主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ieuan Marw Ieuan May Jones
Teyrnged Cathrin Williams

Cathrin Williams yn cofio Ieuan May Jones
Roedd y cyntaf o Fedi 2005 yn ddiwrnod du iawn yn Nolavon, y Wladfa, ac i bawb yma yng Nghymru oedd wedi cael y fraint o adnabod Ieuan Jones.

Roedd yn bnawn fel unrhyw bnawn arall yno a Ieuan, yn ôl ei arfer, wedi mynd am dro ar gefn beic gyda'i frawd, Camwy.
Dim ond Camwy ddaeth yn ôl.

Trawyd Ieuan oddi ar ei feic gan fan fechan a'i ladd yn syth.
Gydag un weithred chwalwyd teulu a chymdeithas a gadawyd bwlch na ellir byth ei lenwi.

Mae'n syn cymaint o bobl Cymru fydd yn ymdeimlo â'r golled hon ac yn teimlo chwithdod gwirioneddol oherwydd yr hyn ddigwyddodd bellter byd i ffwrdd. Ond fel yna y mae hi, a hynny oherwydd i gymaint o bobl gael croeso ar aelwyd ddifyr a chynnes Ieuan ac Eryl.

Gwybodaeth drylwyr
Dyn ei deulu oedd Ieuan.
Eryl a'r plant, yr wyrion a'r wyresau, hwy oedd yn llenwi ei fywyd, ond roedd lle hefyd i bawb ddeuai ar ei ofyn am gymwynasau lu.

Roedd ganddo wybodaeth drylwyr iawn am ei ardal, am Dir Halen ble cafodd ei fagu ac am Ddolavon ble bu'n byw gyhyd. Gwyddai am hen feirdd a llenorion y Wladfa ac roedd wrthi ar hyn o bryd yn casglu gwaith rhai ohonyn nhw rhag iddo fynd yn angof.

Roedd iddo swydd fel cynrychiolydd cyfreithiol yn Ysgol Uwchradd William Morris a gwasanaethai mewn angladdau fel y byddai'r galw.

Roedd yn un o ddisgynyddion Aaron Jenkins, un o'r Hen Wladfawyr , a hanai rhan Gymreig ei deulu o Gwm Rhondda a Merthyr Tudful.

Agor siop
O ran ei alwedigaeth bu'n gweithio dros ugain mlynedd yn y banc, ac wedi ymddeol agorodd siop fechan yn ystafell ffrynt y tŷ yn Nolavon.

Gan nad oedd yn ddyn i fod yn segur byddai'n barod i helpu Eryl gyda'i gwaith gwnïo pan fyddai angen ac enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod y Wladfa am wneud cwilt ar gyfer gwely.

Ond llenydda oedd ei bethau o, ac er nad oedd o'i hun yn barod i gredu hynny, roedd ganddo ddawn hyfryd i droi llun yn eiriau ac enillodd lawer gwobr yn Eisteddfod y Wladfa dros y blynyddoedd.

Nid ceffyl blaen oedd Ieuan, nid un yn dymuno cael sylw a chael ei weld. Roedd iddo ryw fwynder a gwyleidd-dra anghyffredin, ond er yn ddyn distaw roedd hefyd yn ddyn cadarn iawn.

Bydd colled ar ei ôl mewn sawl cylch ar fywyd y Wladfa, ond yn bennaf ar yr aelwyd ac ymysg ei deulu. Efallai y bydd yn gysur i Eryl a'r plant wybod y bydd cymaint o bobl na wnaethon nhw fawr fwy na galw i mewn ar yr aelwyd honno yn ymdeimlo â'u colled.






de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy