

Disgwyl croeso
Wedi'r cyngerdd cawsant gyfle i holi cyn deithwyr a rhai o gyn athrawon y prosiect dysgu Cymraeg sut dywydd fyddai'n eu disgwyl ac am unrhyw gyngor oedd angen arnynt cyn mynd.

Cawsant gyngor i fynd â sbectol haul a throwsusau gyda gwast elastig fel bod lle iddynt ennill modfeddi ar ôl bwyta'r holl gig, empanadas ac wrth gwrs y teisennau hyfryd mae gwragedd Y Wladfa'n enwog amdanynt - yn enwedig y deisen hufen!

Ond yn bennaf cynghorwyd hwy i fwynhau'r profiad a'r croeso bythgofiadwy fyddai'n eu disgwyl.

Cyn iddynt fynd adre i bacio rhannwyd llond lle o lyfrau y mae'r gymuned leol o dan arweinyddiaeth aelodau'r Aelwyd wedi bod yn eu casglu ar gyfer eu prynu.

Bydd dosbarthiadau'r Wlafa yn meddwl fod Sion Corn yn aelod o Aelwyd Crymych!

Canu cyn cychwynRhannwyd y llyfrau yn gyfartal rhwng pob un o'r cymunedau ym Mhatagonia lle mae'r dosbarthiadau Cymraeg yn cael eu cynnal ac er y bydd yn bythefnos o waith caled i'r Aelwyd mi fyddant yn cael pleser o'r mwyaf o weld ar wynebau'r trigolion yno y pleser y byddant yn ei roi iddynt a'r cymorth fydd eu hymweliad yn ei roi i'r dosbarthiadau.

Edrychwn ymlaen at ddarllen am y profiadau y byddant wedi eu cael ar ôl iddynt ddychwelyd.






de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy