主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Elan Jones a'r Parchedig Eirian Wyn Lewis Gŵyl y Glaniad 2005
Cofio Michael D Jones wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Bu seremoni arbennig i osod torch o flodau ar fedd y Cymro sy'n cael ei gydnabod fel "tad" y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia fel rhan o ddathliadau Gŵyl y Glaniad 2005.

Gosodwyd y dorch ar fedd Michael D Jones ym mynwent Yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, gan Elan Jones, un o lywyddion anrhydeddus Cymdeithas Cymru Ariannin a gor-wyres i un o'r gwladfawyr cynnar, Edwyn Roberts.

Myfyrwyr LlambedGyda'r aelodau o Gymdeithas Cymru Ariannin a oedd wedi ymgasglu ar gyfer y seremoni, ddydd Sadwrn Gorffennaf 23, 2005, yr oedd chwech o'r saith o fyfyrwyr o Batagonia sydd ar hyn o bryd yn astudio Cymraeg yng Ngholeg Llanbedr-pont-Steffan.

"Y mae hwn yn llecyn arbennig ac yn llecyn cysegredig iawn i Wladfagarwyr," meddai'r Parchedig Eirian Wyn Lewis, Mynachlog-ddu, aelod o bwyllgor gwaith y gymdeithas a oedd yn arwain y gweithgareddau ger y bedd.

Ychwanegodd fod arwyddocâd arbennig i Ŵyl y Glaniad eleni gan ei bod yn 140 o flynyddoedd ers i'r fintai gyntaf o Gymry lanio ym Mhatagonia yn 1865.

"Yr ydym ni yn cofio y dewrder, y dycnwch a'r dyfalbarhad," meddai.

Clowyd y seremoni trwy ganu emyn a gyfansoddwyd gan Nantlais yn clodfori'r cwlwm sy'n bodoli rhwng Cymru a Phatagonia:

Canu emyn Nantlais yn y fynwent"Un ydynt hwy a ninnau,
Un yw ein ffydd a'n hiaith,
Emynau temlau'r henwlad
Yw mawl addoldai'r Paith,
Ond cryf yw lli estroniaid
A'u tery ar bob llaw;
O Arglwydd cofia'r Cymry
Ym Mhatagonia draw,"
meddai'r ail bennill.

Yn dilyn y seremoni hon bu cyfarfod pellach y tu allan i Goleg Y Bala lle bu un o gyfarfodydd cynharaf y mudiad gwladfaol, yn Awst 1865, meddai Dafydd Tudur o Brifysgol Cymru Bangor a draddododd anerchiad byr am gyfraniad rhyfeddol Michael D Jones.

Dafydd TudurDywedodd i Michael D Jones nid yn unig hyrwyddo'r ymgyrch wladfaol yn y wasg a thrwy gynnal cyfarfodydd ond hefyd trwy gyfraniadau ariannol sylweddol.

Michael D Jones, meddai, a roddodd y £100 a alluogodd i Lewis Jones a Love Jones Parry deithio i Ariannin i archwilio'r tir a thalodd arian sylweddol pan fu trafferthion yn Lerpwl a olygai na allai'r ymfudwyr hwylio ar yr adeg a fwriedid.

Gorfododd y gost honno iddo ail forgeisio ei dŷ fil o bunnau iddo.

Gorymdeithio Yn dilyn sgwrs Dafydd Tudur, sydd wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth ar Michael D Jones, gorymdeithiwyd o Goleg Y Bala i Neuadd y Cyfnod gydag Azul De Pol, yn cario baner Ariannin ac Ana Clara Cantera Simms yn cario'r Ddraig Goch ar y blaen.

Yn ystod y gweithgareddau yn Neuadd y Cyfnod darllenwyd nifer o gyfarchion o'r Wladfa:

Oddi wrth Cymdeithas Dewi Sant, Trelew:
Ar ran Cymdeithas Dewi Sant Trelew rydym yn dymuno pob hwyl i gyfeillion Cymdeithas Cymru Ariannin yn nathliadau Gŵyl y Glaniad yn Y Bala.
Rydym ni yma hefyd yn mynd i gael amryw o weithgareddau i gofio 140 blynedd ers i'r Mimosa lanio yn y Bae Newydd.
Nos Fercher y 27ain o Orffennaf; Cyngerdd Mawreddog yn Teatro Español, Trelew am naw y nos efo'r corau lleol, cwmnïau dawns werin, adroddwyr a golygfa ddramatig o'r glanio lle mae aelodau ein pwyllgor yn cymryd rhan.
Dydd Iau y 28ain o Orffennaf am 10.30 Acto i gofio yr Hen Wladfawyr yn Neuadd Dewi Sant ac am 11.30 cwrdd yn Nghapel Tabernacl.
Yn gywir, dros y pwyllgor,
Wendell Davies,Cadeirydd a Mario Jones, Ysgrifennydd.

Cymdeithas Esquel:
Cyfarchion cynnes - yn meddwl ac yn cofio amdanoch heddiw yn eich dathlu.
Cyfeillion y Dosbarthiadau Cymraeg ac aelodau'r Gymdeithas yn E squel.
Glades Jones de Cid

Cymdeithas Addysg a Diwylliant Y Camwy, Y Gaiman:
Annwyl Gyfeillion Cymdeithas Cymru Ariannin,
Rydym, fel cymdeithas, yn anfon ein cofion cynnes atoch ac yn dymuno pob hwyl ar eich dathliad yn Y Bala i gofio pen-blwydd 140 Y Wladfa ym Mhatagonia.
Hir oes i'r cyfeillgarwch rhwng Cymru a Phatagonia.
Yn gywir
Margretta Evans de Meza Leiz, Is Gadeirydd.
Lucio Daniel González Roberts, Is Ysgrifennydd.

Gorsedd Y Wladfa
Annwyl Aelodau Cymdeithas Cymru Ariannin,
Mae Gorsedd y Wladfa, Patagonia, yn dymuno'n dda i Gymdeithas Cymru Ariannin wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad eleni yn y Bala.
Rydym yn dathlu 140 o flynyddoedd ers i'r Cymry cyntaf lanio ym Mhorth Madryn ac mae'n wyrth yn wir fod y Gymraeg dal i'w chlywed ar hyd ac ar led yr ardal.
Gobeithio y gallwn barhau i hybu'r iaith a'i diwylliant gyda'n gilydd am 140 o flynyddoedd eto.
Yn ddiffuant
Catrin Morris de Junyent, Ysgrifennydd.

Cylch Cymraeg Trelew:
Hoffem ddymuno'n dda i bob un ohonoch chi sydd gyda'ch gilydd yn dathlu Gŵyl y Glaniad eleni yng Nghymru.
Drwy eich caredigrwydd chi ac eraill rydym yn Nhrelew eleni yn gobeithio gwireddu breuddwyd o sefydlu canolfan Gymraeg ac ysgol feithrin.
Gobeithiwn ddilyn camau y gwladfawyr cyntaf a cheisio sicrhau parhad i'n hiaith a'n diwylliant.
Pob hwyl gyda'ch dathliadau acw.
Santiago Meza, Llywydd.

Yr Andes:
Gŵyl y Glaniad hapus i chwi yng Nghymru.
140 mlynedd o Gymraeg dan Groes y De!
Oer iawn yw ein gaeaf ni yma wrth draed yr Andes, ond cynnes iawn yw ein cyfarchion i Gymdeithas Cymru Ariannin a phawb syn dathlu'r ŵyl heddiw. Diolch yn fawr, oddi wrth bawb yn Ysgol Gymraeg Trevelin a Chymdeithas Gymraeg Cwm Hyfryd.

Dyma sut y canodd R.J.Berwyn:
Wi,wi, am Ŵyl y Glaniad,
mae mwyniant dros y wlad.
Beth yw yr ŵyl a'r glaniad?
O! dwedwch i ni Nhad.

Ana Clara ac Azul Dydd pen-blwydd y Wladfa
O! cofiwch hyn fy mhlant,
Pan ddaeth y Cymry yma,
A'u rhif tri hanner cant.

O ble y daethoch yma?
O! dwedwch i ni Nhad,
A pham y mynsoch Wladfa
Yn Mhatagonia wlad?

O hen fynyddoedd Cymru,
Dros foroedd llydain pell,
I gadw'n hiaith i fyny,
A gwneuthur cartref gwell.

Wel, caru wnawn y Wladfa,
Dewisodd mam a nhad,
A gwnawn eu cartref yma
Yn gartref o foddhad.

A charwn iaith ein mamau,
A defion pur ein tad,
I ninnau anwyd yma,
O! dyma n hannwyl wlad.

Hwyl fawr, Mary (Green).

Eisteddfod Y Wladfa:
Annwyl Aelodau Cymdeithas Cymru Ariannin
Gobeithio eich bod yn mwynhau eich dathliadau Gŵyl y Glaniad yna yng Nghymru ac y brysiwch yn ôl i Batagonia ac i Eisteddfod y Wladfa cyn bo hir.
Cofion cynhesaf
John Humphreys, Llywydd.






cysylltiadau
Anerchiad Dafydd Tudur, Gŵyl y Glaniad 2005



Dadorchuddio Cofeb Michael D Jones

Michael D Jones - y cenedlaetholwr mwyaf ers Owain Glyndwr?

de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy