主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Irma Hughes de Jones Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod
Bu farw Irma Hughes de Jones ddydd Gwener y Groglith , 2003, y wraig a oedd yn cael ei chydnabod fel prif lenor Y Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia a'r ferch gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod yno.

Hi hefyd oedd golygydd Y Drafod, papur Cymraeg sy'n dyddio o ddyddiau cynnar y Wladfa. Bu'n cyfrannu iddi yn ddeg oed - ac yn ei golygu hyd yn oed yn awr yn ei hwythdegau.

Dros y blynyddoedd sgrifennodd ddegau o ysgrifau ac erthyglau am arferion a hanes Y Wladfa.

Yn ganolog i holl weithgarwch y wraig fechan, swil yr olwg hon yr oedd y gred ym mhwysigrwydd y traddodiadau Cymreig ym Mhatagonia ei hun.

"Mae'n bwysig fod yr iaith yn dal i gael ei siarad. Mae deall Cymraeg yn help i bobl ddeall eu hunain yn well a gwybod pwy ydyn nhw," meddai hi unwaith.



Trafod gydag Irma'r DrafodCathrin Williams o Borthaethwy - ffrind ac awdur cyflwyniad i gasgliad o waith Irma - yw awdur y deyrnged hon i wraig dra arbennig ac un a fu'n allweddol i gadw'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn y fyw ym Mhatagonia.

Meddai Cathrin Williams:
Gyda thristwch y clywodd ei chyfeillion yng Nghymru am farw Irma Hughes de Jones ar ddydd Gwener y Groglith.

Ac er mai yn Ariannin y ganed ac y magwyd hi, roedd ganddi ddwsinau o ffrindiau yma yng Nghymru, a llawer mwy na hynny o edmygwyr.

Irma Hughes de Jones, Irma Ariannin, Irma'r Drafod, a'r tri enw yn cynrychioli gwahanol agweddau ar fywyd y wraig ryfeddol hon.

Merch ffarm
Fe'i ganed yn y flwyddyn 1918 ar ffarm Erw Fair yn ardal Treorci, Dyffryn Camwy, Y Wladfa, ac yn Nyfryn Camwy y bu hyd y blynyddoedd olaf hyn pan aeth at ei merch, Laura, i'r Gaiman.

Ond dim ond ei chorff aeth yno, roedd ei henaid a'i hanian yn dal ar y ffarm gyda'r gwartheg, yr ieir, y cwn a'r cathod di rif.

Gwraig, mam a ffarmwr oedd hi'n bennaf, ond petai hi wedi bodloni ar fod yn hynny'n unig fyddai hi ddim wedi dod i amlygrwydd fel y gwaeth.

Doedd gwaith y ffarm, cadw ty, edrych ar ôl y teulu, coginio, gwau a gwnïo ddim yn ddigon iddi.

Na, roedd anian y llenor yn Irma erioed.

Wedi'r cyfan, 'doedd hi'n ferch i Arthur Hughes, golygydd Cywyddau Cymru a Gemau'r Gogynfeirdd, a doedd yntau'n fab i Gwyneth Vaughan, y nofelydd?

Ei chadair gyntaf
Yn 28 oed, enillodd ei chadair gyntaf yn Eisteddfod y Wladfa, ac fe'i henillodd chwe gwaith wedyn.

Ac nid y gadair yn unig, wrth gwrs, ond sawl cystadleuaeth arall, yn farddoniaeth a rhyddiaith.

Yma, yn yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd hi'n enillydd cyson ar y gystadleuaeth ar gyfer pobl y Wladfa.

Oherwydd ei chyfraniad at fyd llenyddiaeth y cafodd ei derbyn i'r Orsedd yng Nghymru o dan yr enw Irma Ariannin.

Wrth gwrs, pan sefydlwyd yr Orsedd yn Y Wladfa yn 2001, fe'i hanrhydeddwyd yno hefyd.

Yn 1953 fe'i perswadiwyd i ymgymryd â golygu'r Drafod, y papur newydd Cymraeg a sefydlwyd gan Lewis Jones yn 1891.

Mae'n wir mai yn ysbeidiol y mae'n ymddangos, ond oni bai am Irma byddai wedi hen farw. Tybed sawl papur newydd arall fu o dan yr un golygydd am hanner can mlynedd?

Tair Iaith
Roedd Irma'n ddarllenwr brwd mewn tair iaith. Darllenai bapurau newydd o Gymru gydag awch, a gwyddai lawer mwy am bopeth a ddigwydd yma nag y gwyr aml i Gymro.

Llythyrai gyda'i theulu a'i chyfeillion, a dengys y llythyrau hynny ei meistrolaeth lwyr ar deithi'r Gymraeg er na chafodd fawr ddim addysg ffurfiol mewn unrhyw iaith.

Ond nid gwybod manylion fel hyn am ei bywyd yw adnabod Irma Hughes de Jones. Gellid tybio, o wybod am ei gyrfa fel llenor a golygydd, ei bod yn berson hyderus, yn cymryd rhan amlwg ym mywyd cyhoeddus ei hardal.

Ond nid un felly oedd Irma.

Tawel a diffwdan
Gwraig dawel, gwraig y cwmni bychan, dethol, oedd hi, yn ymhyfrydu yn ei theulu a'i chyfeillion, gwraig y seddau cefn yr oedd ei thalent fawr yn mynnu ei gwthio i'r amlwg.

Pan ddelai'r anrhydeddau fe'i derbyniai'n ddigon diffwdan, cyflawnai'r rhannau a wthiwyd arni gydag urddas swil gan encilio'n ôl yn syth i heddwch Erw Fair a'i dillad bob dydd.

Gwraig ei milltir sgwâr oedd hi, a'r filltir sgwâr honno a anfarwolwyd yn ei gwaith.

Gwyn fyd yr ardal a gafodd Irma'n lladmerydd iddi oherwydd tra pery'r iaith bydd ei darllenwyr yn gwybod am ardal Treorci, Y Wladfa.

Bellach, collodd yr ardal honno un o'r mwyaf a fu byw ynddi, a chollodd diwylliant y Wladfa gonglfaen na cheir byth un arall yn ei lle.

Mae eneidiau fel Irma'n brin yn ein byd materol, prysur ni ond mae cael eu hadnabod yn fraint na ellir ond diolch yn wylaidd amdani.





de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy