主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Taith côr i ymweld â gwreiddiau
Eiry Miles yn sgrifennu o Batagonia.

Taith y Côr Ieuenctid i Luis Beltrán
Yn 1899, 34 mlynedd ar ôl glaniad y Mimosa, daeth llifogydd mawr i'r Wladfa Gymreig yn Nyffryn Chubut.

Dinistriwyd ffermydd a systemau dyfrio a gymerodd flynyddoedd i'w codi. Boddodd anifeiliaid, difethwyd cartrefi a chollodd rhai eu holl eiddo.

Eiry Miles, awdur yr erthyglAeth blynyddoedd o lafur diflino yn ofer.

Torrodd rhai eu calonnau a dychwelyd i Gymru. Aeth eraill i chwilio am hinsawdd fwynach yn Nghanada, ond ymfudodd rhai i fan arall ym Mhatagonia ac ar Fedi 24 1902, cyrhaeddodd nifer o Gymry Dyffryn Camwy ynys Choele Choel yn nhalaith Ro Negro.

Ymdrech ddiflino
Ar ôl sefydlu eu cartref newydd ar yr ynys yn nhref Luis Beltrán, bu'n rhaid iddynt ymdrechu'n ddiflino unwaith eto i ffrwythloni'r tir, ond gyda chryn ddyfalbarhad, cawsant system ddyfrio lwyddiannus erbyn 1903.

Fodd bynnag, canlyniad eu hymfudiad oedd colli'r Gymraeg a'r diwylliant a oedd bellach wedi bwrw gwreiddiau yn Nyffryn Camwy a Chwm Hyfryd.

O fewn llai na chanrif, roedd pobl wedi anghofio sut i ynganu eu henwau a dywedant enwau fel Hughes a Williams mewn ffordd cwbl Sbaenaidd.

Er hyn, ni wnaethant ymdoddi'n llwyr i blith y Lladinwyr. Roedd rhai o bobl ifanc y dref yn awyddus i wybod mwy am eu hanes a'u gwreiddiau. Ffurfiwyd y Comisin de la Cultura Galesa, ail-gydiwyd yn y cyswllt â Dyffryn Camwy ac, yn 1999, trefnwyd y dathliad cyntaf i goffáu ymfudiad y Cymry i'r ynys.

O hynny ymlaen, bu dathliad ar Fedi 24 bob blwyddyn a'r llynedd bu'r dathliad mwyaf eto yng nghwmni corau a dawnswyr o'r Gaiman, Trelew, Esquel a Threvelin, oherwydd ei bod yn ganmlwyddiant yr ymfudiad.

Ond roedd dathliad 2003 yn bwysig hefyd. Eleni dathlwyd agoriad y ffosydd a fu mor allweddol bwysig i ffyniant ffermydd yr ardal.

Cychwyn yn hwyr
Cefais fynd ar daith y côr i Luis Beltrán i gynrychioli Cymdeithas Camwy a hyny'n esgus gwych i gael gweld mwy o Batagonia.

Roedd gen i gwmni da ar y daith hefyd. Ynghyd â'r côr ieuenctid a Mirna yr arweinyddes, roedd y cyfeilyddion Hector Ariel MacDonald a Glory Pugh, a dwy athrawes o Ysgol Gerdd Y Gaiman - Marli Pugh ac Edith MacDonald - i gadw golwg ar y côr.

Cawsant waith hawdd. Nid oedd angen llawer o oruchwyliaeth arnynt roedd eu hymddygiad yn ardderchog drwy'r penwythnos. Er eu bod yn hwyliog ac yn eithaf swnllyd ar brydiau, maent yn bobl ifanc annwyl ac yn syfrdanol o aeddfed o'u cymharu â phobl ifanc yng Nghymru.

Cychwynnodd y bws yn hwyr yn sgil camddealltwriaeth ynglyn â chyflog y gyrrwr. Fel yr aeth y daith yn ei blaen, sylweddolom ei fod yn dipyn o glown (hoffwn ddefnyddio gair cryfach yma!). Rwy'n credu ei fod yn dioddef o'r hyn a eilw'r Sais yn mid-life crisis. Roedd sbectol haul ar ei wyneb hyd yn oed pan fyddai'r haul tu ôl i gwmwl, tunnell o gel ar ei wallt tenau, a siaradai'n ddi-baid am yr holl ferched oedd yn eu ffansio!

Cyrhaeddom am ddau y bore yn hytrach nag 11.00 fel y bwriadwyd ond bu'r daith yn ddigon hwyliog gyda digon o sgwrsio a chanu i gyfeiliant gitâr a charango.

Cawsom groeso cynnes gan Tomás Hughes, trefnydd y dathliad. Roedd yn dipyn iau na'r disgwyl. Pobl ganol oed sy'n trefnu te neu gyngerdd yng Nghymru fel arfer ac anodd yw denu pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath ond yn Luis Beltrán mae hi fel arall.

Rhaid i Tomás geisio tynnu pobl hynach i fod yn rhan o'r pwyllgor, gan fod llawer o'r aelodau gwreiddiol wedi mynd i ffwrdd i'r Brifysgol.

Roeddem yn aros mewn llety i fechgyn yr ysgol uwchradd. Gan fod llawer o ddisgyblion yr ysgol yn byw ar ffermydd anghysbell, rhaid iddynt aros yn y llety yn ystod yr wythnos. Roeddwn felly yn cysgu ar bunk bed digon simsan, a Mirna, Marli, Glory ac Edith yn gwmni imi. Ni oedd y bobl gall ac aeddfed ar y daith ond cawsom ddigon o hwyl a theimlwn fel petawn yn Llangrannog eto!

Bisgedi a mate
Dydd Sadwrn, bwyto ni frecwast Archentaidd iawn o fisgedi a mate yn ein hystafell. Diod boeth a wneir o lysieuyn y yerba mate yw mate ac mae pawb yn ei yfed o'r un cwpan â bombilla - rhyw fath o 'welltyn' metal, arian.

Roeddwn wedi cael siars i beidio ag ymuno yn y ddefod honno, gan fod pawb yn dioddef o ryw anhwylder neu'i gilydd ar ôl yr Eisteddfod a'r gystadleuaeth gorawl, ond bellach mae'r ddiod chwerw a chorslyd yn ormod o demtasiwn i mi. Dydw i ddim gwaeth beth bynnag!

O gwmpas y dref
Wedi hynny, aethom am dro o gwmpas tref Luis Beltrán - tro byr, gan mai ychydig sydd iw weld yn y dref. Yna, cawsom ginio hyfryd o fideos (sbageti) cartref yng nghwmni côr Amuyen a'r grwp dawnsio gwerin, Gwanwyn, o Drelew, a oedd wedi cychwyn ar eu taith am saith y bore hwnnw.

Yn y prynhawn, aethom am wibdaith i dref Choele Choel. Roedd popeth wedi cau gan ei bod yn amser siesta, felly aethom at yr afon y Rio Negro a chael amser braf yn yr awyr iach, yn sgwrsio, yn taflu cerrig i'r afon ac yn mwynhau gwyrddni'r gwanwyn newydd o'n cwmpas.

Amser te
Am chwech or gloch, roedd hi'n amser am de yn Ysgol 11 (rhifau ac nid enwau sydd gan ysgolion y llywodraeth). Ar bob bwrdd, roedd baneri bychain - y Ddraig Goch a baner yr Ariannin - a chlychau'r gog. Roedd y lle dan ei sang, a chawsom fara cartref, jam, a theisennod o bob math.Tra'n sglaffio teisennod, cwrddais ag Elfyn Williams, llywydd y Comisin de la Cultura Galesa. Doedd dim dwywaith mai Cymro ydoedd. Ces sioc pan siaradodd yn Sbaeneg â mi, oherwydd gyda'i fochau cochion rhadlon a'i wallt tonnog, cras, roedd un union fel ffermwr o gefn gwlad Cymru. Ychydig o'r henoed yn unig oedd â brith gof o'r Gymraeg.

Rhoddodd Tomás air o groeso i ni a darllenodd negeseuon gan rai na fedrodd ddod. Yna, cawsom ffilm yn adrodd hanes Cymry Choele Choel, a daeth lwmp i fy ngwddw wrth glywed am eu holl ddioddefaint.

Ar y diwedd, rhestrwyd enwau'r holl deuluoedd Cymreig a aeth yno, a ches fy syfrdanu wrth weld cymaint ohonyn nhw - Jones, Humphreys, Jenkins roedd y rhestr yn faith.

Efallai y byddai'r Gymraeg yn gryfach yn y Dyffryn heddiw pe bai'r holl deuluoedd hynny wedi aros, ond eto mae'n siwr ei bod yn anodd teimlo unrhyw ymlyniad at dir mor ddiffrwyth a hinsawdd mor greulon.

Mor braf fyddai i'r Cymry hynny wybod fod pobl yn cofio am eu dyfalbarhad ganrif yn ddiweddarach.

Dawnsio gwerin
I gloi y te, perfformiodd Dawnswyr Gwanwyn. Hwn oedd y tro cyntaf i lawer o'r gynulleidfa weld dawnsio gwerin Cymreig, ac roedd y plant bach wrth eu boddau yn dynwared y grwp.

Yna, canodd ymwelwyr Dyffryn Camwy Hen Wlad Fy Nhadau, a chawsom gymeradwyaeth wresog. Roedd pawb eisiau diolch i ni am ddod, i roi blas iddynt o ddiwylliant eu cyndeidiau.

Yn y nos, cynhaliwyd cyngerdd yn Eglwys Gatholig Luis Beltrán.



Y CôrRoedd swn yr eglwys yn fendigedig, a'r côr fel côr o angylion. Canwyd nifer o ganeuon Cymraeg, a rheiny a gafodd yr ymateb gorau. Roedd y gynulleidfa ar ei thraed ar ddiwedd y perfformiad, yn gweiddi am fwy.

Cafodd Amuyen ymateb gwych hefyd. Roedd eu detholiad nhw yn fwy eclectig, gyda chaneuon ysbrydol pobl dduon yr Amerig, cân o Frasil a chân Gymraeg hefyd - Dyddiau Dyn Sydd Fel Glaswelltyn.

Pizzas, gwin a phop
Erbyn hanner nos, roeddem yn ôl yn Ysgol 11 i gael ein swper o pizzas cartref a digon o win a phop i bawb.

Rhythmau hudolus cumbia oedd yn ein disgwyl cerddoriaeth â'i gwreiddiau yng Ngholombia, sy'n hynod boblogaidd ymhlith pobl ifanc yr Ariannin ar hyn o bryd. Ond yna, wrth fwyta'n bwyd, cawsom alwadau i ganu Calon Lân a Sosban Fach (yn cynnwys y trydydd pennill sy'n unigryw ir Wladfa).

Canwyd rhai ffefrynnau Archentaidd, hefyd, a phan oedd pawb wedi bwyta llond eu boliau, dechreuodd y twmpath. Javier Brunt Patterson oedd yn arwain dyn ifanc brwdfrydig sydd newydd dreulio blwyddyn yng Nghymru yn astudio'r Gymraeg.

Cyn cychwyn am y Gaiman ddydd Sul, aethom draw am y tro olaf i Ysgol 11 am ein brecwast o goffi cryf a gweddillion teisennod y diwrnod cynt. Sgwrsiais yno â Tomás, a threfnwyd y bydd ef ac aelodau eraill y pwyllgor yn dod i'r Gaiman am ddosbarth Cymraeg cyn hir.

Creodd pobl Luis Beltran argraff arbennig arnaf ac rwy'n edrych ymlaen at eu croesawu i'r Dyffryn. Maent wedi cael blas ar ddiwylliant eu cyndeidiau, a da o beth fydd iddynt gael dysgu tipyn o'u hiaith yn awr.





cysylltiadau


de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy