主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Eiry Miles ym Mhatagonia Profiad Patagonia
Mae Eiry Miles yn treulio cyfnod allan ym Mhatagonia ac yn dysgu Cymraeg i drigolion y Wladfa ...

Dim ond ers bron i chwe mis rydw i yma yn y Gaiman, Patagonia, ond rwyf eisoes wedi cael profiadau bythgofiadwy y bydd rhai yn lwcus i'w cael mewn oes. Wn i ddim ble i ddechrau sôn am y cyfan.

Gallwn sôn am y croeso arbennig a gefais, am ddathliadau Gwyl y Glaniad, am deithiau o gwmpas yr Ariannin dros wyliau'r gaeaf. Gallwn hefyd sôn am y cymeriadau difyr sydd yma, a'r gymuned gynnes a chlos sy'n dod yn agosach at fy nghalon bob dydd. Ond deunydd llith fyddai hynny, yn hytrach na phwt o erthygl, felly fe sonia i am y datblygiad diweddaraf yn fy ngwaith am y tro.

Yma i ddysgu Cymraeg ydw i, yn rhan o gynllun a drefnir gan y Cynulliad a'r Cyngor Prydeinig. Beth felly roeddwn i'n ei wneud yng ngholeg hyfforddi athrawon Saesneg Trelew (yr Instituto Patagonico del Profesorado de Ingles, neu'r IPPI) yr wythnos diwetha? Byddwch yn falch o glywed nad trwytho disgyblion yn yr iaith fain oeddwn i. Na, mae'r athrofa oleuedig hon wedi penderfynu rhoi gwersi Cymraeg i'w disgyblion.

Fel rhan o'u cwrs, y mae'n rhaid i'r myfyrwyr ddysgu iaith arall trwy gyfrwng y Saesneg. Portwgeg oedd yr iaith honno tan eleni, ond penderfynodd y brifathrawes, Lorena Rees, mai da o beth fyddai dysgu iaith gwladwyr cyntaf Trelew iddynt. Fel yr awgryma ei chyfenw, mae Lorena o dras Cymreig. Nid yw hi'n siarad iaith ei chyndeidiau, ond mae hi a'i brawd Milton, sydd hefyd yn dysgu yn yr IPPI, yn falch iawn o'u gwreiddiau.



Eiry Miles Roeddwn yn credu y byddai dysgu'r dosbarth hwn yn dasg hawdd gan y byddai'r cyfan trwy gyfrwng y Saesneg. Tra'n dysgu yn y Gaiman, rhaid i mi stryffaglu ar brydiau i esbonio'r treigladau a rhai o nodweddion rhyfedda'r iaith Gymraeg mewn Sbaeneg carbwl. Ond a dweud y gwir, nid oedd dysgu'r dosbarth hwn mor hawdd ag y dychmygais. Ychydig iawn o Saesneg yr ydw i wedi ei siarad ers dod yma ac ron in teimlo ei fod yn llifo'n rhwyddach o enau fy nisgyblion na mi.

Gwahaniaeth arall rhwng y dosbarth hwn a'm dosbarthiadau i yn y Gaiman a Dolavon oedd cefndir y myfyrwyr. Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr Gaiman a Dolavon o dras Cymreig ac yn dysgu'r Gymraeg er mwyn gallu siarad â'u perthnasau, neu am eu bod eisiau teimlo cyswllt cryfach â'u gwreiddiau. Ond yn yr IPPI, dau o'r deunaw disgybl sydd â gwaed Cymreig.

I un ohonynt, sy'n mynd i gael te yn aml gyda'i nain, roedd geiriau'r cartref yn hollol gyfarwydd, fel "bara menyn", "teisen" a "jam". Gwyddai'r llall gyfarchion fel "Sut 'dach chi?" a gofynnodd i mi beth oedd wedi marw yn ei olygu, gan ei bod yn gwybod llinellau cyntaf "Mochyn Du"!

Maen nhw'n ddosbarth deallus a brwdfrydig, ond dim ond dwy wers y maent wedi eu cael hyd yma, felly cawn weld a fydd y brwdfrydedd yn parhau. Serch hynny, roedd sawl un yn fy holi am Eisteddfod y Bobl Ifanc a gynhelir yn y Gaiman fis Medi. Gobeithiaf y dônt i gael blas ar ddiwylliant Cymreig (ag iddo flas Archentaidd cryf) sydd yn fyw ac yn iach yn Nyffryn Camwy.

Eiry Miles






cysylltiadau


de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy