主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Capel Bethlehem ddyddiau fu Cyhoeddi hanes Bethlehem
Hanes a lluniau un o'r hen gapeli

Mae Capel Bethlehem Treorci yn Y Wladfa yn gant oed eleni

Nos Iau, 17 Ebrill 2008 cyhoeddwyd llyfr dwyieithog, Cymraeg- Sbaeneg, wedi ei baratoi gan Mario Jones, Canmlwyddiant Capel Bethlehem Ardal Treorci a'r Cyffiniau.

Bu'r lansiad yn neuadd Amgueddfa Egidio Feruglio yn Nhrelew ac roedd yr ystafell yn orlawn.

Yr arweinydd oedd Sandra Jones de Monsalve.

Cafwyd gweddi gan Claudia S. Ansaldo de Ortiz, nith i Mario, i ddechrau, a hi, hefyd, oedd yn gyfrifol am ysgrifennu rhagymadrodd i'r llyfr, rhagymadrodd gafodd ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Miss Mair Davies.



Cor cymysg y Gaiman dan arweiniad Marli Pugh de VilloriaI ddilyn, canodd Côr Cymysg Ysgol Gerdd y Gaiman, dan arweiniad Marli Pugh de Villoria gyda Hector Ariel Macdonald yn cyfeilio, O, Nefol Addfwyn Oen.

Darllenodd Claudia ragymadrodd y llyfr yn Sbaeneg a chafwyd sylwadau tra diddorol am y llyfr ei hun gan Dr. Carlos Dante Ferrari, awdur Y Gaucho o Ffos halen a gyfieithwyd i'r Gymraeg a'i gyhoeddi dair blynedd yn ôl.

 Mario Pugh, chwith,  a Dr. Carlos Dante Ferrari. Pwysleisiodd ef pa mor bwysig oedd gwaith Mario i gadw mewn cof hanes ardal Treorci.

I ddilyn cafwyd diolchiadau gan Mario ei hun ac yna canodd Billy Hughes Yr Hen Gapel Bach ar y dôn Yr Hen Arw Groes ac unwaith eto daeth côr y Gaiman i'r llwyfan i ganu Mae ddoe wedi mynd a dangoswyd tafluniau o gymdogion ac aelodau Capel Bethlehem ar hyd y blynyddoedd.

Roedd hyn wedi ei baratoi yn ofalus gan Daniel Ortiz, gŵr Claudia.

Terfynwyd trwy gydganu yr emyn Pantyfedwen dan arweiniad Marli Pugh de Villoria, gyda Hector Ariel yn cyfeilio.

 Y gynulleidfa. Mae'r llyfr wedi ei baratoi yn ofalus ac mae ynddo nifer fawr o luniau hyfryd ac ysgrifau gan Irma Hughes de Jones, Arel Hughes de Sarda, Mario Jones, Alwina Thomas, Elba Humphreys de Perrozzi a hefyd gerddi amrywiol a chasgliad o luniau cymdogion yr ardal ar hyd y blynyddoedd.

Mae'r llyfr 196 tudalen a chlawr meddal - (ISBN 978-987-05-4200-1) wedi ei brintio yng ngwasg llyfrgell Agustín Alvarez, Trelew ac wedi ei ariannu gan yr awdur ac yn costio 35 peso - ac mae werth pob sentan o'r pris!

Llongyfarchiadau i Mario am ei waith a diolch yn fawr i bawb a fu yn help iddo.
Luned Gonzalez




cysylltiadau
  • Rhagor o straeon a newyddion o Batagonia

  • de america

    Yr Ariannin
    Apel am pesos coch y delyn

    Newyddion y Gaiman

    Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

    Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

    Ymweliad criw Ystradgynlais

    Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

    Eisteddfod Trevelin 2004

    Taith côr i ymweld â gwreiddiau

    Newyddion

    Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

    Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

    Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

    Kyffin Williams ym Mhatagonia

    Marw Ieuan May Jones

    Agor Ysgol yr Hendre

    Chwilio am wreiddiau

    Newyddion Gorffennaf 2006

    Taith bro'r Gadlas

    Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

    Teyrnged i ffotograffydd blaengar

    O Batagonia i wlad ei dadau

    Llwyddiant cynllun athrawon

    Darlith i gofio Lewis Jones

    Diwrnod y gêm

    O Grymych i Ariannin

    Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

    Hwb i ddawns y glocsen

    Angen cymorth yn Nhrelew

    Croesawu ymwelwyr

    Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

    Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

    Cofio'r croesawydd siriol

    Newyddion Rhagfyr

    Newyddion Mehefin 2006

    Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

    Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

    Cofio Moelona

    Cofio'r Mimosa

    Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

    Ysgol feithrin

    Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

    Newyddion Mawrth 2006

    Marw Marta Rees, Plas y Coed

    Marw Mair Davies

    Ethol Cymro yn faer

    Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

    Yn y llwch a'r lludw

    Cyfarfod Karen a Glyndŵr

    John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

    Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

    O Fro Dinefwr i'r Wladfa

    Enw newydd i ysgoloriaeth

    Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

    Aelodau newydd
    Gorsedd y Wladfa 2008


    Cofio Virgilio Horacio González

    Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

    Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

    Gŵyl y Glaniad 2005

    Pecynnau i ysgolion

    Darganfod y Gymraeg

    Eisteddfod 2007

    Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

    Ysgol y Dreigiau Bach

    Cinio blynyddol

    Croeso i gylchgronau Cymraeg

    Ymweliad Cor Merched y Gaiman

    Marw cerddor neilltuol

    Ysgol Trelew

    Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

    Cadair y Wladfa 2005

    'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

    Cyhoeddi hanes Bethlehem

    Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

    Athrawon 2007

    Arwyddion dwyieithog

    Colli bardd swynol

    Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

    Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

    Paratoi i ddathlu canrif a hanner

    Mimosa - canmol y fenter

    Y Mimosa

    Maradona:

    Lluniau Patagonia

    Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

    Sgrech y dathlu!

    Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

    Cofio Fred Green

    Edrych ymlaen at lanolin

    Profiad Patagonia

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Dafydd Du ym Mhatagonia

    Nadolig yng ngwres yr haf

    Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

    Ymweliad Côr y Wladfa

    Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy