主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Edi Dorian Jones O Batagonia i wlad ei dadau
Lowri Rees yn cyfarfod ffotograffydd o Batagonia sydd ar ei ymweliad cyntaf â Chymru.

Mae llyfr newydd ar silffoedd mewn llyfrgelloedd yng Nghymru, sydd yn llawn o luniau am fywyd ym Mhatagonia dros 140 o flynyddoedd yn ôl.

Gwaith criw a ddaeth at ei gilydd yn y Wladfa ydi o ac erbyn heddiw mae A Frontier Faraway wedi ei ddosbarthu i lyfrgelloedd Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd ac i'w weld hefyd yn Sain Ffagan.

Un o'r rhai a fu'n casglu lluniau ydi Edi Dorian Jones o Drelew sydd newydd dreulio ychydig fisoedd gyda'i deulu yn Llanuwchllyn ger Y Bala.

Hen daid ar y Mimosa
Mae dros 140 o flynyddoedd ers i 162 o o wŷr, gwragedd a phlant hwylio dros saith mil o filltiroedd ar y Mimosa ar i greu Cymru newydd yn Ariannin.

Yn eu plith roedd hen daid i Edi.

"Roedd hen daid i mi o ochr Tada, yn wreiddiol o Abertawe, yn un o'r rhai cyntaf i deithio ar y Mimosa i'r Wladfa," meddai.

"Bu i deulu Mam, yn wreiddiol o dafarn yr Eagles, Llanuwchllyn, deithio drosodd yn 1911, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, a hynny er mwyn dianc rhag creulondeb y rhyfel."

Bellach, cafodd Edi gyfle i dreulio deufis yng Nghymru gan aros yn Llanuwchllyn gyda pherthnasau iddo.

"Dyma'r tro cyntaf imi fod yma yng Nghymru ac mae'n wahanol i beth oeddwn wedi'i ddychmygu.

"Er bod yna bethau sy'n debyg rhwng y ddwy wlad, mae mwy o liw a thyfiant yma yng Nghymru," meddai.

"Mae Patagonia yn lle sych a llwyd io'i gymharu â Chymru.

Edi yng Nghymru "Yn Llanuwchllyn arferai fy nhaid weithio gyda turbines ac mi gafodd gynnig gwaith tebyg yn Esquel ond bu i bethau ddisgyn drwodd wedi i'r dyn oedd yn mynd i'w dalu am y gwaith fynd yn sâl a disgyn yn farw.

"Wedi hynny gorfu iddo weithio gyda pheiriannau ac ar y fferm."

Yn byw yn Nhrelew bu Edi ei hun yn gweithio gyda chwmni pŵer heidrolig am 22 o flynyddoedd.

"Ar y pryd wyddwn i ddim fod fy nhaid wedi gweithio gyda phŵer hefyd a'i fod yntau, yr un fath a minnau, yn hoff o dynnu lluniau gyda chamera."

"Dwi'n gweithio gyda lluniau bob dydd, a dros y blynyddoedd wedi tynnu nifer fawr o luniau. Dwi'n teimlo ei bod yn agwedd bwysig o fywyd gan fy mod yn cofnodi hanes," meddai.

"Arferai y Cymry dynnu lluniau rhwng 1865 a 1935, rhai yn well na'i gilydd wrth gwrs, ond mi oedd y dechneg gyda nhw. Dros y blynyddoedd dwi wedi hel lluniau ac wedi cyhoeddi llyfrau.

"Yn ddiweddar mae llyfr wedi ei gyhoeddi sydd yn llawn o hen luniau'r Wladfa, A Frontier Faraway, a dwi wedi dosbarthu'r llyfr i Sain Ffagan , Llyfrgell Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd."

Siarad Cymraeg
Mae Cymraeg Edi yn berffaith ac mae'n amlwg ei fod â balchder i'w deulu ddod yn wreiddiol o Gymru a bod yr iaith Gymraeg a'r ffordd Gymreig o fyw yn parhau gydag ef.

"Iaith Gymraeg oedd yn cael ei siarad adref. Roedd Mam yn gallu'r Saesneg hefyd a hynny am iddi dreulio cyfnod yn nyrsio yn Buenos Aires.

Y duedd oedd i ateb ein rhieni yn yr iaith yr oeddynt hwy yn ei siarad gyda ni," meddai.

"Yn ddiweddar mae'r iaith Gymraeg wedi tyfu'n bwysig yn y Wladfa unwaith eto, ac mae mwy o bwysau i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae athrawesau yn cael eu hanfon o Gymru i ddysgu'r Gymraeg sydd yn fantais wych i'r Wladfa."

Mynd ar goll
"Er bod na bwysau i ail gydio yn yr iaith dwi'n teimlo bod na nifer o bethau wedi mynd ar goll dros y blynyddoedd; nid yw'r iaith Gymraeg ru'n fath ag oedd flynyddoedd yn ôl a heddiw, yn sicr, mae'r Gymraeg yn fwy bratiog.

"Ein hiaith yw'r hyn ydym ni heddiw, sydd yn bwysig iawn."

Ond mae straeon hanes y gwladfawyr yn fyw yng nghof Edi wedi eu trsoglwyddo mewn hanesion gan ei dad a'i fam a'r teulu.

"Dwi'n cofio clywed hanes dod teulu Dada wedi ei chael hi'n anodd sefydlu yn y Wladfa. Nhw oedd y rhai cyntaf i lanio a doedd dim ar eu cyfer. Ond pan fu i Taid o Lanuwchllyn fynd drosodd , roedd tai yno ac ysgolion a chapeli wedi eu sefydlu.

"Dwi'n cofio clywed hanes ewyrth imi, Tom Rowlands, a oedd wedi torri'i goes. Arferai wisgo un esgid gyda sawdl uchel arni, a bu'n rhaid iddo ddychwelyd adref i Gymru gan ei bod hi'n anodd cael esgidiau ym Mhatagonia."

Colli lluniau mewn tân
Mae llais Edi yn torri wrth iddo ddweud yr hanes am dŷ ei deulu yn mynd ar dân.

"Bu'n golled fawr inni gan fbod llawer o luniau wedi mynd i ebargofiant . Roedd yn beth ofnadwy inni i gyd ac mae'r hiraeth am luniau a hen ddodrefn y teulu yn parhau yn ein calonnau," meddai.

Yn blentyn arferai freuddwydio am gael ymweld â Chymru ac roedd clywed hanesion ei deulu yng Nghymru yn codi awch arno i deithio yma.

"Roedd yr awch yn fawr pan oni'n ifanc. Mae Cymru yn debyg iawn i'r hyn y bu imi glywed amdano flynyddoedd maith yn ôl ond dwi wedi synnu bod mwy o goedwigoedd a lliwiau natur mor fwy yma.

"Dwi'n teimlo'n aml fy mod wedi cyrraedd adref a dwi'n teimlo fy mod yn adnabod llawer o'r llefydd yma yn barod er nad wyf erioed wedi bod yma o'r blaen.

"Mae'n rhyfedd iawn ond mae'r arogl sydd mewn tai yma yn fyw yn y cof er pan fum yn blentyn.

"Mae'n rhyfedd bod rhywun yn teimlo mor gyfforddus mewn gwlad ddieithr," ychwanegodd.






de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy