主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dadorchuddio'r model Mimosa - canmol y fenter
Detholiad o gyfarchion a dderbyniwyd ar achlysur dadorchuddio model o'r Mimosa yn Amgueddfa Forwrol Lerpwl

  • Llysgenhadaeth yr Ariannin yn Llundain
    Ymhlith y negeseuon a dderbyniwyd yn dymuno'n dda i'r seremoni dadorchuddio model o'r Mimosa yn Lerpwl Medi 27, 2008, yr oedd un oddi wrth Enrique Ferrer-Vieyra, Chargé d´Affaires yn Llysgenhadaeth yr Ariannin yn Llundain.

    Mae ef hefyd wedi tynnu sylw Swyddfa Dramor yr Ariannin at y digwyddiad a'r Llywodraeth a hithau yn ei thro Lywodraeth Talaith Chubut.

    Mewn ebost at Susan Wilkinson, awdur llyfr am y Mimosa cyfeiriodd ef at y cysylltiad sy'n bodoli rhwng Cymru ac Ariannin yn dyddio'n ôl i 1850au y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hynny'n arwain at fordaith hanesyddol y Mimosa yn 1865.

    "Heddiw," meddai, "143 o flynyddoedd wedi dyfodiad y Mimosa i'r arfordir a alwyd gan y bobl ar ei bwrdd yn Borth Madryn - Puerto Madryn - yr ydym yn falch o gyfrif ymhlith ein cyd ddinasyddion ddisgynyddion y gwladfawyr Cymreig hynny a lwyddodd i gadw dros y blynyddoedd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg tra ar yr un pryd yn dod yn Archentwyr llawn ac yn rhan o fywyd pob dydd ein gwlad."

    Ychwanegodd:
    "Dymunaf i chwi a Chymdeithas Etifeddiaeth Cymru Glannau Mersi y llwyddiant mwyaf gyda'ch cynllun."

    Derbyniwyd hefyd nifer o negeseuon o'r Wladfa ei hun fel a ganlyn:

  • Dewis addas
    Llongyfarchiadau i Mrs Elan Roberts de Jones, gynt o Ddyfryn Camwy, sydd yn mynd i fod yn dadorchuddio y model newydd sbon o´r Mimosa yn yr Amgueddfa Forwrol yn Lerpwl.

    "Mae yn addas iawn mai hi sydd yn gwneud y gwaith yma gan ei bod yn un o ddisgynyddion Edwin Roberts oedd yn croesawu y Mimosa a´r Hen Wladfawyr ym Mae Newydd yn 1865.
    Luned González
    Gaiman.

  • Cymdeithas Gymraeg
    Mae enw y llong Mimosa yn adnabyddus yn Chubut.
    Rydym ni oll yn cofio ei mordaith hanesyddol i'r Bae Newydd efo'r Hen Wladfawyr ar ei bwrdd.

    Rydym yn teimlo yn falch iawn bod model newydd sbon o'r llong dyngedfennol hon yn cael ei ddangos yn Amgueddfa Forwrol Lerpwl a rydym yn eich llongyfarch am wneud hyn yn bosibl.
    Lucio González Roberts a Margretta Evans Meza Leiz
    Ysgrifennydd a Chadeirydd Cymdeithas Gymraeg Addysg a Diwylliant Camwy - Gaiman.

  • Cyfarchion o'r Andes
    Cyfarchion o'r Andes oddi wrth y Gymdeithas a'r Ysgol Gymraeg yn Esquel ar achlysur dadorchuddio cerflun yn coffáu taith y Mimosa yn cario'r gwladfawyr cyntaf o Lerpwl i Batagonia ym1865.

    Yr oedd yn dda gennym glywed am yr achlysur llawen hwn ac fe gawsom drafodaeth ddifyr amdano yma yn yr ysgol.

    Yn ystod y drafodaeth hon fe ddaeth i'r amlwg fod Aaron Jenkins, a oedd ar y Mimosa ar y fordaith honno, yn hen daid i Esther Evans de Hughes, sydd yn byw yma yn Esquel heddiw, rhywbeth oedd yn dod â'r achlysur yn fyw iawn i ni.

    Felly fel disgynyddion balch i'r holl wroniaid hynny, dynion a merched, a ddaeth o'r Hen Wlad i sefydlu'r Wladfa yma ym Mhatagonia yr ydym yn anfon ein cyfarchion a'n dymuniadau gorau atoch.
    Gill Stephen
    Tiwtor
    Ysgol Gymraeg yr Andes

  • Cyfarchion Trevelin
    Ar ran trigolion Trevelin, Cwm Hyfryd, ein llongyfarchiadau am ddadorchiddio cofeb i Mimosa, y llong a ddaeth a'n cyndeidiau o Gymru i ymsefydlu yn yr ardaloedd hyn.

    Pob llwyddiant yn y dathliadau, a chofion cynnes.
    Mary Green
    Trevelin

  • Ysgol Gymraeg Trevelin
    Cyfarchion cynnes oddi wrth Ysgol Gymraeg Trevelin, Cwm Hyfryd, ar gyfer dadorchuddiad y model newydd o'r Mimosa yn Amgueddfa Forwrol Lerpwl ar Fedi 27.
    Hwyliau da i chi gyd!
    Gwyn Jones
    Ysgrifennydd Pwyllgor Ysgol Gymraeg Trevelin.

  • Ysgol Gymraeg Esquel
    Hoffwn anfon cyfarchion ar ran Ysgol Gymraeg Esquel a mi yn bersonol ar y dadorchuddiad o'r model o'r Mimosa yn Liverpool ar y penwythnos nesaf. Pob llwyddiant i chi ar achlysur mor bwysig i ni i gyd fel Cymry.
    Cofion cynnes.
    Gladys Jones.
    Esquel.

  • Cyfarchion Toronto
    Ar ran Cymry Toronto a'r cylch dymunaf longyfarch Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi ar yr achlysur pwysig hwn.

    Mae'r Mimosa a'r fenter i'r Wladfa yn rhan anhepgor o'n hanes ni a diolch i chi am ganolbwyntio hynny drwy archebu cerflun o'r llong.
    Pob lwc i chi i gyd.
    Hefina Phillips
    Toronto.

  • Cymdeithas Dewi Sant
    Dymuna Cymdeithas Dewi Sant,Trelew, Chubut, Patagonia, Argentina, anfon ein llongyfarchiadau cynnes i´r Pwyllgor sydd wedi trefnu arddangosfa lle bydd cerflun o long fach y Mimosa yn y Merseyside Maritime Museum.

    Gwethfawrogwn yr anrhydedd ar parch tuag at y Mimosa a gludodd dros gant a hanner o Gymry i ymfudo dros Fôr Iwerydd, i gyrraedd Porth Madryn yn 1865.

    Nid yn unig mae´r antur yn bwysig i ni'r disgynyddion ond hefyd i´r Wladfa fach a holl Wlad Ariannin sydd yn edmygu y sefydliad heddychol i boblogi a throi y diffeithwch yn ddyfryn gwyrdd. Agorodd hefyd y ffordd i sefydlu diwylliant a iaith Hen Wlad ein tadau a chreu cymdithas glos i gadw ein holl draddodiadau gwerthafwr.
    Mario Jones, Ysgrifenydd;
    Ansel René Davies, Llywydd;
    Wendell Davies, Is -Llywydd.






  • cysylltiadau
    Hanes dadorchuddio'r model

    Rhagor am Batagonia

    Hanes y Mimosa

    de america

    Yr Ariannin
    Apel am pesos coch y delyn

    Newyddion y Gaiman

    Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

    Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

    Ymweliad criw Ystradgynlais

    Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

    Eisteddfod Trevelin 2004

    Taith côr i ymweld â gwreiddiau

    Newyddion

    Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

    Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

    Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

    Kyffin Williams ym Mhatagonia

    Marw Ieuan May Jones

    Agor Ysgol yr Hendre

    Chwilio am wreiddiau

    Newyddion Gorffennaf 2006

    Taith bro'r Gadlas

    Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

    Teyrnged i ffotograffydd blaengar

    O Batagonia i wlad ei dadau

    Llwyddiant cynllun athrawon

    Darlith i gofio Lewis Jones

    Diwrnod y gêm

    O Grymych i Ariannin

    Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

    Hwb i ddawns y glocsen

    Angen cymorth yn Nhrelew

    Croesawu ymwelwyr

    Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

    Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

    Cofio'r croesawydd siriol

    Newyddion Rhagfyr

    Newyddion Mehefin 2006

    Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

    Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

    Cofio Moelona

    Cofio'r Mimosa

    Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

    Ysgol feithrin

    Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

    Newyddion Mawrth 2006

    Marw Marta Rees, Plas y Coed

    Marw Mair Davies

    Ethol Cymro yn faer

    Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

    Yn y llwch a'r lludw

    Cyfarfod Karen a Glyndŵr

    John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

    Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

    O Fro Dinefwr i'r Wladfa

    Enw newydd i ysgoloriaeth

    Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

    Aelodau newydd
    Gorsedd y Wladfa 2008


    Cofio Virgilio Horacio González

    Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

    Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

    Gŵyl y Glaniad 2005

    Pecynnau i ysgolion

    Darganfod y Gymraeg

    Eisteddfod 2007

    Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

    Ysgol y Dreigiau Bach

    Cinio blynyddol

    Croeso i gylchgronau Cymraeg

    Ymweliad Cor Merched y Gaiman

    Marw cerddor neilltuol

    Ysgol Trelew

    Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

    Cadair y Wladfa 2005

    'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

    Cyhoeddi hanes Bethlehem

    Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

    Athrawon 2007

    Arwyddion dwyieithog

    Colli bardd swynol

    Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

    Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

    Paratoi i ddathlu canrif a hanner

    Mimosa - canmol y fenter

    Y Mimosa

    Maradona:

    Lluniau Patagonia

    Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

    Sgrech y dathlu!

    Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

    Cofio Fred Green

    Edrych ymlaen at lanolin

    Profiad Patagonia

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Dafydd Du ym Mhatagonia

    Nadolig yng ngwres yr haf

    Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

    Ymweliad Côr y Wladfa

    Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy