主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Model Tony Fancy o'r llong Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl
Un o ddisgynyddion y gwladfawyr cyntaf yn dadorchuddio model o'r Mimosa yn Lerpwl

Hanesydd yn pwysleisio rhan allweddol Lerpwl yn hanes y Wladfa
Ar brynhawn hyfryd o Fedi 2008 dychwelodd y Mimosa i Lerpwl.

Ac yno yn disgwyl llong gyda'r enwocaf erioed yn hanes Cymru yr oedd Elan Jones.
Yn union fel ag yr oedd ei hen daid, Edwin Cynrig Roberts, yn disgwyl y Mimosa ar draeth unig y Bae Newydd ym Mhatagonia fis Gorffennaf 1865 ag yntau yno i groesawu glaniad y fintai gyntaf o ymfudwyr o Gymru i sefydlu gwladfa yn yr Ariannin.

Dadorchuddio'r model - D Ben rees, Elan Jones a Tony Fancy Wrth gwrs, dim ond model o'r Mimosa wreiddiol a ddadorchuddiwyd gan Elan Jones ddydd Sadwrn Medi 27, 2008, yn Amgueddfa Forwrol Lerpwl - y porthladd yr hwyliodd y Mimosa go iawn ohono ddydd Sul, Mai 28 1865.

Ac fe fydd y model hwnnw yn cael ei arddangos yn yr amgueddfa yn barhaol o hyn allan diolch i weithgarwch Cymdeithas Etifeddiaeth Cymru Glannau Mersi a gomisiynodd y gwaith gan wneuthurwr modelau blaenllaw o Poole, Dorset, Tony Fancy a oedd yno hefyd i weld cynulleidfa o dros 100 o bobl, yn cynnwys aelodau o Gymdeithas Cymru Ariannin, yn rhyfeddu at ei grefftwaith.

Dywedodd Elan, un o Batagonia yn wreiddiol ond sy'n awr y byw yn Lerpwl, ei fod yn un o ddiwrnodau mawr ei bywyd a llongyfarchodd y Gymdeithas Eifeddiaeth a Tony Fancy am eu gwaith.

"Mae'n ddiwrnod arbennig yn fy hanes cael dadorchuddio model o'r llong a gariodd y Cymry cyntaf i'r Wladfa a chan fy mod yn un o blant y Wladfa mae balchder mawr yng fy nghalon," meddai.

Arweiniwyd y gweithgareddau gan gadeirydd y Gymdeithas, Y Parchedig Dr D Ben Rees. Yn bresennol hefyd yr oedd Susan Wilkinson o Toronto Canada, awdur llyfr a gyhoeddwyd am y Mimosa yn 2007 ac yr oedd un o'i hen ewyrthoedd yn feddyg 21 oed ar y llong.

Elvey MacDonaldYn bresennol hefyd yr oedd prif awdurdod presennol Cymru ar hanes Y Wladfa, Elvey MacDonald sydd hefyd, fel Elan Jones, yn un o ddisgynyddion Edwin Cynrig Roberts.

Mewn anerchiad treiddgar olrheiniodd ef y rhan allweddol a fu i Lerpwl yn hanes y Wladfa ym Mhatagonia gan bwysleisio bod llawer iawn mwy i'r cysylltiad hwnnw nag ymadawiad y Mimosa o'r porthladd yn 1865.

"Gellir dweud yn hollol deg mai Lerpwl mewn sawl ystyr ac y anad unman arall oedd y porthladd i'r Wladfa," meddai.

"Ond y gwir trist, wrth gwrs, yw na wŷr y rhan fwyaf o drigolion y ddinas hon ddim oll am ei chysylltiad a hanes cyfoethog y mudiad gwladfaol Cymreig a dyna pam y mae'r weithred a gyflawnwyd y prynhawn yma yn un mor werthfawr a rhaid diolch a llongyfarch Pwyllgor Cymdeithas Etifeddiaeth Cymru Glannau Mersi dan arweiniad penderfynol y Parchedig Dr D Ben Rees am y gamp maen nhw wedi'i chyflawni," meddai.

 D Ben Rees yn arwain y cyfarfod Dywedodd ei bod "yn deg dweud" mai yn Lerpwl y dechreuwyd o ddifrif ar y gwaith o drefnu gwladychfa ar gyfer y Cymry ymfudol.

"Yn y ddinas hon hefyd y cytunwyd yn derfynol mai Patagonia fyddai'r nod," meddai.

"Yma yn unig y cynhaliwyd trafodaethau ystyrlon gyda chynrychiolwyr llywodraeth yr Ariannin gan osod sylfeini'r cytundeb y byddai Lewis Jones a Love Jones Parry yn ei lofnodi gyda Guillermo Rawson [Gweinidog Gwladol yr Ariannin]," meddai.

Dywedodd hefyd mai aelodau mudiad gwaldychfaol y ddinas hon a orfododd Michael D Jones i symud yn llawer iawn cynt nag a ddymunai i weithredu a sicrhau y byddai'r fintai gyntaf yn gadael pan wnaeth ar y Mimosa.

"Yn ychwanegol, dylid cofio fod nifer o gyn aelodau Pwyllgor Cenedlaethol y Wladychfa yn teithio ar fwrdd y Mimosa a bod mwyafrif aelodau Cyngor y Wladfa, gan gynnwys y llywydd cyntaf Lewis Jones, yr is lywydd Edward Price a'r ail lywydd William Davies yn gyd aelodau o bwyllgor Lerpwl," meddai Mr MacDonald.

Gyda rhan mor allweddol i Lerpwl yn yr hanes dywedodd:

Susan wilkinson, awdur llyfr am y Mimosa "Mae'n destun llawenydd mawr i mi wybod y caiff y model hardd hwn ei arddangos yn deilwng yn yr amgueddfa ac y gall fod o hyn ymlaen yn gyfrwng i roi cipolwg ar stori y Wladfa i'r miloedd o ymwelwyr a'i gwêl - a phwy a ŵyr ddeffro chwilfrydedd rhywun i ymchwilio i hanes y criw anturus a fentrodd arni i sefydlu gwladfa Gymreig."

Canmolodd y dewis o Elan Jones fel yr un i ddadorchuddio gyda Mr Fancy y model o'r llong:

"Mae'n llawenydd ychwanegol mai Elan Jones un o blant y Wladfa a ddaeth yn un o Gynry Lerpwl ac sydd hefyd yn un o ddisgynyddion Edwin Roberts sydd yn ei dadorchuddio," meddai.

Cymerwyd rhan hefyd gan y Dr Alan Scarth, ceidwad y modelau yn yr Amgueddfa a'r Dr Derek Bruno o'r Archifdy Cenedlaethol yn Llundain.






cysylltiadau
Cyfarchion o'r Wladfa



Hanes y Wladfa yn gryno

Rhagor o Batagonia

Llyfr Susan Wilkinson

de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy