主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Manon Edrych ymlaen at lanolin

Merch o Gymru yn mentro i'r Falklands i lapio gwlan

Dydd Llun, Tachwedd 19, 2001

Mae ysfa yn nifer fawr o bobl ifanc heddiw i hel eu pac ac i fynd i deithio. Dyma fu hanes nifer fawr iawn o bobl ifanc wedi'r haf.


Rhai i Awstralia, eraill i Seland Newydd a rhai i chwilio am wreiddiau eu teuluoedd ym Mhatagonia.

Yn wahanol i nifer o'i chyfoedion a ffrindiau mae merch o Lanuwchllyn wedi mynd i weithio i'r Falklands oddi ar arfordir Ariannin am bedwar mis.

Mae Manon Roberts wedi rhoi'r gorau i fyd addysg a mynd i lapio gwlân yno.

Meddwl yn barod am rywle arall

Ac er mai am gyfnod byr y bydd hi yno dydi hi ddim yn bwriadu aros adre yn hir wedi iddi ddychwelyd ychwaith.

"Does wybod ble'r â'i nesa. Dwi'n cofio clywed hanes gwr yn gollwng pin ar fap i wybod i ble y byddai'n teithio nesaf, efallai mai dyma fydd fy hanes innau, does wybod," meddai.

Er i Manon gychwyn ar gwrs celf yng Ngholeg Iâl Wrecsam yn dilyn ei Lefel A yn Ysgol y Berwyn penderfynodd dros nos bod awch arni i fynd i deithio.

"Dwi wedi bod yn lapio gwlân ers bron i dair blynedd yng Nghymru. Ac felly penderfynu mynd dramor i feddu ar brofiad mewn gwledydd eraill. Falklands gyntaf pwy â wyr lle nesaf," meddai.

Ac y mae hi hefyd a'i bryd ar ddilyn cwrs gradd mewn prifysgol wedi iddi ddychwelyd - er does wybod pryd fydd hynny!

Byw yn y gwyllt

"Mae lot wedi synnu bod awch arnai i fynd i'r Falklands, yn hytrach nag Awstralia neu Seland Newydd, ond dwi'n barod am y sialens.

"Dwi ar ddeall y byddaf yn byw yn y gwyllt yn ystod yr wythnos yn gweithio ac yna yn cael dod i lawr i'r dref i aros mewn carafanau yn ystod y penwythnosau.

"A pham ddim y Falklands; mae digon o bobl wedi pregethu nad oes dim coed na dim arall yno dim ond defaid, ond dyna ni, mynd yno i wneud arian ydw i a dwi'n sïwr y bydd yna rhyw fath o fywyd cymdeithasol yno hefyd."

Er ei bod hi'n chwerthin yn braf wrth feddwl am ei thaith i wlad arall mae'n cyfaddef hefyd ei bod ychydig yn bryderus.

"Dwi'n meddwl bod unrhyw un sydd yn camu ar awyren y dyddiau yma yn nerfus - ond mi fyddai'n iawn ar ôl cyrraedd," meddai.



Manon
Dim siopau

"Dwi wedi cyfarfod un neu ddau o'r rhai fydd yno gyda mi a dwi'n adnabod merch o'r Falklands sydd wedi bod yn y wlad yma yn lapio gwlân. Felly dwi'n ymwybodol o'r ffaith nad oes yno ddim siopau gan ei bod hi yn siopa, siopa, siopa pan fo hi yma yng Nghymru."

Er bod lapio gwlân yn waith caled dywed Manon ei bod yn edrych ymlaen at fynd i ganol y cesys i weithio'n galed ac, wrth gwrs, i chwarae'n galed.

"Nid lapio gwlân yw'r swydd ddelfrydol, gyda gorfod codi'n gynnar yn y bore, lanolin yn y briwiau a baw defaid yn fy ngwallt, ond mae'n gyfle gwych i weld y byd ac i gael hwyl," meddai.




de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy